Munchmallows (teacakes homemade)

Yr hen freuddwyd o: ‘Tybed ‘swni’n medru ail greu hwn adre?’ Yr ateb yw reverse engineering. Heddiw, ‘dwi am ail greu y clasur hanner biscuit hanner sweet na, y Tunnok Teacake, neu munchmallows, fel sa cyfreithiwr hawlfraint yn dweud wrthoch. Am yr holl stori am sut canfuwyd y rysáit yma, ewch i’r Lab am y stori llawn. Ond, am …

Cwcis Ceirch Clegyrog (gwglwch o!)

Gluten-free(ish)? Ceirch iachus? Cnau Cocos?! Os, am ba bynnag reswm, bod un o’r pethau yma’n apelio atoch chi, mi rydych mewn lwc. Wythnos yma, ‘dwi wedi bo’n arbrofi efo cnwd cyntaf Cymru i wneud ein treat diweddaraf: Cwcis Ceirch. This recipe is a trial of Momofuku Milk Bar’s Oatmeal Cookies by Christina Tosi. Mae’r cynhwysion a mesuriadau llawn isod.

Carbonara

Pantri’n wag. Dim byd ar ôl yn y tŷ ond wyau? Ella paced o facwn a hen ddiweddion parmesan? Pasta? Ugh… Ond be pe bawn i’n dweud bod eich cegin gwag chi, efo’r potensial i syfrdanu teulu a gwesteion oll gyda’ch dawn coginio? Y pryd all gyflawni hyw, yw Carbonara. Pryd pasta mwyaf camddealledig Cymru …

Crempogau Llus

Y brecwast tradodiadol Cymreig (a sa neb i ddweud fel arall)! Am ganrifoedd ma plantos Cymru ‘di bod yn dringo’r mynyddoedd i hel y llus. Er mod i’m yn gweld llawar o neb yn dringo’r mynyddoedd rhagor (ddim i nol llus beth bynnag), dio’m yn reswm i beidio mwynhau’r brecwast gorau sydd yna: Crempogau llus. …