Y Bwrdd Gaws: Siytni Maro Cartref, Salami Bafarian a Cheddar Cryf Cymreig

Marrow chutney, salami and strong mature cheddar pizza, topped hot, or cold

Diwedd yr haf, a ma’r fej yn hedfan i mewn.

Tomatos, pupprau, pys, popeth.

Yn ffodys i ni, mae’n rhienni ni’n fwy o bobol awyr agored ‘na ‘da ni’n feddwl, mwy na ni beth bynnag! Felly ma’ na gymsgedd reit dda o lysiau yn y cnydau ‘ddaw i i mewn. Efo’r holl lysiau ‘ma’n casglu, doe yna’m osgoi’r peth dim hirach. Ma’ hi’n amser gwneud siytni. Wedi dweud hynnu, does gennai’m clem pan ddaw hi at wneud siytni. Jest jar o lysiau llawn siwgwr a finegr ydi nhw beth bynnag yn de?

Efallai, ond mae rhai jariau yn well na’i gilydd. Yn enwedyf os yw Nain rhywbeth i wneud â’r peth.

Wedi fy ngwynebu efo pentwr o maros yn gwaith felly, ond un person oeddwn i’m medru meddwl i alw arnynt am help. Ond un person all arwain mi drwy’r mynydd o lysiau ‘ma. Nain; brenhines siytni Aberystwyth.

Efo gwobr sioe amaeth newydd bob wythnos, mae siytnis Nain yn lythrenol ‘award winning’ (fel sa’ hi’n dy atgoffa ‘dwi’n siwr). Hyd yn oed mwy ffodus, mae un o’r ‘award winners’ ‘na, yn un siytni maro. Perffaith

Wrth gwrs, dydi ca rysáit siytni da ddim yn golygu bod gennai bitsa da, ond doeddwn i’m yn bell fod. Efo digonedd o salami Almaeneg da angen ei ddefnyddio, a Cheddar cryf ar sêl yn Tesco, ond llwyed o siytni oedd angen i briodi’r ddau ar bitsa. Yn fy mhen, pitsa gwyn oedd gennai, ‘di rholio’n dennau a ‘di frwsio efo menyn tawdd, halen a phupur, a bach o rhosemari cyn pobi, i gael crwstyn fel cracer. Ar y sylfaen yma wedyn, mi a’r cheddar, salami a siytni, i gyd yn oer, ac yn hael.

Yn anffodus, ma hi’n anodd iawn gwerthu pizza efo topins oer, dim i Instagramwyr na cwsmeriaid gwaith. Dyma hyn felly’n arwain at y Bwrdd Gaws ‘poeth’, sef siytni marrow fel saws i’r pitsa, efo cheddar, salami, halen a phupur, a rhosmari’n mynd ar cyn ei bobi.

Beth bynnag yw eich ffansi, cewch y ryseitiau ‘da chi angen i wneud y pitsa ‘ma, i gyd isod.

 

I wneud y siytni maro

Ymiddheuriadau yn gyntaf. Mae’r mesuriadau isod yn ddyfalu llwyr. Dydi siytni ‘award winning’ yn amlwg ddim yn rywbeth sy’n digwydd drost nos, a felly ond y cynhwysion ges i gen Nain, nid y mesuriadau fel y petai. Unai awgrymu dyliwn i wybod sut i wneud siytni yn barod ma hi, neu ma hi jest yn cadw’r rysáit yn gyfrinach. Pwy a wyr.

Am y tro, mi fydd raid i’r rysáit isod wneud. Rysáit wedi eu ddwyn o wefan jariau Kilner oedd hwn, wedi’ addasu ar gyfer gofynion cynhwysion Nain. Dylai wneud digon o siytni i lenwi jar 2 litr.

 

Pliciwch a tynnwch yr hadau o’r maro cyn ei dorri’n fân

Cofiwch mae’r cam yma sy’n penderfynnu os ydych yn bwyta siytni neu jest lwmps mawr o lysiau mewn saws. Ceisiwch dorri’n eithaf mân felly, er budd eich brechdannau.

1.6kg maro

 

Halltwch y maro drosto, gorchuddiwch mewn cling film a’i roi’n y fridge dros nos

Pwrpas y cam yma yw i dynnu dŵr o’r maro, sy’n arbed chi rhag gael siytni llawn maro llipa dyfrllyd.

 

Y diwrnod wedyn, rhowch y maro ‘di dorri mewn gogr a’i olchi o dan dŵr oer. Draenich yn dda.

Y prawf gorau oedd gennai oedd jet i flasu’r maro bob hyn a hyn nes oedd yr blas hallt wedi mynd. Dim bod blas da iawn arnynt yn amrwd beth bynnag.

 

Torrwch y llysiau a’r ffrwythau eraill i gyd yn fân

Eto, y maint rydych yn torri nhw i yw’r maint byddwch yn bwyta, felly peidiwhc a diogi efo’r gyllell!

  • afal fawr, wedi’ blicio a’r cannol ‘di dynnu
  • nionyn/sialot
  • 1 tbsp sinsir fres ‘di gratio
  • 300g bricyll sych
  • 1 clof garlleg

 

Ychwanegwch y llysiau a’r ffrwythau ‘di torri at sosban dyfn, efo’r siwgwr, finegr a sbeisys

  • Llysiau ffrwythau wedi’ torri 
  • 375ml finegr brag (neu pabynnag finegr sydd ganddoch ar law / sydd well gnaddoch chi)
  • 400g siwgwr damurerea
  • 1 1/2 tbsp hadau mwstard ed
  • 1 tsp pupur ceyenne
  • 1 tsp tyrmeric

 

Cynheswch a pobwch y gymysgedd drost wres isel am 2-3 awr nes iddo leihau a dechrau twchu

Eto, dydw i ddim yn arbenigwr siytni, ond mi ‘dwin’ amau mae’r amser ydych yn ei gwcio, a’r pwysau siwgwr ydych chi’n ddefnyddio sy’n pendeerfynnu dwysedd y siytni. Yr unig beth alla i ddweud yw bod hwn yn siytni da a mod i’n cytuno llaw ar fy nghalon efo dewis cynhwysion Nain (er gwaethaf y diffyg mesuriadau).

 

Ar gyfer creu’r pitsa

Agorwch belen toes ar gowntar efo digon o flawd

 

Os yn pobi’r topins

Llwywch haen o’r sityni drost y toes, yn gosod y caws a’r salami ar ei ben

  • Ladl o’r siytni
  • llond llaw o cheddar cryf, ‘di dorri’n ddarnau garw
  • salami ‘di sleisio’n stribedi (neu bresola os yn taflu arian o gwmpas)

Gorffenwch efo digon o halen a pupur a pobwch ar garreg bobi ar dymheredd uchaf eich ffwrn (4-10 munud)

  • pins sea salt
  • pins cracked black pepper
  • 1 tsp rhosmari sych neu 1 tbsp o rhosmari fres

 

Os yn rhoi’r topins ar yn oer

Gwasgarwch haen o fenyn tawdd drost eich toes agored. Blaswch efo halen, pupur a rhosmari

  • 2 tbsp menyn tawdd
  • pins halen môr
  • pins pupur du
  • 1 tsp rhosmari sych neu 1 tbsp o rhosmari fres

 

Pobwch ar garreg bobi ar dymheredd uchaf eich ffwrn (4-10 munud)

 

Gorffennwch efo’r cheddar, salami ‘di sleisio a siytni.

  • llwyadau o’r siytni, dim mwy na 1/2 tsp ar y tro
  • llond llaw o cheddar cryf, ‘di dorri’n ddarnau garw
  • salami ‘di sleisio’n stribedi (neu bresola)

 

Mewnbwn ychwanegol / diweddariad

Dyma ambell i sylw ar ôl wythnos o gynnig y pitsa

  • Peidiwch a rholio’r toes yn rhy dennau ar gyfer y fersiwn ‘oer’. Mi wneith unrhwy fan sy’n rhy dennau losgi drwodd yn sydyn iawn, a does dim ffor o guddio fo chwaith!
  • Cadwch y topins yn ddwys, fel pacedi o flas. Crymblwch y caws yn lle ei sesio, torrwch y cig yn stribedi (i’w wasgaru’n fwy teg), defnyddiwch halen môr a pupur mwy bras. Hefyd mae rhosmari fres yn helpu codi’r pitsa, o ran blas ac edrychiad.
  • Ar y llaw arall, y siytni yw’r un peth nad ydych ei angen mewn crynodebau uchel iawn. Mae angen iddo fod yn flas mae popeth arall yn torri’n erbyn i bobol gael riw fath o foment ‘ooooooh, dwi’n blasu fo rwan’. Hefyd yn bosib ei bobi fel sylfaen cyn adio’r topins yn oer (bach o cop out)
  •  Gan fod y caws a’r cig yn toddi mewn i’w gilydd ar y pitsa ‘poeth’, ‘ma blas poeth yn cael ei golli, sy’n ein gadael efo pizza sy’n OK, ond ddim byd newch chi gofio (yn wahanol i’r un ‘oer’ hint hint)