Macarons

Croeso i fideo cyntaf Artisaniaeth.com!

Dyma fy nghyfres gyntaf yn dangos i chi’n union sut mae meistroli technegau pobi, efo gwyddoniaeth, a bach o steil.

Dyma i chi demo bach ar sut i wneud Macarons (diolchwch i Google AdWords am hynny), yn dadansoddi’r camau, mewn creu bisged fwyaf bygythiol y byd.

Mae’r rysáit yma wedi cael ei ysbrydoli gan Salted Caramel Macarons Byron Talbot’st

Darllenwch mwy i gael gweld y rysáit llawn o’r mesuriadau a’r camau fyddech chi angen.

(mae cofnod amser yn y rysáit yn cyfateb â amser y cam yn y fideo)


Mae’r mesuriadau isod yn ddigon ar gyfer 14 cragen sef 7 macaron, felly cynnyddwch y pwysau’r rysáit  fel sydd yn briodol.

Mae hyn wedi selio ar y ffaith bod pwyasau’r cynhwysion angen bod yn hafal, felly efo 1 ŵy mawr, sydd ar gyfartaledd yn pwyso 50g, bydd angen pwysa:

almon = siwgwr eising = ŵy = 50g

Mae hyn yn gadael i ni bwyso’r rysáit yn ôl nifer yr wyau rydym am ddefnyddio.

Er engraifft, bydd 3 ŵy yn golygu 3 x 50g o almon a siwgwr icing a felly’n treblu’r rysáit am 21 macaron)

Yn yr un ffordd, mae’r gymhareb siwgwr gronol i ŵy yn 1:2:

1 rhan siwgwr gronol : 2 ran ŵy

felly i bob ŵy a ddefnyddir bydd angen ychwanegu hanner ei bwysau mewn siwgwr i’r gwynwy wrth ei chwipio.

Gyda’r maths drosodd, well i ni ddechrau.

 

Paratoi cynhwysion a offer

 

Y gamp efo Macarons yw paratoi, felly gwnewch siwr bod popeth yn barod cyn dechrau cymysgu i chi ga amser da ohoni.

 

Leiniwch din pobi ochr isel efo papur pobi

I beipio macarons unfaint, tric da ydi i wneud cylchoedd efo pencil/beiro oddi tan y papur pobi fel arweiniad ar gyfer peipio.

 

Rhannwch eich wyau, yn rhoi’r gwynwy mewn powlen glân, di-saim. 

Croeso i chi ddefnyddio’r melyn ar gyfer pasta neu creme patissiere, fel arall, gadewch nhw.

  • 1 ŵy

 

Hidlwch eich siwgwr eising efo’r almon mân

Mae hyn yn gadael i’r siwgwr amsugno unrhyw leithder a saim a ddaw o’r olew yn yr almon, sy’n amddiffin y gwynwy hwyrach ymlaen.

  • 50g siwgwr eisin
  • 50g almon mân

 

Cymysgwch eich lliwiau mewn powlen / potyn bach fel eu bwd nhw’n barod i’w ychwanegu.

 

Gwnewch siwr bod bag peipiospatiwla wrth law.

 


 

Pan yn barod i gymysgu

 

Chwipiwch eich gwynwy efo’r siwgwr bras i greu pigau meddal ( 0:30 – 1:01 ). 

Mae mwy ar chwipio gwynwy yn ein herthygl Gwyddoniaeth Gwynwy.

  • 33g / 1 gwynwy
  • 25-30g / 2 tbsp siwgwr gronnog

 

Whisgiwch fewn unrhyw rinflasau neu liw ( 1:02 – 1:20 ). 

  • 1 tsp rhinflas (vanilla, oren, almon etc)
  • Lliw bwyd

 

Cymysgwch y gymysgedd siwgwr almon fewn i’r gwynwy di chwipio ( 1:30 – 1:40 ). 

  • 100g o’r gymysgedd siwgwr a almon

 

Os yw’r gymysgedd yn ludiog, ond digon rhydd i lifo’n araf, yna mae’n iawn beipio.


Peipio a phobi

 

Llenwch eich bag peipio efo’r gymysgedd macarons. Torrwch y pen oddi ar y bag.

 

Peipiwch y gymysgedd mewn twmpathau bach ar y papur pobi (wedi’ baratoi o flaen llaw efo cylchoedd arweiniol)

O ran maint, anelwch am ddiamedr 3.5 cm efo tua 2 cm rhwng bob macaron.

 

Gorffwyswch y macarons cyn pobi fel bod croen yn datblygu ( 30 – 60 munud)

Dyma yw’r cam sy’n sicrhau bod eich macarons am gael topiau crwn, esmwyth. Byddent yn barod pan allwch chi eu cyffwrdd heb lynu wrthynt.

 

Pobwch y macarons mewn ffwrn isel ar dymheredd rhwng 130-150°C ( 30 munud)

Mae hi’n bwysig cadw’r tymheredd yn weddol isel i gadw lliw’r macarons rhag tywyllu a mynd yn hollol wast.

 

Ar ddiwedd y 30 munud, tynnwch nhw o’r ffwrn, gadewch iddynt oeri ychydig, cyn symud nhw’n ofalus i rac weiar, iddynt gael oeri a sychu allan yn hollol.

 

Llenwi ac addurno

 

Llenwch y crageni efo beth bynag ydych eisiau.

Bag peipio yw’r ffordd hawsach / taclusach ond ‘snam byd yn bod efo llwy a llaw gofalus.

Llaeth tew wedi’ garameleiddio defnyddiais i ond croeso i chi lenwi nhw ffordd arall. Efo ganache (siocled gwyn neu thywyll) er engraifft, neu eising buttercream, jam, peanut butter. Unrhyw beth sy’n glynu’r ddau hanner ei gilydd heb lifo drost y lle, wneith y tro.

 


 

Dyna chi, macarons. Di-fys ac eglur…gobeithio.

O ran storio, mi wneith y macarons gadw am riw 2-3 niwrnod cyn i’r crageni amsugno gormod o leithder a troi’n feddal (dim bod nhw am bara digon hir i gyrraedd y pwynt yma). I slofi’r broses, well cadw nhw’n y fridge, neu mewn man weddol oer a sych.

 

Mwy i Ddarllen

Am ddadansoddiad mwy trylwyr o macarons, croeso i chi gael golwg yn Y Lab ar ein herthygl Meistroli Macarons sy’n edrych ar bob manylyn o’r broses gwneud macarons a’r rheswm cafodd y video yma’i greu!

Neu, am ychydig o gefndir am pam all macrons fodoli o gwbwl, cymerwch olwg ar ein Gwyddoniaeth Gwynwy (i ddod) i ddysgu am y cemeg tu ôl i chwipio’ch gwynwy.