Lagniappes (bisgedi ar ôl bwyd – Ken Forkish)

Amaretti’n rhy ddiymhongar i chi fel ‘sgedan diwedd pryd?
Heddiw, ‘da ni’n treialu rysáit am Lagniappes, bisgedi ar ôl bwyd Ken Forkish o’i lyfr Flour Water Salt Yeast. ‘Dwi wastad wedi bod eisiau creu rysáit bisgedi cofi felly dyma’r cyntaf o’r ymdrechion yma; bisgedi almon wedi eu gorffen efo hufen a siwgwr.

Darllenwch ymlaen am y rysáit efo’r mesuriadau a thechnegau llawn.


Paratoi’r toes

 

Curwch y cynhwysion sych i mewn efo’r menyn

Curwch y gymysgedd yn araf i ddechrau i osgoi y blerwch wnes i o’r gegin
  • 100g cnau cyll/ almon man
  • 200g blawd gwyn cryf
  • 50g siwgwr
  • 120g menyn
  • Pins halen

Daliwch i gurro, yn ychwanegu’r ŵy i’r gymysgedd nes ffurfio toes

Mi fydd o’n barod unwaith ddringith y toes fynnu’r whisk
  • 1 ŵy 

Rholiwch y toes yn silindr a’i lapio mewn cling film, rhowch o’n y fridge i oeri ( > 3 awr )


Mi fydd y toes yn iawn yn y fridge hyd at nes eich bo’n barod i bobi.

Pobi’r Bisgedi

Tynnwch y toes o’r fridge a’i sleisio’n olwynion trwch bys.

Gallwch hefyd rholio’r toes a’i dorri’n fisgedi efo torrwr o siâp eich dewis.

 

Gosodwch y bisgedi ar din pobi wedi’ leinio â phapur pobi. Brwsiwch y bisgedi efo hufen a’u gorffen efo haen o siwgwr.

‘Dwi’n siwr y buasai llefrith yn gwneud y tro i chi’n fan hyn hefyd.

  • hufen dwbl
  • siwgwr gronynnog

 

Pobwch y bisgedi ar 190°C (12-15 mun)

Gostyngwch yr amser pobi i 8-10 munud ar gyfer bisgedi teneuach, wedi eu rholio.

 

Gadewch i’r lagniappes oeri ar rac weiar i’r bisgedi gael oeri ac i’r sglein hufen gael caledu.

 


Dyna i chi sbin Mr Forkish ar y fisged ar ôl te, Lagniappes. Mi gewch chi ddeutha fi be ‘di’r verdict ond am sbin fi ar y bisgedi ma, mi fu ‘na Amaretti i fynnu’n o fuan.