Cyn i chi ddweud dim, yndi, ma’ hwn yn ddi-glwten. Ond dim am ‘mod i’n trio (a methu) i fod yn trendi, na’n ceisio dechrau dadl, ond oherwydd bod pawb yn y byd ‘ma, yn haeddu brechdan jam, bob hyn a hyn. ‘Ma ‘na lot o ddirgelwch mewn bara di-glwten, lot o gam ddealltwriaeth yn mynd …
Mis: Medi 2018
Pitsa Char Siu! Ymddiheuriad o flaen llaw yw hon i’r holl gymuned Asiaidd sydd am weld y pitsa ‘ma fel gwawd llwyr, yn amarch i BBQ a pherffeithrwydd porc Char Siu. Ond does genna i ddim och i fod yn onest. ‘Ma’r pitsa ‘ma’n anhygoel! Twmplen, neu dumpling oedd ysbrydoliaeth y pitsa ‘ma. Yn draddodiadol, parsel o gig …
Pan oed Sadyrnau’n las…yn La Rochelle. Taith lawr arfordir gorllewin Ffrainc yw ein hysbrydoliaeth heddiw, o bentref delfrydol La Rochelle. Y fi a’r cariad, ar wyliau delfrydol o haf, yn teithio Ffrainc i weld be oedd gan y wlad ei gynnig. Mi laddodd o ni. Erbyn diwedd y daith yn Bordeaux, prin medru cerdded i’r …
Diwedd yr haf, a ma’r fej yn hedfan i mewn. Tomatos, pupprau, pys, popeth. Yn ffodys i ni, mae’n rhienni ni’n fwy o bobol awyr agored ‘na ‘da ni’n feddwl, mwy na ni beth bynnag! Felly ma’ na gymsgedd reit dda o lysiau yn y cnydau ‘ddaw i i mewn. Efo’r holl lysiau ‘ma’n casglu, …
O blantos bach i’r Michelin chef, dyw wyau’m yn ddieithr i neb. Wyau, yw asgwrn cefn y gegin. Efallai eich bo’n mwynhau ŵy ‘di sgramblo bora ‘ma, neu’n mentro’r drewdod a ca’ brechdan ŵy i ginio. Neu efallai eich bod, fel y gorau ohonom, yn rhythu ar oergell wag, ond mai’n iawn, mae omlet, neu quiche bach, o …