Cruffins – Do, ‘dwi ‘di mynd full on Starbucks

Topiau Cruffins

‘Chi ‘di nal i;

“Poblyddwr! Poblyddwr!”

Glywai chi’n canu. Anodd yw osgoi mabwysiadu dy gymdogion. I efelychu’ch cymdogion a’r byd ydych yn byw ynddi. I mi, bwyd yw’r byd ‘na. Yn fwy pennodol, bwyd ‘di bobi.

Genna i gariad at bobi. Bara brith i fara brown, cwcis i cracers, ‘dwi wrth fy modd â nhw i gyd. Gwell fyth, ‘dwi’n byw yn yr oes ddigidol,, sy’n gadael i mi dynnu ysbrydoliaeth o bob cwr o’r rhyngrwyd.

Ond monopoly yw’r rhyngrwyd yn te, a mae monopoly ysbrydoliaeth yn beth perryg iawn.

Pumpkin Spice Latte

Avocado Toast

Tapas!

Ar un pwynt neu gilydd, os yw rhywbeth, rhywle’n boblogaidd, yna mi fydd y byd yn cael gwybo bod o’n boblogaidd. Pŵer yr rhyngrwyd yn de. Fel y Farchnad, neu’r tywydd, mae’r rhyngrwyd yn system, o anhrefn. Mor amhosib i’w ragweld na ydi o i’w osgoi. Felly cawn yr trends, yr argoelion diweddara sy’n mynd mor boblogaidd, mor sydyn nes eu bo nhw’n yn hapus cad i’n sgrinau.

Oh na.

Mi dreiddith nw allain drwy’r Wi-Fi, yn syth i mewn i fywyd bob dydd. ‘Sa neb yn saff, o ysgolion llawn flossers (‘na, dim rheg odd hwnnw) i blentyn yn yodelo fel awgrymiad potify, ac wrth gwrs siopau coffee. Beth bynnag sy’n plastro Instagram a Pinterest, dyma gewch chi yn eich #CaffiTrendi lleol.

Dyma lle ddaw’r cruffins ma fewn i bethau.

I fod yn hollol deg, ddim dyma ydi’r tro cyntaf i mi arbrofi efo newid y crymbl afal glasurol. Ond mi ydw i wedi dwyn y syniad ym bron iawn yn uningyrchol o Starbucks. Neu o leia wedi dwyn o gan fy nghariad…oedd wedi cael un yn Starbucks. Beth bynnag ddywedwch chi am faint o wreiddiol yw’r syniad yma, mi oedda nhw’n anfarwol beth bynnag. Esgus da i arbrofi efo toffi bach mwy ar gyfer pethau gwell i ddod.

Dyma chi felly, muffins top crymbl; cruffins.

Mi benderfynais dreialu cwpwl o fersiynnau yma, yn eu rhannu nhw’n muffins efo, a heb dop crymbl am un peth. Peth arall oedd blas y cruffins. Tofi ac afal oedd hanner nhw, darnau afal a cinnamon yn y gymysgedd efo lwmp o dofi yn y cannol i greu cannol meddal iddo. I’r ail hanner, mi es i am lemon a llus, cymysgedd bach llai dramatig, ond dal yn cuddio cannol meddal, diolch i’r llus wedi’ sdwffio i gannol y batter ac i’w gannol yn unig.

 

Rysait

Paratoi’r cynhwysion

 

Tofi

 

Cynheswch siwgwr mewn sosban nes iddo feddalu a troi’n euraidd

Dyma sut mae creu caramel. Perffaith yw’r pwynt lle mae mwg jest a dechrau dod oddi ar y siwgwr

  • 200g o siwgwr gwyn

 

Ychwanegwch hanner pwysau’r siwgwr mewn hufen, yn ofalus i beidio cael llos o’r stêm oddi arno

  • 100g hufen dwbwl

 

Cynheswch y gymysgedd i fynnu eto i 118±2°C

Dyma’r tymheredd sydd angen ar gyfer creu tafi sy’n galed ond yn feddal ar dymheredd ystafell. Os heb thermometer, rhowch ychydig o’r gymysgedd mewn dŵr oer i weld os ydio’n oeri i’r gwead priodol.

 

Towalltwch y tofi poeth mewn i din bach pobi ‘di leinio a papur pobi a gadael iddo oeri’n hollol.

 

Afalau

Pliciwch a torrwch afalau’n giwbiau mân

 

Lluwchiwch efo cychydyg o cinnamon a’u rhoi’n y meicrodon wedi’u gorchuddio i bobi ( ~ 90 eiliad )

 

Rhowch yr afalu i un ochor i oeri

Byddwch yn siwr o dynny’r dŵr sy’n casglu oddi tannynt, o na, rhag rhag gwneud y gymysgedd muffins rhy wlyb wedyn

 

Topin Crymbl

Mi ‘ddai’n defnyddio pwysau hafal o siwgwr, blawd, ceirch a menyn i wneud topin crymbl bob tro. I’r rysáit yma, mae 100g o bopeth yn fwy na digon.

 

Meddalwch fenyn (stof neu feicrodon)

  • 100g menyn

 

Ychwannegwch flawd, ceirch a siwgwr ato a’u cymysgu i grymbl brau

  • 100g blawd
  • 100g ceirch
  • 100g siwgwr o’ch dewis

 

Rhowch y crymbl i un ochor a symudwch ymlaen i’r muffins

 

Paratoi y batter i’r muffins

Mae’r rysáit yma’n ddigon i lenwi un tin o 12 muffin. Croeso i chi ddwblu’r rysáit, jest i gael defnyddio 3 ŵy yn lle un a hanner. Hunllef llwyr o wast oedd creu’r muffins ma i chi!

 

Cymysgwch eich holl gynhwysion sych mewn powlen gymysgu

300g blawd

225g siwgwr caster

15g powdwr pobi

2.5g halen

 

Wisgiwch ŵy, olew a llefrith efo’u gilydd mewn jwg

150g llefrith

120g olew llysiau

75g o ŵy

 

Wisgiwch y cynhwysion gwlyb i mewn i’r rhai sych

Peidiwch a gor wneud hi. Wisgwich ddigon i dorri unrhyw lwmps sych i fynnu, ond dim mwy na sydd angen. Angen osgoi’r gluten ‘na yn toes ;D

 

Pobi eich Cruffins

Rŵan yw’r pwynt i flasu eich muffins, felly dyma wnes i ar gyfer y ddau flas:

 

I’r muffins afal a tofi, cymysgwch yr afal ‘di gwcio i mewn i’r batter. I’r rhai llus, sestiwch lemon i mewn iddo yn lle

  • 200g afal wedi cwcio a’u torri

NEU

  • sest 1 lemon

Llwywch batter y muffins i mewn i din muffins ‘di leinio efo casus.

Llenwch nhw i tua hanner ffordd os nad ydych eisiau iddyn lifo drost yr ymyl…ond pawb i’w ddant de. Croeso i chi lenwi nhw i’r top a mwynhau’r llanast a ddaw.

 

I’r muffins afal, rhowch un darn o doffi yn eu cannol. I’r muffins llus, rhowch riw 3 lusen ynghannol pob un yn lle.

  • tofi wedi ei dorri’n giwbiau efo cyllell

NEU

  • Llus, tua 50g wneith

 

Gorffennwch y muffins trwy lenwi gweddill y casus efo’r cymysgedd crymbl

Byddwch yn hael, mae’r batter yn tueddu i lowcio’r crymbl yn gyflymach ‘na fyddech chi wedyn.

 

Pobwch nhw ar 180°C (15 munud)

 

Mwynhewch, eich cruffins #basic.

 

Mwy i Ddarllen

Dyna i chi fy ymdrech i ar y gacen #basic yma. Am rywbeth ychydig bach mwy gwreiddiol, eto, edrychwch ar y crymbl afal ben lawr, neu am bach mwy o wyddoniaeth, ma erthygl am doffi a’r effaith mae braster a gwres yn cael arno, ar y ffordd. Nuggets go iawn yn fanno, ‘dwi’n addo.