Tostio neu Carameleiddio? Y ffordd gorau o greu blas caramel

Toasted V Caramel Sugar

Am riw reswn, wrth ymchwilio rhiw fideo arall, mi ddisgynnais i i’r trap o chware efo caramel am bythefnos.

Dim gair o gelwydd.

Wrth chwilio am rysáit bisged gofi arall, mi ddechreuais i fach o ymchwil mewn i fisgedi Speculoos, a sut mae cael blas caramel i mewn i fisged. Un theori o wefan seriouseats oedd bod siwgwr brown jest ddim digon da rhagor, ac i gael gwir ddyfnder blas caramel o’n bisgedi, mae angen tostio siwgwr.

Sut mae gwneud hyn felly?

Cyn i chi lenwi’r tostiwr efo bag o granulated, mi ddylwn i ddweud siwgwr ‘di rhostio fan hyn, nid tostio, gan mae pobi’r siwgwr yw’r gamp yn fan hyn. Y syniad yw bo’r siwgwr yn cael ei bobi ar dymheredd weddol isel, riw 150°C nes bo’r siwgwr yn dechrau brownio, yn colli eu felystod angerddol a’n datblygu nodau mwy aeddfed a chymhleth.

Ond mi gymerith hyn riw 5 awr i chi!

Gan fod cryn leied o le rhwng tostio a meddalu siwgwr, mae’r broses pobi ‘ma’n cymryd oriau maith, ac i fod yn onest, dydi’r bil nwy ddim gwerth o i mi, heb sôn am yr holl amser sydd angen i warchod y sigwr, yn ei droi a’n ei wylio fel babi. Fel y gwelwch, roedd 2 awr fer yn rhy hir i mi, yn carameleiddio, cyn tostio’r siwgwr droeon.

Dyma le ddaeth fy syniad ysbrydoledig, creu caramel. Yn lle tostio’r siwgwr, pam ddim ei feddalu i abergofiant, malu’r caramel a gynhyrchwyd a creu siwgwr o garamel! Felly dyma yn union wnes i…efo canlyniadau, amrywiol, ddywed i.

Cewch y rysáit llawn efo’r mesuriadau a’r technegau a defnyddwyr, isod.


I dostio siwgwr

 

Towalltwch siwgwr mewn haen trwch gewin i mewn i din pobi trwm neu badell sy’n saff i’w bobi.

 

Pobwch y siwgwr mewn ffwrn isel ar 150°C (2-7 awr)

Mae’r amser yn mynd i benderfynu ar raddfa’r blas. Mi wneith 2 awr roid siwgwr lliw tywod i chi, tra bo’r 7 awr am greu siwgwr ambr. Mi fydd angen troi’r siwgwr bob riw hanner awr i wneud yn siwr bod yna’m manau sy’n gor boethi a’n meddalu (does ddim safio fo unwaith ma’n troi’n bwll tawdd)

 

I garameleiddio siwgwr

 

Taflwch siwgwr i mewn i sosban (eto tua trwch gwein bys o ddyfnder)

 

Cynheswch y siwgwr ar wres cannolog nes i’r ymylau feddalu

 

Tynnwch y siwgwr tawdd i mewn i gannol i sosban at y siwgwr solid

Does ddim angen cymysgu’r siwgwr, yr unig beth wneith hyn yw gwasgaru siwgwr solid trwy’r siwgwr tawdd wneith oeri’r gymysgedd.

 

Daliwch i fynd nes bo’r holl siwgwr wedi meddalu a wedi troi’n lliw copr tywyll

Mi fydd y caramel yn barod ychydig ar ôl i’r gymysgedd ddechrau cynnhyrchu mwg (ond os ydi o’n mygu fel llosgfynnydd, ‘da chi ‘di mynd yn rhy bell).

 

Towalltwch y caramel poeth a din pobi wedi leinio â papur pobi, a’i adael i oeri a chaledu

Gwnewch yn siwr mae papur pobi efo silicon yw hwn, nid greasproof wneith lynnu i’r caramel.

 

Malwch y caramel oer cyn eu dorri’n fan efo prosesydd bwyd, neu flendar

Gallwch falu’r caramel gyntaf drwy ei lapi yn y papur pobi a’u darro efo pin rholio. Mi fydd y darnau yna digon man brosessydd neu flenda ei droi’n ronynnau.


 

Gwerthusiad

Er bod y caramel man yn edych yn dda, dydi o’m am gymeryd lle siwgwr arferol mewn pobi. Mae’r holl ddŵr sydd wedi ei golli wrth gwcio’r caramel yn gwneud o’n hyd yn oed mwy hygroscopig na siwgwr pur, sy’n effeithio ar lefelau dŵr ryseitiau (angen ychwnaegu o dŵr i’r gymysgedd).

Ar y llaw arall, doedd ddim llawr o wahaniaeth blas rhwng y ddau siwgr unwaith oeddem nhw mewn bisged neu gacen felly efallai bod hi’n well cadw nhw fel danteithion fel ag y maent, rhywbeth bach i fywiogi’ch cofi, mwy na’ch cêcs.