Pitsa Char Siu: Bol porc mewn saws BBQ Tsieineaidd, efo ciwcymbr a sibols

Pitsa Porc Char Siu

Pitsa Char Siu!

Ymddiheuriad o flaen llaw yw hon i’r holl gymuned Asiaidd sydd am weld y pitsa ‘ma fel gwawd llwyr, yn amarch i BBQ a pherffeithrwydd porc Char Siu. Ond does genna i ddim och i fod yn onest. ‘Ma’r pitsa ‘ma’n anhygoel!

Twmplen, neu dumpling oedd ysbrydoliaeth y pitsa ‘ma. Yn draddodiadol, parsel o gig neu lysiau wedi’ lapio mewn toes yw twmplen. Yn nwyrain pell, un ffurf ar y dwmplen, yw byns bao, neu baozi. Parseli toes sydd eto’n cael eu llenwi efo cig neu lysiau, cyn cael eu stemio i’w pobi. Mae hyn yn creu twmplen ysgafn sy’n wyn gloyw a’n amhosib i’w gwrthod.

Beth sy’n gwneud nhw hyd yn oed gwell, yw eu llenwi efo Porc Char Sui.

Bol porc wedi’  gwcio am amser maith mewn saws melys yw porc Char Sui. Mae’r saws yn gorchuddio’r porc a’n carameleiddio drosto i ffurfio crwstyn. Unwaith mae’r porc yn dendr, mae’r holl beth yn cael ei falu’n ddarnau, saws, porc, y braster, popeth, efo nionyn a garlleg i greu cymysgedd gludiog moethus o borc BBQ.

Ar y pwynt yma, mi allwn gymryd y gymysgedd porc yma a’i ddefnyddio i lenwi toes, sydd yna’n cael ei stemio i greu byns bao Char Sui (y peth ograu allwch chi flasu).

Ond, gan ‘mod i’n mynnu mynd yn groes i’r graen, mi benderfynais newid trywydd yn fan hyn yn do. Dyma pam mae rysáit pitsa ‘da chi’n darllen yn de. Ond i mi, trywydd sy’n bell o’r eithaf ydi o. Toes yw pitsa i ddechrau wedi’r cyfan. Os orchuddiwn i ein toes pitsa efo porc Char Siu a’i bobi, ma’ proffil blas y pitsa a’r bao am aros yr un fath. Porc BBQ ar does ‘di bobi! Yr unig wahaniaeth wrth gwrs yw’r modd coginio.

Gorffen yr holl beth efo ciwcymbr a sibols ffres i dorri ar foethusrwydd y saws, ac mae gen ti’r pitsa Char Siu. Pitsa sy’n ddiffiniad o’r blas a’r naws ‘sa chi’n disgwyl o fwyd Tsieineaidd. Trïwch hi, y pitsa Char Siu.

 

I baratoir’ porc Char Sui

 

Paratowch y saws drwy gymysgu’ch holl gynhwysion a’u cynhesu (microdon neu stof) i ryddhau’r blas

120 ml saws soi
80 ml mêl
80 ml saws coch
60g siwgwr (y tywylla y gorau)
80 ml fineg (fineg gwin reis sy’n ddelfrydol ond mi wneith gwin gwyn)
2 tbsp saws hoisin 
2 tbsp lliw bwyd coch (opswin)
1 tsp powdwr pump-speis Tsieineaidd
Os nad oes ganddoch bowdwr pump-speis, gallwch gyfuno’r sbeisys isod (neu o leia’r rhai sydd wrth law) mewn pestl a mortar
1 tsp sinamon mân
1 tsp clof mân
1 tsp hadau ffenigl ‘di tostio a’u malu
1 tsp coeden anise ‘di flau’n fân
1 tsp pupur llawn szechuan (neu pupur du) ‘di tostio a’u malu

Tywalltwch y saws dros eich bol porc a’i adael i farinadu dros nos yn y fridge

Mi wneith unrhyw beth i ddal y porc yn fan hyn, gallwch ddefnyddio bagiau rhewi, powlen â cling film drosto, beth bynnag. Y peth pwysig yw bod y marinâd yn gorchuddio’r porc.

  • Saws Char Siu
  • 600g o Fol Porc ‘di dorri, neu 1kg o fol porc llawn (tynnwch y grofen, y croen a’r braster llu, os yn defnyddio darn llawn, fideo yma’n dangos sut i wneud hyn)

 

Y diwrnod canlynol, rhowch y porc a’r saws i gyd i mewn i din pobi

Jest gwnewch yn siŵr bod y saws yn ddigon dwfn i orchuddio’r porc o leiaf hanner ffordd i fynnu.

 

Pobwch ar 160°C

Gall yr amser pobi newid yn ôl maint a siâp y porc, os ydi o wedi’ dorri’n barod, yna mi fydd awr siŵr o fod yn ddigon. Ar y llaw arall, os yw’r darn porc yn llawn efo’r esgyrn a’r braster trwchus dal arno, mi all gymryd hyd at 2-3 awr. Y peth pwysig yw bod y cig yn cyrraedd 75°C a’i fod o’n troi’n ddigon tendr i’w dorri’n fân. Arwydd bod o’n barod efo darn llawn wy pan mae’r esgyrn yn medru cael eu tynnu heb bron i ddim ymdrech.

Ychwanegwch ddŵr os yw’r saws yn dechrau sychu allan (ond gadewch ddarnau o’r porc sychu, mi fydd y crwstyn gewch chi’n anhygoel!)

 

Gadewch i’r cig orffwys (10 munud i ddarn ‘di dorri, 20-30 i ddarn llawn)

 

Torrwch y cig yn fân yn y saws, yn ychwanegu nionyn a garlleg i’r gymysgedd

Esgus o’r diwedd i nôl y cleaver 😉

  • bol porc a saws Char Siu ‘di pobi
  • nionyn ‘di dorri’n fân iawn
  • 1 clof garlleg ‘di dorri’n fân iawn

Gallwch rŵan roi’r gymysgedd i un ochor (neu ei gadw’n y fridge) nes bod ei angen.

 

Ar gyfer creu’r pitsa Char Siu

Agorwch belen toes ar gowntar efo digon o flawd

Llwywch haen o’r porc Char Siu drost y toes (efo hanner llwyed o saws tomato os oes angen ei lacio rywfaint iddo allu lledu’n iawn)

  • Ladl o borc Char Siu
  • Hanner ladl o saws tomato (opsiwn os yw’r porc yn rhy drwchus)

 

Chwistrellwch ychydig o ddŵr drost arwyneb y pitsa a’r porc (os yn medru)

Mi wneith hyn arbed y crwstyn brownio’n rhy sydyn (i gadw’r edrychiad golau twmplen ‘na) a hefyd mi wneith arbed y porc rhag llosgi cyn bo’ gwaelod y pitsa’n pobi drwyddo (mae crynodeb siwgwr y saws yn golygu bod o’n hawdd iawn ei losgi)

 

Pobwch ar garreg bobi ar dymheredd uchaf eich ffwrn (4-10 munud)

 

Gorffennwch efo ciwcymbr a sibols

  • 8 darn ciwcymbr, wedi torri’n ffyn, efo’r hadau ‘di tynnu
  • llond llaw o sibols ‘di torri’n olwynion

 

Mewnbwn ychwanegol / diweddariad

Dyma ambell i sylw ar ôl wythnos o gynnig pitsa Char Siu

  • Mae defnyddio saws tomato fel sylfaen efo’r porc yn creu pitsa sy’n rhy felys o lawer. Wedi dweud hyn, gan mae saws coch yw sylfaen y Char Sui, mae modd defnyddio saws tomato yn y gymysgedd Char Sui tra’n ei bobi, heb iddo fod yn or felys.
  • Gan fod y saws cyntaf yn reit felys, mi gymerais i 25% o’r siwgwr allan (60g yn lle 80g). Efallai os ydw i’n defnyddio saws tomato yn unig, y buasai angen yr 80g ond efo saws coch, mae 80g yn rhy felys o lawer.
  • Does ddim rhaid pobi’r pitsas yma mor hir a rhai eraill, riw hanner yr amser efallai (efo dŵr drosto hynu yw)
  • Mae angen bod yn drwm efo’r ciwcymbr a’r sibols, y rhain sy’n torri ar y melystod a’n cwblhau’r ‘profiad’ Tsieineaidd, y peth sy’n gwthio i fod yn ‘oh ia!’ math o beth a ddim jest ‘neeeeeeis’.