Cwcis Ceirch Clegyrog (gwglwch o!)

Gluten-free(ish)? Ceirch iachus? Cnau Cocos?!

Os, am ba bynnag reswm, bod un o’r pethau yma’n apelio atoch chi, mi rydych mewn lwc. Wythnos yma, ‘dwi wedi bo’n arbrofi efo cnwd cyntaf Cymru i wneud ein treat diweddaraf: Cwcis Ceirch.

This recipe is a trial of Momofuku Milk Bar’s Oatmeal Cookies by Christina Tosi.

Mae’r cynhwysion a mesuriadau llawn isod.


Paratoi’r Toes

 

Hufennwch y siwgwr a’r menyn efo wisg drydanol nes yn olau a’n ysgafn (~ 3 munud)

  • 7.5oz /  215g menyn 
  • 4.5oz / 130g siwgwr gwyn gronynnog
  • 4.8oz / 135g siwgwr brown golau

 

Curwch yr wyau a’r fanila i mewn nes i’r gymysgedd droi’n llyfn a’n oleuach byth. ( ~ 3 munud)

  • 2 ŵy mawr
  • 2 tsp / 8g rhinflas fanila

 

Cymysgwch y cynhwysion sych i mewn i’r gymysgedd gyda llwy/sbatiwla nes bod y blawd bron a diflannu. ( < 1 munud).

  • 7oz / 200g ceirch
  • 5.8oz / 165g blawd plaen
  • 1.6 oz / 45g blawd cnau coco
  • 1 tsp / 5g sodiwm bicarbonad
  • 1 1/4 tsp / 6.25g halen môr (neu 1tsp halen bwrdd)
  • 1 1/4 tsp / 3g sinamon 

 

Efo’r toes yn barod, gallwch bobi’r cwcis yn syth, neu gorchuddio’r toes mewn cling film a’i adael yn y fridge nes ydych ei angen (mi neith hyn yn datblygu’r blas yn bellach).

 


 

Pan yn Barod i’w Pobi.

 

Cynheswch y ffwrn i 180°C (160°C fan).

 

Leiniwch dun pobi (ochrau isel) efo papur pobi.

 

Llwywch y toes cwcis mewn i beli o ryw fath (mor fawr a ‘da chi eisiau)

 

Rholiwch y peli toes mewn siwgwr eisin a’u gosod ar din pobi. 

Gwelwch yr Atodiad 1 ar ddiwedd y dudalen am fwy ar hyn.

 

Oerwch y cwcis yn y fridge i galedu’r arwyneb ( 15 munud )

Mi wneith hyn arbed y cwcis rhag lledu gormod yn ystod pobi (os yn pobi’n syth ar ôl cymysgu hynny yw).

Trosglwyddwch y cwcis i’r ffwrn a’u pobi ar 180°C ( 8 – 10 munud )

Mi fydd y cwcis yn barod pryd fydd eu hymylon yn euraidd a’r canol bron iawn a ceulo ( aka setio ).

 

Tynnwch y tun o’r ffwrn a gadewch i’r cwcis ceirch oeri (2 funud) cyn trosglwyddo i rac weiren i oeri’n hollol.

 

Mi gewch chi futa’r cwcis ceirch unrhyw bryd, ond mi rydw i’n awgrymu o leiaf gadael nhw oeri, fel arall mae hi bron yn wast o amser pobi nhw yn y lle cyntaf!


Mwy o stwff

 

Os ydych wedi mwynhau rhain a fansi bach mwy o wybodaeth ar does cwcis, cymerwch olwg ar ein Cwcis Gorau Erioed i ddysgu rysáit sylfaenol toes cwcis i’ch cadw am weddill eich oes!

 


Atodiadau

Peidiwch a bo’n swil rŵan, gwnewch yn siŵr bod eich siwgwr yn dew dros y toes, fel arall mi welwch chi ddim ohono, fel y gwelwch o lun ochor yn ochor o’r cwcis gafodd llawer, a dim llawer o siwgwr, cyn pobi:

Cymhariaeth Cwcis Ceirch / Oat Cookie Comparison