Crempogau Llus

Y brecwast tradodiadol Cymreig (a sa neb i ddweud fel arall)!

Am ganrifoedd ma plantos Cymru ‘di bod yn dringo’r mynyddoedd i hel y llus. Er mod i’m yn gweld llawar o neb yn dringo’r mynyddoedd rhagor (ddim i nol llus beth bynnag), dio’m yn reswm i beidio mwynhau’r brecwast gorau sydd yna: Crempogau llus.

Dyma fideo sydyn yn dangos sud ma gwneu’r crempogau Americanaidd efo twts traddodiadol.

Am y rysáit llawn efo’r cynhwysion a mesuriadau, cliciwch i ddarllen mwy.


 

Nodyn ar fesuriadau: Fydd hwn yn ddigon ar gyfer 20 o grempog bach neu 10 crempog mawr.

Paratoi’r Batter (neu’r cytew, yn ôl y sôn)

Mesurwch eich blawd, halen, a powdwr pobi, mewn powlen (gwnewch hyn unrhyw bryd, o flaen llaw)

  • 200g blawd plaen
  • 1 tsp / 5g powdwr pobi
  • 1tsp / 5g halen

 

Chwipiwch eich wyau efo’r siwgwr nes i’r gymysgedd droi’n olau a thrwchus ( 3-4 munud )

  • 2 ŵy
  • 2 tbsp / 30g siwgwr

 

Wisgiwch yr wyau, llefrith a fanila  fewn i’r cynhwysion sych cyn ychwanegu’r menyn. ( < 1 munud )

  • 240ml llefrith
  • 1 tsp / 5g rhinflas fanila

  • 60g menyn tawdd

Erbyn rwan, mi ddylech chi gael batter go drwchus, ond nid esmwyth o angenrheidrwydd. Os ydych yn gor-wisgio’r batter yna bydd gormod o glwten yn cael ei ddatblygu ac mi fydd gennych chi grempog ddwys fel rwber, yn lle ysgafn neis.

Rŵan mae dau opsiwn efo chi:

 

Opsiwn 1: Ychwanegwch y llus i’r batter a’i gymysgu’n ysgafn, mond i wasgaru’r llus

  • 100g llus

 

Opsiwn 2: Mewn sosban, berwch y llus efo siwgwr dŵr nes creu surop.

  • 100g llus
  • 50g siwgwr
  • 2 tbsp / 30g dŵr 

Unwaith mae’r batter wedi’ gymysgu, fydd angen dechrau pobi’r crempogau’n sydyn, mi rydych chi rŵan mewn ras yn erbyn glwten. Y hira caiff y batter ei adael, y cryfaf eith y gluten a’r gwaethaf fydd eich brecwast/pwdin/te!


Amser fflip’o!

 

Cynheswch badell dros wres canolig, yn ei iro efo haenen denau o fenyn, neu olew.

Y teneua yw’r haen yma, y gorau (dim byd sy’n ddelfrydol, a dyma pam ‘dwi’n rogio efo’r panini maker!). Y brasterau iro ‘ma, trwy greu swigod, sy’n gadael smotiau golau ar waelod crempogau a’n gwneud gwarth ohonynt ar Instagram!

 

Cymerwch lwyed o’r batter a’i dywallt yn araf i’r badell.

Am grempog berffaith, cadwch y batter o fewn perimedr y grempog trwy droi’r llwy ar i mewn wrth dywallt. Mi wnewch chi ffurfio twmpath wneith ledaenu’n araf bach wrth i’r batter gynhesu i ffurfio crempog hollol gymesur.

 

Gadewch iddo bobi nes bod swigod yn dod i’r wyneb a bod stem yn dod oddi tan y crempogau ( ~ 3 munud )

Trowch y crempogau a gadewch iddynt bobi trwyddynt ( ~ 2 funud )

Croeso i chi fflipio efo llaw wrth gwrs ond i fod yn onest, well ginaf wneud 20 crempog efo sbatiwla na 5 heb un. ‘Da ni’n son am grempogau’n fama, ‘sginaf i’m amser i flau cachu!

Staciwch y crempogau fynnu i’w cadw’n gynnes cyn chwalu’r holl dwmpath! 

Gwnewch yr ‘ogyn Un Nos na’n proud!

 


Mwy i drio

Gobeithio neith y crempogau blesio, pryd bynnag ydych chi’n penderfynu’ cael nhw. Am fwy o syniadau o beth i gael efo nhw, cymerwch olwg ar ein Menyn ‘di Brownio neu ein rysáit Surop 10 Munud (i ddod).