Menyn ‘di Brownio

Techneg

Dyma fideo o sud i wneud menyn ‘di brownio, i chi ga gweld y broses in action. Cewch y rysáit llawn isod.

Cliciwch ymlaen ar gyfer y rysáit  llawn efo’r cynhwysion a’r mesuriadau llawn


cynhwysion

1 block (250g) o fenyn (heb halen)

1 (30g) ciwb rhew

Dull

Brownio

  1. Meddalwch y menyn ar y stôf (dim rhy boeth), yn i droi o’n araf nes i’r berwi farw lawr. (5 munud)
  2. Ar y pwynt yma, pan welwch chi ronynnau euraidd yng ngwaelod y sosban, dechreuwch droi’r menyn yn frwdfrydig (arbed y gronynnau yma rhag gorffwys, a llosgi)
  3.  Pan fydd y menyn yn arogli’n felys a chneuol, efo’r gronynnau’n lliwio’n frown tywyll, tynnwch y sosban oddi ar y gwres.

Oeri

  1. Ychwanegwch 1 ciwb rhew i’r menyn peth cyntaf, i arbed brownio pellach ac i ychwanegu’r dŵr a gollwyd yn ôl i’r menyn (byddwch yn ofalus o’r menyn yn tasgu).
  2. sinc efo dŵr oer i oeri’r menyn
  3. Trowch y menyn yn y sosban nes iddo ddechrau twchu ac ail-galedu.
  4. Rhowch y menyn oer (tra’i fod o dal yn hyblyg) mewn potyn neu fowlen a’i orchuddio
  5. Gadewch y menyn ‘di brownio yn y fridge i galedu.

 

Mi fydd y menyn ‘di brownio yna i chi wedyn i ga defnyddio ar gyfer unrhyw achlysur. Rhowch o fel menyn ar eich bacon baps, neu defnyddiwch o fel saws pasta pryd ydych chi wir methu meddwl am be i gael i de, neu jest ychwanegwch o i’ch cacenni a’ch bisgedi am y blas caramel unigryw hwnnw, fel y gwelwch yn ein rysáit Toes Cwcies Gorau Erioed.

Beth bynnag ydych chi’n wneud, gwnewch fenyn di brownio’n hanfodol i’ch fridge.

Diolchwch i mi wedyn.