Mendio a Hogi Cyllell Cogi

Torrish i fy nghyllell. Pum mlynedd o waith ffyddlon wnaeth o, yn dal i dorri’n di nod. Hynny yw, nes i mi wneud Cheesecake.

Nid y rhacsiwr cyllyll gwaethaf ‘dwi’n siŵr, ond mae’r byd yn le rhyfedd iawn, a dim ots pa mor feddal yw’r bwyd, mi fydd llawr, o hyd, yn galed. Ie, disgyn gwnaeth hi, sgwâr ar ei thrwyn, yn erbyn y teils.

Ond nid dyma ddiwedd y stori. Mae angen twts o dwpdra ar gyfer hynny. Penderfynais ‘achub’ pen llorweddol y gyllell, efo gefail. Gallwch ddychmygu’r canlyniad.

Crac.

Symudodd yr efail, arhosodd y gyllell, i’r llawr aeth mân damaid, o ddur carbon uchel. Ta ta pen y gyllell.

 

Beth i wneud â chyllell heb ben

Rheol 1: Dim panics!

Efallai bod ein phonau’n gonars os gyrhaeddan nhw’r palmant, ond dydi ein cyllyll ddim o bell ffordd. Dyma sut mae mendio, a hogi cyllyll heb ben, efo carreg, a bach o amynedd.

Darllenwch ymlaen am amseroedd a manylion am y technegau a ddefnyddir.


7 Egwyddor Hogi Cyllyll

Nid fy mod i’n harbenigwr o unrhyw fath, ond dyma i chi 7 egwyddor i gadw mewn golwg wrth hogi cyllyll gyda charreg hogi.

  1. Dechreuwch yn drefnus. Gwnewch digon o le, llenwch bowlen o ddŵr, a daliwch liain i law. [0:46-0:52]
  2. Garw yn gyntaf. I ddadwneud difrod, mae angen creu mwy o ddifrod, byddwch yn gall. [0:53-1:00]
  3. Parchwch y garreg. Dim ots y difrod i’r gyllell, mae angen gwisgo’r garreg yn gyfartal, i’w gadw’n effeithiol. [1:01-1:22]
  4. Daliwch i ddyfrio. Er y blerwch, mae dŵr dros y garreg yn arbed manion metel rhag casglu, a thagu, arwyneb garw’r graig.
  5. Dyfalbarhad. Wedi ennill ymyl, ond amser, ac amynedd, wneith ei throi’n llafn. ‘Ma ‘na reswm bod pobol yn galw hi’n ‘the grind’. [1:28-1:45]
  6. Byddwch yn gyson. Er bod yr ongl hogi’n bwysig, cadw’r ongl yna yw’r cam pwysicaf. Byddwch yn gryf ond yn gyson. [1:45-1:58]
  7. Mwy na un ffordd o roi Wil i’w wely. Er bod crefft mewn hogi, mae mwy na un ffordd o’i wneud yn effeithiol. Ond angen dilyn y camau uchod sydd angen, i gael cyllyll a chreigiau siarp a cytbwys, dim ots beth yw eich steil hogi.

Mwy o Stwff

Dyna chi felly, yr egwyddorion tu ôl hogi, a mendio, eich cyllyll yn effeithiol, a’n gywir. Am fwy ar beth ysgogodd hyn, cymerwch olwg ar y rysáit Cheesecake di bobi ac os ydych wedi mwynhau’r fideo/post bach technegol yma ac eisiau gweld mwy, gadech goment neu ymunwch a’r rhestr e-bostio i gael mwy o wybodaeth debyg i’ch inbox chi!