Caramel bananas a cnau Ffrengig

Caramel bananas efo cnau Ffrengig

Yn fy ngwely oeddwn i, ‘di cynhyrfu’n lan.

Lawr grisiau, oedd gennai dros litr o hufen i’w ddefnyddio. Wedi penderfynu gwneud Hufen Ia, roedd hi rŵan yn mynd amser obsesu dros ba flas i ddefnyddio. Poblado Cofi a cardamom? Ia! Rhiwbob a rhosmari? Pam lai de? Ond be arall sydd gennai angen defnyddio? Bananas de!

Dyma sut mae troi bananas a chnau Ffrengig fewn i’r topin caramel banana. Ffor ideal o droi hufen ia neu grempog blaen fewn i bwdin sydd wir werth ei halen…neu ei siwgwr o leiaf.

Am y rysáit llawn efo mesuriadau a thechnegau, cliciwch isod.


Defnyddiais i 200g siwgwr i ar gyfer 5 banana ar gyfer y rysáit yma felly am gyfrannedd penodol, defnyddiwch 40g siwgwr i bob banana. Ond, mewn gwirionedd, mae’r rysáit digon syml i chi beidio gorfod poeni’n ofer am bwyso popeth (ia, dwi’n hysbysu peidio mesur am unwaith, shock horror!)

 

Paratoi’r Bananas

Modd tebyg i’r un a ddefnyddiom i wneud ein bara bananas yw hwn, yn tynnu’r dŵr o’n bananas drwy eu rhoi yn y ficrodon.

 

Gosodwch eich bananas mewn powlen sy’n saff mewn microdon

Yr hynaf yw’r bananas y gorau oherwydd mi gewch chi fwy o’r siwgwr ffrwctos allan ohonynt, yr un siwgr a gewch chi mewn mêl.

  • bwnsh o 5 banana (yr hynaf y gorau)

 

Gorchuddiwch efo cling film a’u coginio mewn microdon ( 5 munud)

Mi wneith hyn ryddhau dŵr o’r bananas.

 

Sefwch bananas mewn gogr dros fowlen a gadewch i’r hylif ddraenio ohonynt. ( ~ 15 munud)

  • 5 banana o’r microdon

 

 

Gwasgarwch gnawd y bananas yn denau ar din pobi a’u pobi ar 160°C ( 20 munud)

Mi wneith hyn ychwanegu dyfnder i’r bananas wrth iddynt frownio yn y ffwrn. Mi wneith o hefyd help efo tynnu dŵr o’r bananas.

 


Unwaith mae’r bananas wedi gorffen, efo lliw da arnynt ac wedi sychu rywfaint, mi gewch fynd ymlaen i wneud y caramel.

 

Gwneud y caramel

 

Cynheswch hylif o’r bananas mewn sosban efo siwgwr brown, i tua 140°C

Mi fuaswn i’n medru dweud “cynheswch i x am y munud” ond celwyddau fysa fo. Mae’r gegin yn wahanol i bawb, ac mae blas pawb yn wahanol. Yn fras, y poethaf yw’r siwgwr, y mwyaf brau fydd y caramel banana yn y diwedd. Mi fydd unrhyw beth rhwng 130-150°C yn iawn (ond unrhyw uwch ac mi losgith y siwgwr).

  •  sudd y bananas
  • 200g siwgwr brown golau

 

 

Tywalltwch y caramel dros y bananas di rhostio yn y din pobi

Gweithiwch y caramel i mewn i’r bananas efo scrapiwr toes neu lwy bren neu unrhyw beth. Jest peidiwch â mynd yn rhy agos a rhoi’r bai arnaf i am eich llosgiadau diawledig!

  • caramel tawdd
  • bananas wedi’ rhostio

 

Gorffennwch y gymysgedd efo llond llaw o gnau Ffrengig (optiwn)

  • cnau Ffrengig wedi eu sleisio neu dorri â llaw neu


Mwy i Ddarllen

I weld be wnes i efo’r topin caramel banana yma, ewch i ga golwg ar y fideo Hufen Ia Di-declyn, neu am fwy o syniadau o beth allwch wneud efo hen fananas yn y ficrodon, cymerwch olwg ar ein Bara Bananas Microwef, mi fydd eich cegin byth yr un peth…