Surdoes Di-gluten: Y ateb i Psyllium neu Xantham

Cyn i chi ddweud dim, yndi, ma’ hwn yn ddi-glwten. Ond dim am ‘mod i’n trio (a methu) i fod yn trendi, na’n ceisio dechrau dadl, ond oherwydd bod pawb yn y byd ‘ma, yn haeddu brechdan jam, bob hyn a hyn.

‘Ma ‘na lot o ddirgelwch mewn bara di-glwten, lot o gam ddealltwriaeth yn mynd ymlaen. Canlyniad o boblogrwydd diweddar bwyd ‘di-glwten’ efallai, ond nid yma i gwyno ydw i heddiw. Yma i ymchwilio, ac i ateb cwestiynau ydw i. Fel pobydd, does genna i’m llawer o glem pan ddaw hi at fwyd di-glwten. Fi felly yw’r person gorau i fod yn arwain chi trwy’r byd estron ‘ma gan fod popeth sy’n newydd i chi, hefyd am fod yn newydd i mi, ac felly gwerth eu hymchwilio.

Heddiw ‘ma, dau beth ydw i am edrych arnynt:
  1. Ydi hi’n bosib creu surdoes di-glwten
  2. Be’ all gymeryd lle glwten orau fel rhywbeth i ddal torth at ei gilydd.

Y bwriad yn fan hyn oedd cadw pethau mor naturiol â phosib, yn cadw gymaint o flas naturiol y grawn a defnyddwyr yn y dorth a oedd yn bosib. Dyma i chi felly’r arbrofi aeth ymlaen ac isod, mae cofnod llawn o’r rysáit  weithiodd orau efo’r mesuriadau a thechnegau a defnyddwyr:

 


Nodyn am bwysau’r cynhwysion

Mi wneith hwn un dorth tua 600g.
Isod cewch restr y cynhwysion yn ôl eu pwysau i’w cymharu â pwysau’r blawd yn y rysáit. Gallwch ddefnyddio’r gynyddu neu lleihau pwysau’r cynhwyion i’ch gofynion chi.
flour100%
water115%
psylum8%
starter25%
salt2%
h.y. yn y rysáit isod, mae’r canranau yn y tabl uchod wedi cael eu lluosi efo 4 i’w troi’n gramiau, gan bod angen 400g o flawd sef 100%*4=400g.

Nodyn am y starter surdoes di-glwten

Am fanylion o sut mae newid starter arferol (hynny yw, cymysgedd blawd a dŵr efo pobloaeth sefydlog o furum a bacteria’n byw ynddo) i un di-glwten, cymerwch olwg ar y surdoes ceirch. Yn hwn, mi gymerais starter blawd a dŵr a’i fwydo dro ar ôl tro efo ceirch nes bod crynodeb y blawd, a felly’r glwten yn ddigon isel (llai na 20ppm) i’r starter fod yn gyfreithlon ddi-glwten

Os ydych chi ddim yn hapus (nei ddim efo ffordd) yn defnyddio surdoes arferol i’w droi o’n dd-glwten, croeso i chi geisio dechrau starter o scratch trwy gymygu blawd di-glwten efo dŵr yn y gyfranned 5:6, blawd i ddŵr, a gadewch. Bob riw 2 ddwrnod wedyn gallwch taflu 3/4 ohonafo a’i fwydo fo efo blawd a dŵr eto yn yr un gyfrannedd. Gyda amser mi ddylai’r gymysgedd setlo a mi ffurfith boblogaidd sefydlog o furum a bacteria da.

Y peth pennaf i gofio yw bod dim gwahaniaeth mewn dechrau starter di-glwten na sydd mewn dechrau un efo glwten. Starts sydd angen i gael starter, nid glwten felly mi wneith unrhyw rysáit creu strater y tro, jest eich bod chi’n ei fwydo efo blawd si-glwten a’n ychwanegu digon o ddŵr i’w gadw’n llifo.

Neu jest defnyddiwch furum sych! 😀

Gyda’r rambl ‘na drosodd, dyma’r fideo isod er mwyn gweld y dechneg a mae’r rysáit  oddi tanno mesuriadau.

 

Paratoi’r Toes

 

Cymysgwch eich cynhwysion,mewn powlen gymysgu nes ffurfio crynswth (mas) garw. (2 funud)

 

  • 400g blawd plaen di-glwten (Dove’s Farm ddefnyddiais i)
  • 460g dŵr tymheredd bys (35-38°C)
  • 30g plisgyn psyllium
  • 100g starter surdoes di-glwten (110% dŵr i bwysau’r blawd, wedi’ fwydo 24 awr ynghynt) NEU 7g o furum sych (1 sachet)
  • 1tsp/6.25g halen

 

Gadewch y toes ymlacio ac i’r blawd gael amsugno’r dŵr yn llawn (20 munud)

Mae hyn yn lleihau’r gwaith cymysgu fydd angen arnoch trwy’r broses awtolysis.

 

Tylinwch y toes jest i wneud yn siwr bod popeth wedi cymysgu’n iawn (1-2 funud)

Nid oes angen tylino’n iawn. ‘Does ‘na’m glwten i’w ddatblgu rŵan nag oes.

 

Gorchuddiwch y toes efo cling film, neu mewn twb â chaead, a’i adael i godi dros nos ( ~ 8-14 awr )

 

Y diwrnod wedyn, gallwch drosglwyddo’r toes i din pobi iddo gael profi cyn pobi.

 


 

Ar ôl i’r toes godi dros nos

 

Lluwchwich din torth efo’r blawd di-glwten

 

Trosglwyddwch y toes o’i gynhwysydd a’i siapio [ yn y fideo]

Proses o rolio’r toes i fynnu ar ei hun i greu tensiwn ar yr arwyneb yw’r siapio.

 

Trosglwyddwch y toes i’r din a’i orchuddio efo ffoil. Gadewch i brofi, a chodi, mewn man cynnes ( 2 awr mewn man cynnes)

Os yw’r gegin yn oer, ac amser yn brin, cynheswch eich ffwrn i tua 30°C, rhowch y dorth i mewn, a’i ddiffodd. Ailadroddwch y broses bob awr i gynnal y tymheredd. Ond rhybydd, ‘dwi’n awgrymu’n gryf eich bod yn defnyddio thermomedr digidol, gall dymheredd ffwrn amrywio hyd at ± 20°C o’r hyn a ddangosir ar y thermostat (digon i ladd eich toes).

 

Hanner awr cyn pobi, cynheswch eich ffwrn i 240°C.

Ma hi ychydig yn anoddach dweud pan mae torth di-glwten wedi profi ddigon. Mi fyddai yn arfer gweld os yw oel bys un aros ar ôl yn y toes i weld os ydi o wedi profi digon. Gan bod y toes yma’n reit anystwyth, jest gadael o am riw awran neu ddwy wnes i a gweddio am y gorau.

 

Tynnwch y caead foil oddi arno a sgoriwch y dorth, yn torri’r croen lawr ei hyd i ga rheoli’r ffordd ma’r dorth yn ehangu

 

Seliwch y din efo’r foil eto a pobwch ar 200-180°C ( 10 munud efo stêm, 15 munud heb )

Arbed crwstyn rhag ffurfio’n rhy gynnar ac atal ehangiad y toes mae stêm. Un ffordd o gynhyrchu stêm mewn ffwrn gartref yw gosod tin rhostio llawn dŵr ar lawr y ffwrn yn ystod pobi. Modd arall ‘dw i wedi’ ddarganfod, ydi i selio’r din mewn foil (efo digon o le oddi tano i’r bara ga ehangu) sydd yn dal stêm naturiol y dorth at ei wyneb.

 

Tynnwch y dorth o’r ffwrn ar ddiwedd yr amser pobi (pan fydd canol y dorth ar 205°F / 96°C)

 

Tynnwch y dorth o’r din a’i adael i oeri’n hollol.

Mae angen gadael y dorth oeri iddo gael gorffen pobi’n gyfan gwbl.

 


Mwy i drio

Am behind the scenes o fath i be wnaeth ysbrydoli’r dorth di-glwten ‘ma, ewch draw i’r Lab i gael golwg ar yr arbrawf Ceirch Sur, neu am dorth ddim cweit mor di-glwten, ond sydd cam yn cyfeiriad cywir, ma’r dorth Mêl a Cheirch yma hefyd