Yn fy ngwely oeddwn i, ‘di cynhyrfu’n lan. Lawr grisiau, oedd gennai dros litr o hufen i’w ddefnyddio. Wedi penderfynu gwneud Hufen Ia, roedd hi rŵan yn mynd amser obsesu dros ba flas i ddefnyddio. Poblado Cofi a cardamom? Ia! Rhiwbob a rhosmari? Pam lai de? Ond be arall sydd gennai angen defnyddio? Bananas de! …
Mis: Mai 2018
Caws! Caws! Pleidiol wyf i fy nghaws! Fel cogydd pitsa, caws yw fy nghanfas. Mewn caws, mae’r gallu i drawsnewid bara a thomato yn fwyd arallfydol. Gall gaws ein pitsas ein cludo o strydoedd Parma i fynyddoedd Roquefort-sur-Soulzon, ac fel cogydd Cymraeg, mae hyn yn beth gwerthfawr iawn. Yn bell o fod yn sownd yn Cheddar …
Be wna’r dyn â gormod o gream? Hufen ia wrth gwrs! Mân fantais o weithio mewn bwyty bach yw gwastraf. Dim i’r fusnes wrth gwrs ond i mi’n bersonol ma’n gret! Felly wythnos yma, 1.2 lire o hufen dwbwl oedd genyf i chwarae efo. Y peth cyntaf ddaeth i’m meddwl oedd hufen ia, ond heb beiriant, …