Carbonara

Pantri’n wag. Dim byd ar ôl yn y tŷ ond wyau? Ella paced o facwn a hen ddiweddion parmesan? Pasta? Ugh…

Ond be pe bawn i’n dweud bod eich cegin gwag chi, efo’r potensial i syfrdanu teulu a gwesteion oll gyda’ch dawn coginio?

Y pryd all gyflawni hyw, yw Carbonara. Pryd pasta mwyaf camddealledig Cymru fach. Dyma’r fideo diweddara, yn dangos i chi’n union sut i greu’r Carbonara gorau gewch chi, heb hufen na madarch yn unman.

Cewch y rysáit llawn a’r cynhwysion isod.


Mesuriadau’r person yw hwn (meddyliwch 1 ŵy i bob person) felly cynyddwch y niferoedd fel sydd yn briodol i chi.

Paratoi’ch cig

 

Meddalwch dalp o fenyn mewn padell nes yn tasgu. 

  • 1 tbsp menyn

 

Ychwanegwch eich pancetta i’r badell a’i ffrio ar wres isel nes bod y cig yn crasu a’r ffat yn llifo ohono. (5 munud)

Gallwch ddefnyddio unrhyw gig mochyn wedi’ halltu yn fan hyn os yw Pancetta’m ar gael. Mi wneith bacwn yn grêt.

  • 50g Pancetta

 

Ar y pwynt yma, rhowch y badell i un ochor oddi ar y gwres i oeri rywfaint. Mae hyn fel bod o’m yn cwcio’r wyau’n galed pryd ddaw hi’n amser i’w ychwanegu wedyn.

 

Cwcio’r pasta

 

Rhowch eich pasta mewn dŵr berwedig i ddechrau cwcio ( 4 munud pasta fresh, 10 munud pasta sych)

  • 50g Pasta

 

Tra’n berwi’r pasta, cymysgwch eich wyau, caws caled wedi’ gratio, a phupur du mewn powlen.

  • 1 ŵy
  • 25g Parmigiano Reggiano
  • 25g Grana Padano
  • Ychwaneg o Bupur Du

 

Pan mae’r pasta’n barod

 

Symudwch y pasta o’r dŵr i’r badell pacetta cynnes gyda ychydig o ddŵr y pasta

Cofiwch bod y badell angen aros oddiar y gwres. Peidiwch a poeni am draenio’r pasta gormod, mi wneith y dŵr ychwanegu hylif a gwres i’r carbonara, sy’n helpu creu’r saws.

  • 1-2 tbsp dŵr y pasta

 

Tywalltwch y gymysgedd ŵy fewn i’r badell pasta a cig yn syth bin a cymysgwch y cwbwl. (1-2 funud)

 

Platiwch y carbonara unwaith mae’r caws yn meddalu, a’r ŵy wedi tewychu i greu saws tew, sgleiniog

Ceisiwch osgoi’r demptasiwn i roi’r badell yn ôl ar y gwres i gwcio’r Carbonara. Nodwedd Carbonara da yw saws esmwyth, heb lympiau ŵy wedi’ gor gwcio, ac ond trwy gwcio’r ŵy yng ngwres gweddilliol y pasta, fat a chig mae gwneud hyn.

Dydi hyn ddim yn golygu bod y pryd yn un sydd ddim yn saff. Mae pob ŵy Lion stamped yn y DU yn cael eu cysidro’n rhydd o unrhyw salmonela a felly’n saff i fwyta gyda’r cryn leied o gwcio.


 

A dyna’r oll sydd i’w wneud. Ychwanegwch halen a phupur i’ch blas a mwynhewch un o’r prydau bwyd symlaf, mwyaf moethus gewch chi (yn enwedig o fridge hollol wag!).

 

Mwy i weld

 

Os ydych chi wedi cael blas am Eidaleg, croeso i chi gael golwg ar ein Pasta Pesto os ydych angen mwy o synuadau te sydyn. Neu, os ydych chi eisiau mynd yn gyfan gwbwl Eidaleg, mae ein Pasta Cartref hefyd ar gael i chi gael gwneud pasta eich hyn o sgratch cofiwch!