Speculoos! (arolwg rysáit seriouseats)

Speculoos homemade

Speculoos! Neu be ddylai ‘di bod yn fisgedi Speculoos beth bynnag. Mwy o adolygiad rysáit i fod yn onest.
Brwydr o garamel yn erbyn siwgwr ‘di tostio oedd hwn, i weld pa siwgwr fysa’n gwneud y fisged coffi orau.

Diolch i seriouseats.com am ysbrydoli’r rysáit:

Cliciwch isod am y rysáit llawn efo’r mesuriadu a thechnegau a ddefnyddwyd:


Paratoi’r toes

 

Cymysgwch eich sbeisys

Dyma bwysau’r sbeisys fydd angen arnoch yn erbyn ei gilydd. Ni fydd angen yr holl gymysgedd arnoch dro ‘ma felly gallwch safio’r gweddill ar gyfer defnydd arall.
  • 15g Sinamon
  • 2.5g Nutmeg
  • 1.5g Clove
  • 1g Cardamom
  • 1g Anise

 

Curwch y cynhwysion sych i gyd (heb law am y blawd) i mewn efo’r menyn

Curwch y gymysgedd yn araf neu efo llaw i ddechrau i osgoi blerwch.
  • 150g siwgwr (wedi ei dostio os efo’r amynedd)
  • 85g menyn
  • 5g / 1 tsp o bowdwr pobi
  • 1g/ 1/2 tsp o’r gymysgedd sbeisys
  • Pins halen

Curwch ddŵr i mewn i’r gymsgedd i’w lacio.

15g/ tbsp o ddŵr

Daliwch i gurro, yn ychwanegu’r blawd i ffurfio toes.

  • 155g blawd

 

Rholiwch y toes allan a’i dorri’n sgwariau/betrualau. [1:28-2:28]

Byddwch yn ofalus efo’r toes. Digon o flawd a dim trin y toes yn rhy arw.

 

Gosodwch y bisgedi ar din pobi wedi’ leinio a’u pobi ar 190°C (14-16 mun)

 

Gadewch y bisgedi speculoos oeri ar y tyniau nes bo nw’n galed.

 


Gwerthusiad

Dyna oedd jist y peth beth bynnag, dim bod hynnu am olygu bod hein yn fisgedi blasus!

Yn fy marn i, roedd digonedd o bethau o’i le efo’r bisgedi a’r rysáit yma;

  • Llawer gormod o bowdwr pobi. Gymaint nes bo’r bisgedi’n digyn a mod i’n medru ei flas ar fy nannedd!
  • Dim digon o wahaniaeth blas rhwng defnyddio siwgwr ‘di dostio a caramel wedi’ falu. Yn enwedig o gysidro bod angen riw 15% pwysau’r blaws mewn dŵr jest i gael y caramel a’r menyn i gymysgu.
  • Roedd hyn mwy na thebyg oherwydd bod caramel yn fwy sych na siwgwr plaen.
  • Mi roedd y ddau siwgwr hefyd yn fan iawn, felly efallai bod maint y crisialau wedia amharu ar faint o aer oedd hi’n bosib curro i mewn i’r gymysgedd menyn a siwgwr.

Mwy i ddarllen

Os ydych wedi mwynhau’r rysáit, neu’r arolwg yma oleia, mae ysbrydolaeth y speculoos ‘ma ar seriouseats a mae treialon siwgwr fi i’w gweld yn fan hyn.