Dyma bost prin newydd i chi yma ar Artisaniaeth! Er mwyn gwella’r safle, a fy ngallu i’n ei redeg, mi rydw i ar ganol cwrs Cynhyrchu Cyfryngau Uwch efo Prifysgol Aber. Fy ngobaith efo’r cwrs Cynhyrchu Cyfryngau Uwch yw i lenwi bylchau yn fy nealltwriaeth o gynnal gwefan, graffeg, golygu a saethu fideo a dadansoddi …
Cyn i chi ddweud dim, yndi, ma’ hwn yn ddi-glwten. Ond dim am ‘mod i’n trio (a methu) i fod yn trendi, na’n ceisio dechrau dadl, ond oherwydd bod pawb yn y byd ‘ma, yn haeddu brechdan jam, bob hyn a hyn. ‘Ma ‘na lot o ddirgelwch mewn bara di-glwten, lot o gam ddealltwriaeth yn mynd …
Pitsa Char Siu! Ymddiheuriad o flaen llaw yw hon i’r holl gymuned Asiaidd sydd am weld y pitsa ‘ma fel gwawd llwyr, yn amarch i BBQ a pherffeithrwydd porc Char Siu. Ond does genna i ddim och i fod yn onest. ‘Ma’r pitsa ‘ma’n anhygoel! Twmplen, neu dumpling oedd ysbrydoliaeth y pitsa ‘ma. Yn draddodiadol, parsel o gig …
Pan oed Sadyrnau’n las…yn La Rochelle. Taith lawr arfordir gorllewin Ffrainc yw ein hysbrydoliaeth heddiw, o bentref delfrydol La Rochelle. Y fi a’r cariad, ar wyliau delfrydol o haf, yn teithio Ffrainc i weld be oedd gan y wlad ei gynnig. Mi laddodd o ni. Erbyn diwedd y daith yn Bordeaux, prin medru cerdded i’r …
Diwedd yr haf, a ma’r fej yn hedfan i mewn. Tomatos, pupprau, pys, popeth. Yn ffodys i ni, mae’n rhienni ni’n fwy o bobol awyr agored ‘na ‘da ni’n feddwl, mwy na ni beth bynnag! Felly ma’ na gymsgedd reit dda o lysiau yn y cnydau ‘ddaw i i mewn. Efo’r holl lysiau ‘ma’n casglu, …
O blantos bach i’r Michelin chef, dyw wyau’m yn ddieithr i neb. Wyau, yw asgwrn cefn y gegin. Efallai eich bo’n mwynhau ŵy ‘di sgramblo bora ‘ma, neu’n mentro’r drewdod a ca’ brechdan ŵy i ginio. Neu efallai eich bod, fel y gorau ohonom, yn rhythu ar oergell wag, ond mai’n iawn, mae omlet, neu quiche bach, o …
‘Chi ‘di nal i; “Poblyddwr! Poblyddwr!” Glywai chi’n canu. Anodd yw osgoi mabwysiadu dy gymdogion. I efelychu’ch cymdogion a’r byd ydych yn byw ynddi. I mi, bwyd yw’r byd ‘na. Yn fwy pennodol, bwyd ‘di bobi. Genna i gariad at bobi. Bara brith i fara brown, cwcis i cracers, ‘dwi wrth fy modd â nhw i …
Y syniad Yn y bwyty, surdoes fyddai’n defnyddio fel burum yn ein toes pitsa. Bob dydd, mi fyddai’n cymryd rywfaint o’r surdoes, a’n ei ychwanegu at ddŵr a blawd, i greu’r toes pitsas. Fel arfer, ‘ddai’n defnyddio tua 4% pwysau’r blawd a ddefnyddwyd. Hynny yw, i 10kg o flawd, mi ‘ddai’n defnyddio 400g o starter …
Un arall o’r Pizza Bible gan Toni Gemignani. Ers amser ‘dwi ‘di bo’n llygadu un o’i ryseitiau ar gyfer pitsa’n defnyddio cig selsig. Topin sy’n glasur ar unrhyw bitsa Efrog Newydd, mae selsig ar bitsa’n rywbeth ‘dwi wastad wedi bod eisiau profiadu. ‘Drai’m deall yr apel! Mewnfudwyr Eidaleg yn pobi cig amrwd ar fara , caws a tomato, …
Croissan Cwestiwn bach diniwed. Cwestiwn delfrydol i mi’n hogyn bach. Daw pŵer bwyd o fagu perthnasau, o rannu. Rhannu gweithgaredd. Rhannu cegeidiau trwsgl pastri. Rhannu bodlonrwydd. Dim rhyfedd felly, mae un o’r atgofion (lythrennol) mwyaf melys sydd genna i o blentyndod, yw nol fanila slice o stryd Bangor efo Mam. Fel ‘dwi ‘di gyffwrdd arni wrth …