Bara Bananas Microwef

Sut ma’ dy fanana?

Os, yw eich bananas yn fwy brychni na brecwast, peidiwch a phoeni a dilynwch fi. Heddiw, na am wthio’r ffrwythau anffodus ‘na i’r brig o be allwn ddiffinio fel solid. Dyma bara banans, efo microdon!

Cliciwch am y rysáit llawn efo mesuriadau a technegau.


Nodyn: Mae’r rysáit isod yn ddigon ar gyfer un dorth tin mawr…neu faint fynoch chi o gaceni o unrhyw faint, bara bananas yw hwn, dim neuroscience.

 

Paratoi’r bananas

 

Aeddfedwch eich bananas mewn bag wedi ei selio (2-3 niwrnod)

Nwy ethylene sy’n gyfrifol am aeddfedu ffrwythau. Fel hormon naturiol, mae ffrwythau’n cynhyrchu’r mwy a mwy o ethylene wrth heneiddio. Wrth selio’r bananas gyda’i gilydd, rydym yn dal yr ethelen maent yn cynhyrchu sy’n cyflymu eu proses o aeddfedu

  • 5 banana

 


 

Unwaith mae’r bananas yn aeddfed

 

Gorchuddiwch bowlen o’r bananas aeddfed efo cling film a’u coginio mewn microdon ( 5 munud)

Mi wneith hyn ryddhau dŵr o’r bananas. Dyma sut rydym ni am facsimeiddio’r blas banana, heb orfod cyflwyno gormod o ddŵr i’r gymysgedd sy’n tueddu i greu cacen ddwys, stwnshlyd.

  • 5 banana aeddfed iawn

 

Sefwch bananas mewn gogr dros fowlen a gadewch i’r hylif ddraenio ohonynt. ( ~ 15 munud)

Dylech chi gael rhwng 120-180ml o ddŵr allan o’r bananas.

  • 5 banana o’r microdon

 

Berwch yr hylif banans mewn sosban i’w dwchu. ( ~ 5 munud)

Mi fydd angen ei leihau lawr i tua 60 ml o hylif.

  •  sudd y bananas

 

Ychwanegwch yr hylif bananas yn ôl i’r bananas meddal a’u stwnsio nes bron yn esmwyth

  • Sudd bananas wedi’ dwchu
  • bananas meddal

 

 

Mae’r bananas rŵan yn barod i’w defnyddio yn y rysáit


 

Paratoi’r gacen 

 

Whisgiwch siwgwr, wyau a fanila i mewn i’r gymysgedd banana. ( ~ 5 munud)

  • stwnsh banana
  • 150g siwgwr brown golau
  • 2 ŵy mawr
  • 1 tsp rhinflas fanila

 

Ychwanegwch cynhwysion sych i’r gymysgedd a’u cymysgu’n ysgafn gyda llwy/sbatwla. ( < 1 munud )

Dylid bod dal golwg blawd yn y gymysgedd, mi wneith hyn arbed y gacen rhag bod yn rhy solid.

  • 8 3/4 oz / 250g blawd plaen
  • 1 tsp / 5g sodiwm bicarbonad
  • 1 tsp / 2.5g Halen môr (neu 1/2 tsp halen bwrdd)

 

Cynheswch y ffwrn i 180°C (160°C fan).

 

Leiniwch din pobi o’ch dewis efo papur pobi.

Gall hwn fod yn din torth, tin myffins, tin rhostio. Beth bynnag ydych chi eisiau fel siâp i’ch bara bananas.

 

Rhowch y gacen yn y ffwrn a phobwch (55 – 75 munud i dorth, 35 – 45 i din pobi )

Mi fydd y gacen yn barod pan fydd ei chanol tua 95°C / 205°F, y pwynt lle ddaw cyllell / thermomedr yn ei chanol allan yn lân.

 

Tynnwch y tun o’r popty a gadewch iddo oeri. ( 1 awr)

Trosglwyddwch y i rac weiren unwaith mae’r gacen yn oeri digon i afael ynddi

 

Os ydych yn bwriadu eisio’r gacen, torrwch y gacen a’i throsglwyddo i’r rhewgell unwaith mae’r holl beth wedi oeri’n gyfan gwbl.


Efo’r gacen yn oeri / yn y rhewgell wedi’ thorri, rŵan yw’r amser i baratoi’r eisin.

 

Eisio’r gacen

 

Curwch caws, siwgwr a fanila nes yn esmwyth. ( ~ 5 munud)

Araf bach mae gwneud hyn cofiwch, oni bai eich bo’n mwynhau llnau siwgwr oddi ar y bwr, y llawr a’r to o bosib

  • 75g caws hufennog
  • 150g siwgwr eisin
  • 1 tbsp rhinflas fanila

 

Ychwanegwch yr olew a’i whisgio’n esmwyth. ( < 1 munud )

Dyma’r peth olew a roddodd y cysondeb (consistency) gorau i mi. Yn feddal ond yn dal pwysau ei hun ar dymheredd ystafell, ond yn llifo’n rhydd wrth wi gynhesu i dymheredd corff yn y meicrodon.

  • 25-30g olew had rêp (neu olew arall â blas niwtral)

 

Tynnwch y bara bananas o’r rhewgell.

Cynheswch yr eisin mewn microdon nes ei fo’n llifo’n rhydd ( ~ 10 – 20 eiliad )

Cofiwch gymysgu’r eisin wrth gynhesu I sicrhau ei fod yn gynnes drwyddo. Mae hyn yn hanfodol i gadw llifo yr eisin yn gyson, a gorffeniad eich cacenni’n esmwyth.

 

Llwywch / peipiwch yr eisin ar y gacen, yn gweithio o’r ochrau fewn.

Gwnewch hyn efo’r caceni ar rac weiren, wedi’ osod drost din pobi, i ddal yr eisin. Y gobaith yn fan hyn yw bod yr eisin cynnes yn taro’r gacen oer a’n caledu’n syth wrth iddo lifo dros yr arwyneb oer. Fel hyn mi fydd gan y gacen haen eisin solid ar dymheredd ystafell sy’n edrych yn hollol esmwyth.

 

Storiwch y cacenni yn yr oergell i galedu ac i’r bara bananas gael dadmer cyn gweini.

 

Mwy o stwff

Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r arbrawf bara bananas yma fewn i eisin ac ethylene. Am fwy o kitchen hacks croeso i chi fynd i edrych ar ein Toes Cookies sy’n defnyddio Menyn ‘di Brownio fel y cynhwysyn hud (a dwi’n addo fydd o’m yn drewi’r microdon allan fel y bananas).