Cig Selsig Ffenigl a Bricyll

Dennel sausage and Apricot Pizza

Un arall o’r Pizza Bible gan Toni Gemignani.

Ers amser ‘dwi ‘di bo’n llygadu un o’i ryseitiau ar gyfer pitsa’n defnyddio cig selsig. Topin sy’n glasur ar unrhyw bitsa Efrog Newydd, mae selsig ar bitsa’n rywbeth ‘dwi wastad wedi bod eisiau profiadu.

‘Drai’m deall yr apel!

Mewnfudwyr Eidaleg yn pobi cig amrwd ar fara , caws a tomato, dyna sut ddechreuodd o yn de, mae raid! Ond wedi dweud hynnu, ma’r pizza selsig yn brif ymborth i genhedlaethau o Americanwyr. Felly, fel bach o voyeurism, ‘dwi am geisio gweld tu ôl i’r cyrtan, a trio’n llaw ar bitsa selsig. Jest i weld be ‘di’r fud ‘ma i gyd.

Wrth gwrs, rhaid i’r pitsa fod bach mwy diddorol na jest Margarita  a selsig yn does, felly mi es i at y Flavour Bible. Dyma lle ddaeth y syniad o fricyll ar y pitsa. Wedi defnyddio jam yn lwyddianus efo ham Parma, mi oedd gennai ffudd mewn dod a porc a bricyll at ei gilydd. Er y tro yma, mi ‘es i ffordd bach mwy dewr (neu gwirion) a dewis bricyll sych fel partner y porc.

Dal efo fi?

Da iawn, dyma chi felly sut mae paratoi’r pitsa…diddorol yma.

 

Rysáit

 

Tostiwch hadau ffengil mewn padell am riw funud neu ddau, cyn eu malu’n fân efo pestl a mortar.

Doedd hadau llawn ddim digon effeithio. Roeddem nhw unai’n rhoid gormod o flas pan oeddech yn cnoi un, neu ddim digon o flas os nad oedd un ar gyfil eich cegiad diwethaf o bitsa.

  • 1 tbsp hadau ffenigl

 

Ffriwch gig y selsig mewn padell ar wres cnnolig, efo’r ffenigl mân a blasyddion eraill( 3-4 munud)

Mi fydd angen ffrio’r cig jest ddigon hir iddo golli ei liw coch, ond nid gymaint nes ei fo’n dechrau brownio (os ydych yn teimlo’n ddewr, mi allws roid y selsig ar yn amrwd, wedi ychwanegu’r blasyddion dirwnod ynghynt iddynt gael mwydo’n y fridge. Ond nid fi ddudod hynna wrthoch chi!)

  • 500g selsig porc plaen
  • 1 tsp ffenigl mân wedi’ dostio
  • 1 tbsp o fêl
  • pins o halen a pupur
  • 1/2 tsp o bupur cayenne (opsiwn am ychydig o wres)

 

Efo’r cig wedi’ gwcio, taenwch saws tomato drost eich pitsa agored

 

Ychwanegwch mozzarella, cig y selsig a hanner dwrn o fricyll

 

Gorffennwch efo ychydig o saig a pobwch y pizza am ar wres uchaf eich ffwr nes i’r crwstyn a’r topins fronio. (tua 8-10 munud ar 240°C)

Mwy o Sdwff

Am fwy o bitsa, cymerwch olwg arall ar ein tudalen Pitsa’r Wythnos, lle fyddai’n postio pitsa newydd o’r bwyty bob wythnos.