Queso Fresco – Caws Ffres

caws ffres llaethdy llyn

Caws! Caws! Pleidiol wyf i fy nghaws!

Fel cogydd pitsa, caws yw fy nghanfas. Mewn caws, mae’r gallu i drawsnewid bara a thomato yn fwyd arallfydol. Gall gaws ein pitsas ein cludo o strydoedd Parma i fynyddoedd Roquefort-sur-Soulzon, ac fel cogydd Cymraeg, mae hyn yn beth gwerthfawr iawn.

Yn bell o fod yn sownd yn Cheddar Caerffili, ma’ hi rŵan yn bosib teithio ledled Cymru trwy’n caws, o Bentraeth, Ynys Môn efo Caws Rhyd y Delyn, i fynyddoedd Eryri efo caws dafad Cosyn. Mae hi’n wir yn amser cyffroes yng nghaws Cymru.

Gyda’r holl ddewis yma ar ein stepen ddrws, y peth naturiol i mi wneud felly…

…yw anwybyddu nhw i gyd a gwneud peth fy hun! Ia, ddarllenoch chi’n gywir, heddiw, mi rydw i am fod yn gwneud Queso Fresco, yn llythrennol Caws Ffres, efo dim ond llaeth Llaethdy Llŷn (a bach finag Tesco).

Am y rysáit llawn efo mesuriadau a thechnegau, cliciwch isod.


Paratoi’r Offer

 

Leiniwch ogr efo gadach neu liain gaws glan a’i osod drost fowlen

Bydd angen i’r fowlen fod digon mawr i ddal y maidd (whey) a ddaw o’r llefrith ac ar ôl ffurfio’r caws.

 

Gwneud y Caws

 

Cynheswch eich llefrith i 75-80°C

Gallwch ddefnyddio microdon  neu sosban ar gyfer hyn. Jest osgowch ferwi’r llefrith, i arbed blerwch, ac i arbed llosgi’r llefrith os yn ei gynhesi ar y stof.

  • 1 litr llefrith (yr ansawdd gorau sydd ar gael)

 

Ychwanegwch asid o’ch dewis i’r llefrith cynnes.

O ran dewis asid, blas yw’r unig ffactor. Mi drosglwyddith finag gwyn bron i ddim blas, tra bod blas finag gwin neu lemon yn mynd i gryfach ar y caws. Dim bod hyn yn beth drwg, ond eich bod yn ymwybodol o’r effaith.

  • 20g o asid ( 2% asid i bob litr o lefrith)

 

Gadewch i’r gymysgedd geulo ( ~ 30 munud )

Mi welwch effaith yr asid yn syth. Mi ranith yr asid y llefrith i ffurfio ceuled solid a maidd dyfrllyd (y curds a’r whey).

 

Hidlwch y gymysgedd drwy’r gogr ‘di leinio, yn halltu’r ceuled yn gyntaf i’w blasu (30-60 munud)

Yr hirach ydych yn gadael i’r caws ffres ddraenio, y mwyaf cadarn yr eith o. Os ydych eisiau caws ffres sy’n hollol gadarn (gwead mwy fel mozzarella), cywasgwch y caws yn y lliain efo riw fath o bwysau ar ei ben wrth iddo ddraenio.

  • Pinsiad o halen (i’ch blas)

 

Bydd y caws yn barod i’w fwyta’n unwaith ydych yn hapus efo’i wead.

 

Mwy i Ddarllen

Efo’ch caws yn barod, gallwch un ai ei dostio ar fara, neu ei roi ar bitsa fel ydw i wedi bo’n gwneud. Beth bynnag ydych yn gwneud, mi fydd o’n flasus a’n un peth arall i chi gael arbrofi efo yn eich repertoire coginio.