Cheesecake ‘di bobi (mefys a fanila)

‘Dwi ‘di gwneud cheesecake, o’r diwedd.

Ond nid cheesecake arferol ‘mo hon. Oh na. Mai’n ddyletswyth arnaf i erbyn hyn i or-gymhlethu’r ryseitiau ‘ma, felly ewch wan, Paratowch y bath, ma’ hi’n amser pobi.

Am y rysáit efo’r holl fesuriadau a thechnegau, cliciwch isod.


Mi roedd y mesuriadau yma’n ddigon i lenwi tin cacen gron 12cm/6″.

 

Paratoi’r sylfaen bisged

 

Leiniwch din cacen fach, efo gwaelod gellir ei dynnu, efo papur pobi [0:27-0:35 yn y fideo]

Am ddisgrifiad gwell, cymerwch olwg ar y fideo Crymbl Afal Ben Lawr.

 

Cymysgwch y menyn efo’r bisgedi wedi malu i greu cymysgedd briwsionllyd ( ~ 2 funud)

  • 90g bisgedi digestif (6 bisged)
  • 40g menyn tawdd

 

Tywalltwch y gymysgedd i’r din a’i bwyso i mewn i’w waelod [0:50-1:00]

Defnyddiwch eich bysedd ar gyfer hyn, neu arwyneb fflat arall fel gwydr…neu fflasg Starbucks.

 

Trosglwyddwch y din i’r fridge i gael caledu. (30-40 munud)

 


Efo’r sylfaen bisged yn oeri, rŵan yw’r amser i baratoi’r cymysgedd sydd i’w lenwi.

 

Paratoi’r gymysgedd cacen gaws

 

Rhannwch rhan o’ch wyau, yn cadw’r melynwy

  • 2 ŵy

 

Wisgiwch hufen sur a’r caws meddal efo’r cynhwysion sych

Wisgiwch nes bo’r gymysgedd yn dechrau tewychu, ond dim pellach,, fel arall mi fydd y gymysgedd wedi’ chwipio, sydd ddim yn ideal.

  • 250g caws meddal
  • 150g hufen sur
  • 1 tbs / 15g blawd hunan lefeinio
  • 30g siwgwr gwyn
  • 1 tsp rhinflas fanila
  • 1/2tsp halen

 

Wisgiwch yr ŵy a’r melynwy i mewn i’r gymysgedd caws, un ar ôl llall.

Pwrpas ychwanegu’r wyau’n araf yw gwneud siŵr bod y gymysgedd yn emyslu’n gywir, yn aros yn gyflawn, heb rannu.

  • 1 ŵy
  • 2 melynwy

 


Unwaith mae’r sylfaen bisged wedi oeri a chaledu, ewch ymlaen efo’r camau nesaf.

 

Paratowch fath dŵr a gosodwch y din cheesecake ynddo [1:54-2:02]

Rŵan yw’r pwynt i ferwi’r tegell, efo digon o ddŵr ynddo hefyd.

  • 1 litr o ddŵr

 

Ychwanegwch smotiau o puree mefys i’r gymysgedd cheesecake a’i chwyrlïo drwyddo [2:05-2:13]

Byddwch yn gynnil efo’ch chwyrlïo, fel arall mi ddiflannith y mefys yn y gymysgedd a waeth i chi fod wedi’ wisgio fo i mewn wedyn ddim!

  • puree mefys

 

Tywalltwch ddŵr berwedig i mewn i’r din rhostio.

Dylai lefel y dŵr ddod tua hanner ffordd fynnu ochor y din cacen yn ei ganol.

  • 1 litr dŵr berw

Trosglwyddwch yr holl beth i’r ffwrn i’w bobi ar 140°C (120°C fan). (30-40 munud)

 

Mi fydd y cheesecake yn barod pan fydd y canol yn cyrraedd  65-70°C.

Unrhyw uwch ac mi fydd yr wyau mewn perygl o geulo, yn creu gwead brau, a’n arwain at gracio.

 


Ewch ymlaen efo’r camau nesaf unwaith mae’r cheesecake wedi cyrraedd y tymheredd mewnol cywir (wedi gorffen pobi).

Oeri’r cheesecake

 

Diffoddwch y ffwrn ac agorwch y drws. Gadewch cheesecake oeri ynddo nes bo’r dŵr o’i amgylch tua thymheredd bys. ( ~ 40 munud )

Mae hyn yn gwneud siŵr bod y cheesecake  yn oeri drwyddo ar gyfradd gyson hefyd. Y peth diwethaf ydych eisiau yw cheesecake sydd wedi’ bobi’n llwyddiannus ond sydd yna’n cracio am ei fod wedi oeri’n rhy gyflym.

 

Trosglwyddwch cheesecake o’r bath dŵr, yn syth i’r fridge, iddo gael oeri’n hollol (o leiaf 3 awr)

Mae hyn fel bod y braster yn ymsolido eto. Fel arall, caiff gwead melfedaidd y caws meddal ei golli, ac mi fydd y cheesecake yn blasu mwy fel quiche neu darten gwstard.


 

Mwy o stwff

Dyna chi felly! Yr unig rysáit  sydd angen arnoch chi i feistroli un o sialensiau mwyaf y gegin. Am y rysáit puree mefys, cliciwch yma. Neu, os ydych eisiau dysgu mwy am bwysigrwydd bath dŵr a rheoli tymheredd wyau, mae erthygl i ddod ar hynna hefyd.