Amaretti’n rhy ddiymhongar i chi fel ‘sgedan diwedd pryd? Heddiw, ‘da ni’n treialu rysáit am Lagniappes, bisgedi ar ôl bwyd Ken Forkish o’i lyfr Flour Water Salt Yeast. ‘Dwi wastad wedi bod eisiau creu rysáit bisgedi cofi felly dyma’r cyntaf o’r ymdrechion yma; bisgedi almon wedi eu gorffen efo hufen a siwgwr. Darllenwch ymlaen am y rysáit …
Mis: Mehefin 2018
Darn crispy’r lasagna. Achos miloedd o frwydrau teuluol dros y canrifoedd. Mor werthfawr ei fod o’n bryd yn ei hun yn un o fwytai gorau’r byd – Osteria Francescana. Ma’r syniad ei hyn yn ddigon i dynnu deigryn i’r llygad a dŵr i’r danned. Heddiw felly, ‘da ni am fod yn sianelu Massimo Bottura, yn ceisio …
Y Bara Beunyddiol Pain bénit, y bara sanctaidd. Am y 400 mlynedd diwethaf, ma’ Ffrainc wedi bod yn brwydro. Na, nid yn erbyn yn Almaenwyr, ac na hyd yn oed nhw eu hunain, ond yn erbyn menyn. Ia, menyn. Fel mae deall hi, bara sanctaidd oedd brioche i ddechrau. Ond, riw bryd yn ystod y 17eg …