Surdoes Mêl a Cheirch

Surdoes ddim yn ddigon fermented i chi?

Trïwch dorth Mêl a Cheirch!

Yn Goron Driphlyg o fwyd fermented, mae’r dorth yma’n cyfuno gwenith, mêl a cheirch i greu bara naturiol a graenus, sydd dal y ddigon meddal i’ch bara jam. Fel Hovis heb y rhwymdra, ideal!

Cewch y rysáit efo’r holl gamau a mesuriadau yma


Mi wneith hwn  un dorth 800g.

 

Paratoi’r Toes

 

Cymysgwch eich cynhwysion, mewn powlen gymysgu nes ffurfio crynswth (mas) garw. (2 funud)

 

  • 200g blawd cryf gwyn
  • 100g blawd gwenith cyflawn gwyn
  • 100g ceirch
  • 130g dŵr tymheredd bys (35-38°C)
  • 45g llefrith (35-38°C)
  • 2tsp/10g halen
  • 200g surdoes (neu 100g o ddŵr, 100g o flawd a 10g o furum sych)

Am esboniad llawn o furum a surdoes, cymerwch olwg ar ein tudalen Bioleg Bara i ddod.

Gadewch y toes ymlacio ac i’r blawd gael amsugno’r dŵr yn llawn (20 munud)

Mae hyn yn lleihau’r gwaith tylino fydd angen arnoch trwy’r broses awtolysis, mwy ar hynna yn fan hyn (i ddod).

 

Tylinwch y toes. (6-8 munud) [ 1:42-2:16 yn y fideo Focaccia (Cymreig) ]

Mi fydd y toes yma ar yr ochor sych felly fydd y modd French Slap ychydig yn rhy frwnt i’r toes yma, arhoswch efo’ch tylino arferol.

 

Gorchuddiwch y toes efo cling film, neu mewn twb â chaead, a’i adael i godi dros nos ( ~ 18 awr )

 

Y diwrnod wedyn, gallwch drosglwyddo’r toes i din pobi iddo gael profi cyn pobi.

 


 

Ar ôl i’r toes godi dros nos

 

Leiniwch din torth efo olew a haenen o flawd.

Mae’r olew yn helpu’r blawd lynu wrth ochrau’r din pobi.

 

Trosglwyddwch y toes o’i gynhwysydd a’i siapio [ yn y fideo]

Proses o rolio’r toes i fynnu ar ei hun i greu tensiwn ar yr arwyneb yw’r siapio.

 

Trosglwyddwch y toes i’r din a’i orchuddio efo cling filmGadewch i brofi, a chodi, mewn man cynnes ( 3-5 awr )

Os yw’r gegin yn oer, ac amser yn brin, cynheswch eich ffwrn i tua 30°C, rhowch y dorth i mewn, a’i ddiffodd. Ailadroddwch y broses bob awr i gynnal y tymheredd. Mi rydw i yn awgrymu’n gryf eich bod yn defnyddio thermomedr digidol, gan fod tymheredd ffwrn yn amrywio hyd at ± 20°C o’r be ddywedir gan y thermostat (digon i ladd eich toes)

 

Hanner awr cyn pobi, cynheswch eich ffwrn i 240°C.

Gallwch ddweud pan mae’r toes yn barod efo bys. Os yw hoel bys yn aros yn y toes, mae o wedi profi, os na, mae dal amser i fynd.

 

Pobwch ar ôl profi ar 200-180°C ( 20 munud efo stêm, 20 munud heb )

Arbed crwstyn rhag ffurfio’n rhy gynnar ac atal ehangiad y toes mae stêm. Un ffordd o gynhyrchu stêm mewn ffwrn gartref yw gosod tin rhostio llawn dŵr ar lawr y ffwrn yn ystod pobi. Modd arall ‘dw i wedi’ ddarganfod, ydi i selio’r din mewn foil (efo digon o le oddi tano i’r bara ga ehangu) sydd yn dal stêm naturiol y dorth at ei wyneb.

 

Tynnwch y dorth o’r ffwrn ar ddiwedd yr amser pobi (pan fydd canol y dorth ar 205°F / 96°C)

 

Tynnwch y dorth o’r din a’i adael i oeri’n hollol.

Mae angen gadael y dorth Mêl a Cheirch oeri iddo  gael gorffen pobi’n gyfan gwbl.

 


Mwy i drio

Am behind the scenes o fath i be wnaeth ysbrydoli’r dorth Mêl a Cheirch yma, ewch draw i’r Lab i gael golwg ar yr arbrawf Ceirch Sur, neu am fwy o fara, mae ein Focaccia (Cymreig) yn esgus perffaith i nol y blawd.