Munchmallows (teacakes homemade)

Yr hen freuddwyd o:

‘Tybed ‘swni’n medru ail greu hwn adre?’

Yr ateb yw reverse engineering.

Heddiw, ‘dwi am ail greu y clasur hanner biscuit hanner sweet na, y Tunnok Teacake, neu munchmallows, fel sa cyfreithiwr hawlfraint yn dweud wrthoch.

Am yr holl stori am sut canfuwyd y rysáit yma, ewch i’r Lab am y stori llawn.

Ond, am y rysáit efo’r holl fesuriadau a thechnegau, cliciwch isod.


Mi gefais i riw 12 munchmallow allan o’r rysáit yma ond mi fydd hyn yn dibynnu ar faint eich bisgedi a faint o hael ydych chi efo’ch siocled

 

Paratoi’r bisgedi 

 

 

Cymysgwch powdwr pobi, blawd, siwgwr, menyn ac olew i ffurfio toes brau. ( ~ 2 funud)

  • 110g blawd plaen
  • 90g blawd gwenith cyflawn
  • 60g menyn tawdd
  • 30g olew had rêp
  • 30g siwgwr gwyn
  • 1 tsp powdwr pobi

 

Rholiwch y toes allan a’i dorri’n gylchoedd o faint a thrwch eich dewis. ( 10 munud ) [ yn y fideo ]

Mi fydd y toes yn rhydd iawn felly rholiwch yn esmwyth a’n araf, efo digon o flawd ar y bwrdd. Os yw’r toes yn rhwygo, gwasgwch o fewn ar ei hun o’i ochrau i gau’r tyllau, cylchdrowch y toes, a rholiwch o allan eto ar ongl wahanol.

 

Trosglwyddwch y cylchoedd toes i din bobi ochor isel wedi’ leinio â phapur pobi.

Gallwch ail rholio’r darnau toes sy’n weddill nes bo’r toes i gyd wedi’ ddefnyddio.

 

 

Pobwch y bisgedi ar 180°C (160°C fan). (10-12 munud)

Ni ddylai’r bisgedi newid eu siâp ond mi fyddem wedi brownio rywfaint.

 

Tynnwch y tun o’r popty a gadewch i’r bisged oeri. ( 10 munud )

Trosglwyddwch y bisgedi i rac weiren unwaith maent wedi oeri digon i afael ynddynt.

 


Efo’r bisgedi’n oeri, rŵan yw’r amser i baratoi’r filling mashamalo.

 

Paratoi’r marshmallow filling

Yn ôl y sôn, meringue syml yw’r marshmallow mewn Tunnocks (does dim gelatin yn y cynhwysion). Am y rheswm yma, mond angen dilyn ein rysáit Meringue Eidaleg hyd at ‘Defnyddio y meringue’ sydd angen gwneud.

 

Mae’r gymhareb 3:2 siwgwr i wynwy am fod mwy addas na’r un 1:1 ddefnyddais i, felly bydd angen

  • 198g siwgwr
  • 4 gwynwy

 

Gallwch un ai mowldio’r meringue, neu eu llwyo ar ben y bisgedi fel llenwad i’r munchmallows [ yn y fideo]

 


Dyma lle geisiais y dempro’r siocled, mae hyn yn opsiynol…a’n annhebygol o weithio…mwynhewch.

 

Paratoi’r siocled

 

Torrwch siocled yn ddarnau, yn cadw rhan ohono i’w gratio.

  • 300g siocled tywyll

 

Meddalwch siocled nes iddo gyrraedd 45°C ( ~ 2 funud yn y microdon / 5 munud mewn bain marie )

Bwriad y cam yma yw meddalu’r crisialau braster yn y siocled, yn creu llechen lan o fath.

  • 250g siocled wedi’ dorri

 

Oerwch y siocled lawr i dymheredd ychydig uwch na 32°C

Ar 32°C mae braster y menyn coco yn dechrau ymsolido i grsialau phase VI, y strwythur sy’n creu siocled sgleiniog, efo brathiad iddo.

Meddalwch gweddill y siocled wedi’ gratio i mewn i’r siocled tawdd, yn ei droi’n ddi-baid.

Hwn yw’r cam hadu. Trwy ychwanegu siocled wedi’ dempro’n barod, mae crisialau o’r siâp cywir yn cael eu dosrannu trwy’r siocled tawdd. Gall y siocled tawdd yna grisialu o gwmpas yr ‘hadau’ ac felly mi fydd y siocled i gyd wedi’ dempro.

 

Daliwch y sioced tawdd rhwng 31 a 32°C, yn dal i droi bob yn ail munud ( ~10 munud )

Trwy ddal y siocled ar y tymheredd penodol yma, mae’r crisialau phase VI yn cael amser i dyfu a datblygu. Hwn yw’r pwynt lle eith popeth o chwâl. Uwch na 32°C, mi fydd y crisialau’n meddalu eto a fydd rhaid dechrau eto, is na 31°C ac mi rydych mewn perygl o gael cystadleuaeth rhwng crisialau, efo siapiau eraill yn tyfu i amharu ar strwythur y siocled, wneith ddifetha eich tempro.

Rheswm bod y cyfeiriadau ‘ma mor fras yw fy mod i i’n hollol ddwl i sut mae gwneud hyn yn gywir. Felly nes bod gennyf i beiriant Sous Vide, arbrofwr, nid awdurdod fyddai, sori 😛

Os ydych dal yn sefyll a bod popeth wedi gweithi, dylech chi rŵan gael munchmallows perffaith…haha!

 


 

Mwy o stwff

Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r ymdrechion yma beth bynnag. Plis, commentiwch os oes gennych ffyrdd gwell i neud munchmallows na hyn, ‘sa feedback yn anhygoel. Hen bryd adeiladu’r gymuned fwdies Cymraeg ‘ma!