Focaccia (Cymreig)

‘Sginach chi does yn sbâr.

‘Da chi isho toes yn sbâr?

Yn y fideo yma, mi fydda i’n dangos i chi sut i wneud focaccia, yn defnyddio go-to-recipe toes fi.

Mae’r rysáit toes yma’n un dwi’n ei ddefnyddio ar gyfer bob dim, o bitsas i frechdanau, ond fel cyflwyniad i bobi bara, does dim byd gwell na focaccia ffres, yn morio mewn olew olewydd.

Felly, ffedogau ar, modrwyon i ffwr, mai’n amser gwned focaccia.

Am y rysáit llawn efo’r cynhwysion a mesuriadau, cliciwch i ddarllen mwy.

Nodyn ar fesuriadau: Efo unrhyw rysáit toes, fyddai’n aml yn defnyddio’r system ganrannol o fesur cynhwysion. Pobyddion sy’n defnyddio’r system, gyda’u mesura’n seiliedig ar bwysau’r blawd a ddefnyddir.

Er enghraifft, os ydw i am gael toes sy’n 65% dŵr, efo 2% halen a 1.5% burum ffres, yna mi fydda i angen 500g o flawd sy’n rhoid:

[space]

Cynhwysyn
Pwysau
Canran y Pobydd
Blawd
500g
100%
Dŵr
325g
65%
Halen
10g
2%
Burum Ffres
7.5g
1.5%

[space]

 Yn y fideo, a yn y rysáit, rydw i’n defnyddio 1kg o flawd sy’n ddigon i lenwi un tin pobi 40x30cm.
Bydd hanneru y cynhwysion wedyn yn hanneru arwynebedd y tin (felly yn ddigon i dun 40×15 cm neu 20x30cm)

[space]

Paratoi’r Toes

[space]

Cymysgwch eich blawd, halen, dŵr a burum, mewn powlen gymysgu nes ffurfio crynswth garw (ia, dyna ydi rough mass). (2 funud)

  • 1000g blawd cryf gwyn
  • 650g dŵr tymheredd bys (35-38°C)
  • 20g halen
  • 100g surdoes neu 7g / 1 paced o furum sych

Am esboniad llawn o furum a surdoes, cymerwch olwg ar ein tudalen Bioleg Bara.

[space

Gadewch i’r toes ymlacio ac i’r blawd gael amsugno’r dŵr yn llawn (20 munud)

Mae hyn yn lleihau’r gwaith tylino fydd angen arnoch trwy’r broses awtolysis.

[space

Tylinwch y toes yn defnyddio’r broses tynnu a phlygu (French Slap). (6-8 munud) [1:42-2:16 yn y fideo]

[space]

Gorchuddiwch y toes efo cling film a’i adael i orffwys dros nos yn y fridge ( ~ 12 awr )

[space]

Y diwrnod wedyn, gallwch drosglwyddo’r toes i din pobi iddo gael profi cyn pobi.


[space]

Ar ôl gorffwys dros nos

[space]

Lluwchiwch flawd dros din pobi.

[space]

Tynnwch y toes o’r fridge a’i drosglwyddo i’r din pobi. Rhowch ychwaneg mwy o flawd ar ei ben.

[space]

Gorchuddiwch y toes efo cling film a’i adael mewn man cynnes iddo gael profi, a codi i tua 1.5/2 waith ei faint. (3-6 awr)

Mi fydd yr amser profi’n dibynnu ar y tymheredd a’r math o furum. Gan bod ‘gadael y toes am 2 awr’ yn nonsens llwyr, defnyddid brawf bys. Os bydd bys i’r toes yn gadael marc pendant, parhaol yn y toes, yna mae’r toes yn barod. Ond, os ydi o’n symud yn ôl i’w le, mae angen mwy o amser arno.

[space]

Hanner awr cyn gorffen profi bydd angen cynhesu’r ffwrn i 240°C. [ 3:13 – 3:23 ]

Dyma’r amser i gynhesu’r garreg bobi a’r tin stêm os ydych chi eisiau amser bach mwy cyffrous yn pobi’r focaccia.

[space]

Ar ddiwedd yr amser profi, tynnwch y cling film oddi ar y toes a’i foddi mewn olew olewydd, peidiwch bo’n swil. [ 3:22 – 3:30 ]

Dylai’r toes fod wedi chwyddo fel clustog llawn aer, gyda swigod yn dod i’r wyneb os ydych gwasgu lawr ar ei arwyneb.

  • 100-200 ml Olew Olewydd

[space]

Gwasgwch y toes lawr, yn ei rychu gyda blaenau’ch bysidd. [ 3:32 – 3:42 ]

Rwan yw’r amser i ychwanegu unrhyw rinflasau fel garlleg neu tomatos sych i’r toes, yn eu gwthio’n dufn i’w cwmpasu yn y toes.

  • Unrhyw gynhwysion ychwanegol.

[space]

Trosglwyddwch y focaccia i’r ffwrn poeth a’i bobi ar 200-180°C. ( 20-23 munud)

Os oes ganddoch chi carreg bobi a thin stem, rhowch y focaccia i bobi ar ei ben a i’r tin pobi, ychwanegwch riw gwpan o ddŵr berwedig, tra’n ofalus iawni beidio llosgi’ch hyn ar y stem geith ei ryddhau.

Byddwch hefyd yn wiliadwrus o unrhyw ddŵr sy’n tasgu fyn at ddrws eich ffwr gan bod o’n medru achosi’r gwydr falu.

[space]

Tynnwch y focaccia o’r ffwrn pan mae’r crwst yn euraidd â manau brown a bo’r cannol wedi cyrraed 95°C.

[space]

Defnyddiwch sbatiwla i ryddhau’r focaccia o’i din (os oes angen) cyn gadael iddo oeri ar rac wifren i oeri.

Unwaith bydd y focaccia wedi oeri a wedi gorffen pobi’n hollol, mi fydd o’n barod i’w dorri a’i weini

[space]


Mwy i drio

Mae llond llu o dipiau a sawsus efo ni i chi ga mwynhau efo’ch focaccia ffres. Am flas o Leguria, triwch ein Pesto, neu am flas mwy Groegaidd ewch am ein Tapenade Olewydd i ddod