Pasta Cartref

Master of None ia? Dwi, fel gweddill yr internet, wedi bod un obsessed â Dev a’i siwrna trwy’r Eidal yn gwneud pasta. Ond un peth dydi Netflix heb ddangos, ydi sud yn union ddysgodd i neud pasta cartref mor dda?

Yn y fideo yma, ‘da ni am sbio ar wyddoniaeth gwneud pasta, i weld yn union sud ma creu’r pasta cartref perffaith. Pwy a wyr, ella ‘drai’ch ysbrydoli chi i nol yr hen beiriant pasta, neu o leia pìn rholio.

Dyma’r rysáit llawn, i pawb sydd eisiau copi o’r mesuriadau a’r cyfarwyddiadau, er, dwi’n ymddiheuro am y cyfarwyddiadau o flaen llaw (mae amseroedd yn y disgrifiad i chi ga dilyn yn y fideo uchod).


Paratoi’r Toes

 

Gwnewch dwmpath efo’ch blawd (unai ar fwrdd neu mewn powlen) a palwch bant yn ei cannol.

  • 8oz /  225g blawd plaen

Tolltwch yr holl ŵyau, melyn ŵy a’r halen i mewn i’r pant blawd.

  • 2 ŵy mawr
  • 4 melyn ŵy mawr

 

Efo fork, tynnwch y blawd i mewn i’r cannol, at yr ŵyau, yn dal i’w cymysgu nes bod toes gwlyb yn ffurfio. (2- 5 munud)

 

Unwaith mae toes yn ffurfio, dechreuwch dylino’r toes nes bod y toes yn dechrau esmwytho, efo teimlad fel clai  (2-5 munud) (1:20-1:40 yn y video)

 

Gorchuddiwch y toes efo cling film a’i adael i orffwys ar y bwrdd ( 1 awr )

 

Ar ddiwedd yr amser gorffwys, mi fydd y toes yn barod i ddechrau lamineiddio.

 


 

Ar ôl Gorffwys (eich hun, a’r toes)

 

Torrwch y toes yn bedair darn a rholiwch nw’n fflat efo pin rholio.

 

Bwydwch y toes drwy’r peiriant pasta a’r bwlch rhwng rholeri ar ei fwyaf, cyn plygu’r toes drost ei hyn dwywaith mewn i dair haen (2:30 – 3:05)

 

Ail adroddwch y broses ddwywaith eto, am gyfanswm o dair set o rholio/plygu i bob darn.

Nodyn: I wneud bywyd yn haws, y broses gorau yw i rholi a plygu pob darn toes (allan o’r 4) unwaith cyn dechrau’r set nesaf o rholio a plygu. Fel hyn fydd y toes yn cael digon o amser i ymlacio rhwng cael i rholio’n flat a felly’n llai parod i rwygo wrth gael ei rholio’r tro nesaf

Dewch a’r rholeri un notch yn agosach at eu gilydd a ailadroddwch y camau rholio/plygu uchod.

 

Cywirwch y periant un notch arall, eto i rholio’r pasta’n deneuach byth. Ailadroddwch y rholio/plygu.

Yn y diwedd, mi ddylech fod efo 4 darn o basta esmwyth, weddol sgwar, efo tua 20,000 o haenau…sydd yn gneud am basta cryf iawn.

 

Gorchuddiwch y toes pasta mewn cling film, rhowch nhw yn y fridge, a ewch am napan, ma’r gwaith caled drosodd! Llongyfarchiadau!

 

Ar ôl cael eich gwynt yn ôl (eto, riw awran arall)

Mae hi rwan yn amser torri’r pasta.

 

Bwydych y darnau pasta trwy’r peiriant i greu haenau hir. ( 4:00 – 4:20 )

Dechreuwch drwy rholio’r pasta drwy’r bwlch rholeri mwyaf. Yna bydd angen lleihau’r bwlch, yn rholio’r pasta allan ar bob notch, nes cyrraedd eich trwch pasta delfrydol.

 

Torrwch eich pasta. ( 4:20 – 4:50 )

Efo peiriant, fydd ond angen newid i’r rholeri torri, all dorri tagliatelle neu spaghetti i chi heb drwbwl. Gallwch hefyd wneud hyn heb beiriant drw rholio’ch haen pasta i fynu a’i sleisio fewn i sdribedi.

Cofiwch roid digon o flawd ar y haenau pasta fel bod o’m yn glynnu at ei hyn ar ôl torri.


Dyna chi, pasta cartref! Rhannwch eich pasta a gallwch unai eu storio yn y fridge mewn twb/bag wedi’ selio os ydych am eu defnyddio ar y diwrnod, neu rhewch y pasta, fel bod modd eu cael pryd bynnag. Gallwch hyd yn oed dynnu’r pasta syth o’r rhewgell a’i daflu’n syth fewn i ddŵr berwedig.

 

Beth bynnag newch chi, efo pasta mor dda, mond riw 3-4 munud mewn dŵr berwedig sydd angen a fydd y pasta’n barod i fwynhau efo saws o’ch dewis.

 

Mwy of Stwff

Os ydych chi dal heb ga digon o basta eto, croeso i chi ga golwg ar ein rysáit pesto neu carbonara traddodiadol i ga gweld yn unin sud mae mwynhau pasta cartref ar ei orau.