Giardiniera (llysiau wedi eu eplesu)

Gwers mewn piclo a plymio!

Giardiniera sydd ar y fwydlen heddiw. Relish Eidaleg o fath yw Giardiniera, cymysgedd o lysiau wedi eu cadw dan olew neu finegr. Wedi fy ysbrydoli i arbrofi efo eplesu (fermentio) yn ddiweddar, mi benderfynais roi sbin lactig ar y picls ‘ma, yn eplesu’r Giardiniera yn lle.

Yn lle defnyddio asid i amddiffyn rhag bacteria, mi rydym felly am fod yn defnyddio halen, yn cadw ein llysiau mewn dŵr heli. Wrth halltu, rydym yn arbed unrhyw facteria neu lwydni rhag difetha’r llysiau, wrth ddatblygu blas mwy siarp ar y llysiau wrth i facteria lactobacillus (all wrthsefyll yr halen) fwydo arnynt i greu asid lactig.

Er bod dim drwg yn dod o’r lactobacillus, mi wnânt nhw gynhyrchu dipyn go lew o CO2 wrth eplesu’r llysiau. Mi roedd y rysáit  yma felly’n esgus da i mi gael ceisio creu jar eplesu DIY fy hun. Y bwriad felly oedd gosod trap awyr mewn caead jar a fysa’n gadael i’r CO2 caiff ei gynhyrchu i adael y jar, wrth arbed ocsigen rhag mynd i mewn (y prif reswm gall lwydni ffurfio).

Diolch i gyfres It’s Alive! Bon Appetite’s am ysbrydoli’r fideo.

 

 

Cliciwch isod am y rysáit llawn efo mesuriadau a’r technegau a ddefnyddid.


Paratoi’r jar eplesu

Casglwch eich deunyddiau

Hwn yw’r sialens fwyaf! ‘Ma ‘na risg o dreulio oriau maith ar Amazon yn chwilio am y jar berffaith ond i fod yn onest, ailgylchu yw’r peth hawsaf fan hyn. Tyrchwch drwy’r ailgylchu am y jar fwyaf sydd gennych chi (jar o domatos sych o’r bwyty ddefnyddiais i) a ewch ati efo’r DIY. Fel arall, waeth i chi brynu un ddim!

Mi lenwodd y jar 3l (efo 2l o ddŵr halen) ddefnyddiais i tua 6 jar jam efo Giardiniera, er gwybodaeth.

*Nodyn: ‘Dwi dal ddim yn rhy siŵr o faint o saf yw defnyddio caead metel efo jar eplesu yn y tymor hir. Mi ddiweddarai’r dudalen os ddarganfyddai unrhyw broblemau efo rhwd.

 

Driliwch dwll yng nghaead y jar sydd ychydig yn fwy nag agoriad y grommet [0:41-1:22]

Gallwch un ai ddefnyddio dril neu Dremel. Driliwch yn defnyddio blaen ben rhaw 10-12mm i gael y twll glanaf, ond mi wneith Dremel weithio’n iawn i chi hefyd (ac mae ganddo’r fantais ychwanegol o allu derbyn pen taenu, fel bod modd gwisgo unrhyw ochrau siarp i lawr).

Dremmel (pen pell â dannedd os yn tyllu drwy metal, unrhyw ben i blastic) NEU blaen ben rhaw 10-12mm os yn drilio.

Gosodwch y grommet yn y twll [0:42-1:50]

Jest gwasgwch o mewn i le, mi ddylai selio ei hun fewn yn dynn. Os oes ddim digon o le, ewch yn ôl i ledu’r twll ychydig efo’r dril. Ond cofiwch fod angen i’r grommet fod mor glyd ag sydd bosib yn y twll felly peidiwch â gor wneud hi efo’r dril.

Byddwch hefyd yn ofalus i beidio torri eich hun na’r grommet ar ochrau’r twll (dyma le mae pen sandio i’r dril yn helpu).

Sterileiddiwch y jar a’r caead efo dŵr poeth a sebon, rinsiwch popeth yn lan a a’u sychu yn y ffwrn ar 80°C (10 mins)

Mi wneith y dŵr a sebon dynnu unrhyw saim oddi ar y jar lle bo’r ffwrn yn llad unrhyw facteria neu lwydni sydd dal o gwmpas ar ôl glanhau’r jar.

Unwaith rydych wedi sterileiddio’r jar, cewch ddechrau ar dorri’ch llysiau.


Paratoi’r llysiau

Casglwch lysiau o’ch dewis

Nid oes mesuraidau pennodol i’r rysáit yma (sioc!), mae’r holl beth yn dibynnu ar eich blas personol a beth sydd ganddoch i law.

Y llysiau ddaeth allan orau yn fy marn i oedd:

  • Bresych Gwynion (cauliflower)
  • Carots
  • Seleri
  • Nionyn
  • Garlleg

Y llysiau oedd ddim mor dda oedd:

  • Pupur (too soggy)
  • Ffa Gwyrdd (too tough)

Y llysiau all fod yn anhygoel a ‘dwi’n fwriadu drio:

  • Ciwcymbr
  • Radis
  • Pupur Poeth (fel Jalepenos)

 

Hydoddwch yr halen yn y dŵr i greu hydoddiant halen 2%, yn ychwanegu sbeisys o’ch dewis. [1:55-2:25]

Yn benodol, rhaid i hydoddiant halen 2% gynnwys tua 2% o bwysau’r dŵr a ddefnyddir mewn halen. Ar gyfer 2 litr o ddŵr (2 litr = 2000ml ~ 2000g), rydym felly angen 2*2000/100 = 40g o halen i gynhyrchu hydoddiant 2% halen.

Mae mesuriadau yma ar gyfer jar 3 litr. Beth bynnag yw main eich jar, mi ddylai’r dŵr gyrraedd tua hanner ffordd i fynnu’r jar.

  • 2 litr o ddŵr
  • 40g o halen

Ar gyfer y sbeisys, ychwanegwch 1/2 tsp i bob litr o ddŵr halen (felly 1tsp yr un i 2 litr)

  • hadau mwstard
  • hadau coriander
  • hadau ffenigl
  • puprennau
  • pupur cayenne
  • oregano (pwysig iawn ar gyfer y blas Canoldirol ‘na, lly dwbwlwch hwn!)

Gosodwch y jar i un ochor a thorrwch y llysiau i mewn i ddarnau addas i’w piclo (neu mewn i flodigion, efo’r bresych gwyn)

Eto mae maint eich llysiau hollol fynnu i chi, ond ‘dwi’n awgrymu peidio mynd yn rhy fan fel bod y llysiau ddim jest yn piclo’n ddarnau a’n diflannu’n llwyr!

Trochwch y llysiau yn y dŵr halen sbeislyd, yn troi’r gymysgedd i’r blas cael treiddio drwodd.

Os nad yw’r holl lysiau’n medru ffitio yn y jar, gallwch ddefnyddio’r gweddill i wneud cawl, neu stoc llysiau. Mi fydd hefyd raid gwneud siŵr bo’r dŵr halen yn gorchuddio’r llysiau’n gyfan gwbl, yn ychwanegu dŵr o’r tap os oes angen (neu tywalltwch peth allan os yw’r jar yn gorlifo).

  • Jar o ddŵr halen sbeislyd
  • Llysiau wedi’u torri

Gwasgwch y llysiau lawr i o dan lefel y dŵr, gosodwch y caead ar y jar, a llenwch y trap aer efo dŵr [4:15-4:41]

Mae eich Giardiniera wedi gorffen! Dim i wneud rŵan ond disgwyl i’r lactobacillus ‘na fynd at eu gwaith, a i’r llysiau ddechrau eplesu.


Eplesu’r llysiau

Gadewch eich jar o Giardiniera allan ar dymheredd ystafell i eplesu am riw 5 niwrnod.

Mi allwch weld pan mae’r broses eplesu’n dod i ben unwaith mae’r llysiau’n stopio cynhyrchu swigod (mae’r broses yn un reit fywiog cofiwch). Mae hyn yn dangos bod y bacteria lactobacillus wedi treulio’r maeth i gyd oedd ar gael iddynt, ac felly’n atal cynhyrchiad CO2, wedi cynhyrchu’r holl lactig asid fedrant nhw i roid Giardiniera perffaith i chi.

 

Wedi gorffen eplesu, ychwanegwch finegr a siwgwr i’r jar.

Mi wneith hyn aeddfedu blas yr hylif piclo a’n tynnu’r cryfder blas ohono. Ar gyfer y 2 litr o ddŵr, mi ychwanegais 100g o siwgwr a finegr yn eu tro (2.5% yr un o bwysau’r hylif).

Ond cofiwch mai i’ch blas yw popeth, a chroeso i chi ychwanegu mwy, neu lai o asid a siwgwr (mi fuaswn i, er enghraifft, yn ychwanegu mwy o finegr tro nesa gan fod i’n mwynhau’r brathiad chwerw mae o’n rhoi i’r picles)

  • 100ml finegr o’ch dewis
  • 100g o siwgwr

 


Dyna chi, yr oll sydd yna i eplesu llysiau. Mi allwch rŵan storio’ch Giardiniera yn y fridge, efallai’n ei rannu rhwng jariau llai, haws i’w cadw. Mi wneith y Giardiniera gadw yn y fridge am fisoedd o leiaf (efallai blynyddoedd…peidiwch â’n nyfynnu ar hynna).

Felly ewch a lledaenu’r neges o Giardiniera efo pawb! Rhowch o’n eich brechdanau, cymysgwch nhw mewn i salad, neu trïwch ein Focaccia i chi gael eu trio fel appetizer cyn te, mae popeth yn buddio o bŵer y picls.