Meringue Eidaleg

Os, fel fi, ma’r syniad o chwipio wyau fewn i meringue yn codi bach o ofn arnach chi, ynna dwi’n siwr bo fi’m ben fy hyn yn cael hunllefau am neud y fersiwn Eidaleg.

Lwcus i chi, dwi di bod yn dod drost yr ofnau yma’n ddiweddar, yn gwneud fy ngwaith cartref a digon o arbrofi, a dwi rwan yn barod i ddatgelu’r gyfrinach o sud i feistrioli Meringue Eidaleg, bob tro.

 Isod cewch y rysáit llawn gyda’r mesuriadau a chyfarwyddiadau llawn.

Hydoddiant o siwgwr a gwynnwy yw meringue yn y bon, efo’r gymhareb rhwng y ddau gynhwysyn yn penderfynu gwead a dwysedd eich meringue. Gan bod gwynnwy bron i gyd yn ddŵr (hyd at 90%) gallwn edrych ar meringue fel hydoddiant siwgwr mewn dŵr, sy’n golygu gallwn ga cyfranedd siwgwr i ddŵr unrhyw le rhwng 1:1, wneith roi meringue bregus, meddal, i 2:1, sydd am roid meringue dwys a chaled.

Yn y rysáit yma, mi rydym am ddefnyddio cymhareb o tua 3:2 siwgwr i wynnwy wneith roid meringue sydd yn crunchy, ond nid gymaint felly fel ei fod o’n berygl i’ch dannedd a gweddill esgyrn eich pen.

 

Meddalu’r Siwgwr

 

Mesurwch eich siwgwr a’i ychwanegu at sosban. Ychwaegwch y dŵr heb droi.’r gymysgedd

  • 7oz / 200g siwgwr
  • 3.5oz / 100g dŵr

 

Cynheswch y siwgwr ar y stof nes i’r siwgwr hydoddi a ddechrau berwi, yn cyrraedd tymheredd unrhywle rhwng 115 – 120°C (~ 10 – 15 munud )

Peidiwch a berwi’r gymysgedd yn rhy boeth. Os yw’r siwgwr yn ffrwtian gormod gall siwgwr tawdd neidio fynu i lynnu at ochrau’r sosban. Wrth wneud hyn, bydd y siwgwr yn sychu’n gyflym i ffurfio gronynnau siwgwr all ddisgyn yn ôl i’r sosban ac achosi i’r holl hydoddiant grisialu drosodd, efo’r un gronyn yna fel pwynt tarddu’r catastrophy.

Mae’r un peth yn wir am droi’r gymysgedd. Er ei fod o’n demtasiwn i ddechrau stirio, ceisiwch osgoi gwneud, y mwyaf ydych chi’n troi’r gymysgedd, y mwyaf yw’r siawns bod y siwgwr tawdd yn slosian fynnu ochrau’r sosban i lynnu, sychu a disgyn yn ôl i fewn i ddadwneud eich gwaith caled.

Y peth haws felly yw gadael y gymysgedd fod, yn defnyddio’r thermometer o dro i dro i gael golwg ar y tymheredd a efallai symud siwgwr sydd dal heb doddi o gwmpas gwaelod y sosban ychydig ( mae probe thermometer yn berffaith gan fod ei arwynebedd bach yn ei atal rhag darfu ar y gymysgedd gormod.

Gan mae gadael y gymysgedd fod yw’r ateb, y peth gorau i wneud yw ei anwybyddu, a canolbwyntio ar chwipio eich gwynnwy!


Chwipio’r Gwynnwy

 

Rhannwch eich wyau, yn rhoi’r gwyn mewn powlen glân (gallwch gadw’r melyn i wneud pasta).

Rheswm bod ‘powlen lân wastad yn bwysig yw’r un rheswm bod cogyddion efo’r rheol no goldfish (dim melyn yn y gwynnwy). Bydd unrhyw fat (fel saim ar y fowlen neu’r fat mewn melyn ŵy) yn cystadlu efo’r proteins yn y gwynnwy am le ar y ffin dŵr-aer, a felly’n atal y gwynnwy rhag ffurfio’r ewyn cryfach, mwyaf sefydlog posib (angen lcthyn diagram a explenation)

  • 4 ŵy mawr

 

Ychwanegwch eich hufen tartar neu sudd lemon.

Nid yw’r cam yma’n angenrheidiol on mi wneith ychwanegiad acid arwain at meringue sy’n haws i’w chwipio (explain)

  • 1/2 tsp sudd lemon / hufen tartar

 

Chwipiwch gwynnwy efo whisg drydanol nes bod pigau cadarn yn ffurfio. (3-5 munud)

Os ydych yn gor chwipio a mae’r ewyn yn dechrau torri fynnu, peidiwch a phoni, mi wneith ychwangu’r siwgwr safio fo hwyrach ymlaen. Gwell mynd rhy bell na ddim digon pell yn yr achos yma.

 

Mi fydd yr gwynnwy yn iawn i eistedd rwan nes bos y siwgwr yn cyrraedd y tymheredd cywir.

 


 

Pan fydd y Siwgwr yn Barod

 

Unwaith mae’r siwgwr o fewn 115 – 120°C, tynnwch o oddiar y gwres.

Whisgiwch y siwgwr poeth i mewn i’r gwynnwy wedi’ chwipio nes bod y gymysgedd yn ffurfio meringue sgleiniog a cadarn.

Y ffordd gorau o wneud hyn yw i dollti’r siwgwr lawr ochor y fowlen tra’n whisgio’r gwynnwy mewn cylch mawr efo’r llaw arall. Neu, os ydych chi’n loaded, mi allwch chi ddefnyddio KitchenAid i wneud y gwaith cymysgu i chi…ond efo pres fel yna, pam gwneud dim byd adre?!

 

Mae’r meringue rwan yn barod I’w ddefnyddio ar gyfer icing, meringues neu beth bynnag ydych chi eisiau ohono


 

Defnyddio’r meringue

 

Siapiwch y gymysgedd meringue (efo llwy, neu bag peipio) mewn i’r siap sy’n cymeryd eich fancy.

  •  Tin pobi, wedi’ leinio â papur pobi.

  • Bagiau peipio / llwy fetel mewn dŵr berwedig

 

Pobwch y meringues ar 80°C ( 60°C efo fan) nes iddynt galedu ( 6 awr )

 

 

Gadewch i’r meringues sychu’n hollol yn y ffwrn (wedi diffodd) drost nos. ( 12 awr )

Os yn bosib, ar ôl pobi, ceisiwch dynnu’r meringues oddiar y papur pobi (yn ofalus i beidio malu’r gragen allanol) a’u gosod yn ôl ar y papur, ben i lawr. Bydd hyn gadael i leithder sydd dros ben yn y meringue i anweddu allan trwy’r gwylod athraidd, yn bod o’n sownd o dan y gragen caled.

 


Dyna chi felly, her y Meringue Eidaleg wedi’ ddadansoddi a’i ateb, i gyd mewn un rysáit!

Am ddisgrifiad mwy manwl o’r cemeg tu ôl i’r melysdod, cymerwch olwg ar unai ein tudalen Gwyddoniaeth Gwynnwy yn Y Lab i chi ga deall, a rheoli, yn union beth sydd yn mynd ymlaen y tro nesa da chi’n chwipio’r hen wynnwy. Diddorol tu hwnt.