Lasagna Hollol-Grispi

Darn crispy’r lasagna. Achos miloedd o frwydrau teuluol dros y canrifoedd. Mor werthfawr ei fod o’n bryd yn ei hun yn un o fwytai gorau’r byd – Osteria Francescana. Ma’r syniad ei hyn yn ddigon i dynnu deigryn i’r llygad a dŵr i’r danned. Heddiw felly, ‘da ni am fod yn sianelu Massimo Bottura, yn ceisio …

Caramel bananas a cnau Ffrengig

Caramel bananas efo cnau Ffrengig

Yn fy ngwely oeddwn i, ‘di cynhyrfu’n lan. Lawr grisiau, oedd gennai dros litr o hufen i’w ddefnyddio. Wedi penderfynu gwneud Hufen Ia, roedd hi rŵan yn mynd amser obsesu dros ba flas i ddefnyddio. Poblado Cofi a cardamom? Ia! Rhiwbob a rhosmari? Pam lai de? Ond be arall sydd gennai angen defnyddio? Bananas de! …

Queso Fresco – Caws Ffres

caws ffres llaethdy llyn

Caws! Caws! Pleidiol wyf i fy nghaws! Fel cogydd pitsa, caws yw fy nghanfas. Mewn caws, mae’r gallu i drawsnewid bara a thomato yn fwyd arallfydol. Gall gaws ein pitsas ein cludo o strydoedd Parma i fynyddoedd Roquefort-sur-Soulzon, ac fel cogydd Cymraeg, mae hyn yn beth gwerthfawr iawn. Yn bell o fod yn sownd yn Cheddar …

Hufen Ia Di-declyn

Cofi Poblado a Cardamom (chwith), caramel cnau banana (cannol), riwbob a rosmari (dde)

Be wna’r dyn â gormod o gream? Hufen ia wrth gwrs! Mân fantais o weithio mewn bwyty bach yw gwastraf. Dim i’r fusnes wrth gwrs ond i mi’n bersonol ma’n gret! Felly wythnos yma, 1.2 lire o hufen dwbwl oedd genyf i chwarae efo. Y peth cyntaf ddaeth i’m meddwl oedd hufen ia, ond heb beiriant, …

Surdoes Mêl a Cheirch

Surdoes ddim yn ddigon fermented i chi? Trïwch dorth Mêl a Cheirch! Yn Goron Driphlyg o fwyd fermented, mae’r dorth yma’n cyfuno gwenith, mêl a cheirch i greu bara naturiol a graenus, sydd dal y ddigon meddal i’ch bara jam. Fel Hovis heb y rhwymdra, ideal! Cewch y rysáit efo’r holl gamau a mesuriadau yma