Mis: Chwefror 2018

Cwcis Ceirch Clegyrog (gwglwch o!)

Gluten-free(ish)? Ceirch iachus? Cnau Cocos?! Os, am ba bynnag reswm, bod un o’r pethau yma’n apelio atoch chi, mi rydych mewn lwc. Wythnos yma, ‘dwi wedi bo’n arbrofi efo cnwd cyntaf Cymru i wneud ein treat diweddaraf: Cwcis Ceirch. This recipe is a trial of Momofuku Milk Bar’s Oatmeal Cookies by Christina Tosi. Mae’r cynhwysion a mesuriadau llawn isod.

Carbonara

Pantri’n wag. Dim byd ar ôl yn y tŷ ond wyau? Ella paced o facwn a hen ddiweddion parmesan? Pasta? Ugh… Ond be pe bawn i’n dweud bod eich cegin gwag chi, efo’r potensial i syfrdanu teulu a gwesteion oll gyda’ch dawn coginio? Y pryd all gyflawni hyw, yw Carbonara. Pryd pasta mwyaf camddealledig Cymru …

Crempogau Llus

Y brecwast tradodiadol Cymreig (a sa neb i ddweud fel arall)! Am ganrifoedd ma plantos Cymru ‘di bod yn dringo’r mynyddoedd i hel y llus. Er mod i’m yn gweld llawar o neb yn dringo’r mynyddoedd rhagor (ddim i nol llus beth bynnag), dio’m yn reswm i beidio mwynhau’r brecwast gorau sydd yna: Crempogau llus. …

Macarons

Croeso i fideo cyntaf Artisaniaeth.com! Dyma fy nghyfres gyntaf yn dangos i chi’n union sut mae meistroli technegau pobi, efo gwyddoniaeth, a bach o steil. Dyma i chi demo bach ar sut i wneud Macarons (diolchwch i Google AdWords am hynny), yn dadansoddi’r camau, mewn creu bisged fwyaf bygythiol y byd. Mae’r rysáit yma wedi cael ei …

Focaccia (Cymreig)

‘Sginach chi does yn sbâr. ‘Da chi isho toes yn sbâr? Yn y fideo yma, mi fydda i’n dangos i chi sut i wneud focaccia, yn defnyddio go-to-recipe toes fi. Mae’r rysáit toes yma’n un dwi’n ei ddefnyddio ar gyfer bob dim, o bitsas i frechdanau, ond fel cyflwyniad i bobi bara, does dim byd gwell …