Purée Mefys

Saws bach handi mefys yw hyn.

Perffaith ar gyfer rhoi blas i’ch pwdinau, neu jest gwneud nhw’n Instagram ready de.

Cliciwch isod am y rysáit  llawn efo’r holl fesuriadau a thechnegau.


 

Paratoi’r mefys

 

Pwyswch eich siwgwr halen efo’i gilydd mewn powlen.

  • 33g siwgwr gwyn
  • 1/2 tsp halen

 

Torrwch eich mefys yn dafelli cyfartal

  • 6-8 mefys

 

Cymysgwch y tafelli mefys efo’r siwgwr halen a’u gadael i fwydo (macerate) (30 munud) 

Mae’r halen a siwgwr yn tynnu’r dŵr o gelloedd arwynebol y mefys trwy osmosis, sy’n achosi i’r mefys droi’n feddal.

 


Pan mae’r mefys wedi gorffen mwydo

 

Cynheswch eich jam gyda’r sudd lemon nes ei fo’n ffrwtian

  • 60g jam mefys 
  • sudd lemon (o tua 1/2 lemon)

 

Ychwanegwch y mefys i’r jam a’u blendio mewn i puree

Gallwch hefyd drosglwyddo’r gymysgedd i brosesodd bwyd os oes angen.

 

Rhowch y gymysgedd yn ôl ar y gwres a’i leihau i’r trwch ydych eisiau.

Gallwch wneud y puree mor dew neu mor denau ag ydych eisiau. I weld pa gysondeb sydd ganoch, cymerwch lwy de o’r gymysgedd a’i ollwng mewn gwydr o ddŵr oer. Mi ddisgwyliais i nes byddai’r gymysgedd yn ffurfio clympiau yn y dŵr.

 

Trosglwyddwch y puree i fotel neu jar a’i oeri.

Gallwch un ai ei oeri yn yr oergell, neu gallwch gyflymu pethau a dal y cynhwysydd mewn sinc dŵr oer am ychydig.


 

Mwy o stwff

Mae’r puree ‘ma ar gyfer bob math o bethau, hufen ia, platio del, beth bynnag. Am ddefnydd da ‘dwi wedi’ ddarganfod, cymerwch olwg ar y rysáit Cheesecake Mefys a Vanilla, i weld sut allwch ddefnyddio’r puree i gael farblo eich pwdinau.