Tapenade (efo Tomatos Sych)

Cyfri’r dyddiau i’ch gwyliau nesaf yn y Med?

Wel, mae gennyf i rywbeth bach i’ch cario chi drwy’r misoedd oer yma. Beth ydw i wedi bod yn chwarae efo’n ddiweddar, yw’r saws Canoldirol gorau sydd yna: Tapenade.

Cewch y rysáit efo mesuriadau a chynhwysion isod.


Wneith hwn riw jar o saws. Digon i tua 4 platiad o basta, neu torth go hefty o fara.

Mi rydw i hefyd yn hysbys o’r ffaith mae capers ac anchovis, nid tomatos sy’n gwneud tapenade traddodiadol, ond mi fydd raid i chi fy esgysodi am ddewis tomatos neis, yn hytrach na pysgod bach esgyrnog blodau ‘di’ piclo!

 

Paratoi eich cynhwysion

 

Torrwch tomatos sych, olewydd, a’r garlleg.

Does yna ddim angen eu torri’n rhy fân, ond eu bod digon bach i’w rhoi trwy blendar.

  • 2 clof garlleg
  • 20 olewydd
  • 200g tomatos sych

 

Gwasgwch y sudd o’ch lemon a gratiwch sest. 

  • 1 lemon

 


 

I wneud y saws

Rhowch eich holl gynhwysion mewn jwg ochor uchel.

Mi wneith y jwg ochor sicrhau bod popeth yn cael ei blendio’n iawn gyda’r blendar llaw.

  • garlleg mân
  • olewydd mân
  • tomatos sych mân
  • sudd sest 1 lemon
  • 1 tbsp / 15ml finegr gwin gwyn/coch

 

Gyda blendar llaw, cymysgwch y cynhwysion i mewn i bâst ( ~ 1 munud )

 

Ychwanegwch yr olew olewydd a’i blendio eto fewn i saws tew, talpiog ( ~ 1 munud )

Does ddim angen blendio’r tapenade yn hollol esmwyth, saws efo priodweddau tebyg i pesto ydych eisiau,

  • 120ml olew olewydd

 

Ychwanegwch halen a phupur i flasu.

 

Storiwch y tapenade yn y fridge, mewn jar neu fowlen o dan cling film ac ychwaneg o olew.

Mi ddylai’r tapenade gadw am tua phythefnos. Mae pH isel y tomatos a’r halen yn arbed bacteria fel clostridium botulinium rhag tyfu, er gwaetha’r diffyg ocsigen a’r lleithder.

 


 

Mwy o stwff i neud

Os ydi’r tapenade wedi taro naw efo chi, yna mae mwy ar gael i chi gael trio. Am fwy o sawsiau Canoldirol, cymerwch olwg ar ein rysáit Pesto, neu am fwy o hwyl efo’r blendar, ewch un cam yn bellach a thrïwch ein Aioli Garlleg (i ddod).