Amaretti – Cyanide a Hapusrwydd ‘di bobi

Ond ‘sgedan o’ni ‘isho!

Bisgedi caramel, shortbread cnau, bob un yn siom. Efallai fy mod i ar fai. Efallai bod breuddwydio am y fisged goffi perffaith yn rhy uchelgeisiol. Neu efallai, bod angen rhywbeth symlach arna i, rhywbeth, fel Amaretti.

Y fisged goffi cyntefig. Yn ôl y chwedloniaeth tarddu o bentref Saranno, ym mryniau Lombardi, wna’r bisgedi Amaretti. Ar frys i blesio esgob, dyma gwpwl o’r pentref yn cyfuno gwynnwy, siwgwr a cherrig apricot, i greu Amaretti.

Erbyn hyn, almon mân melys yw’r gneuen a ddefnyddir mewn Amaretti, yn rhannol am eu bod yn canmol blas Amaretto, ond hefyd am fod cerrig apricot yn cynnwys cyanide. ‘Sa hynna’n golygu bod y rysáit isod (efo cerrig apricot yn lle almon) yn ddigon i ladd dau oedolyn, neu un dyn trwm!

[ffynhonellau o’r Guardian a gwefan yr EFSA efo ychydig o fathamateg ar fy rhan i, h.y. nonsense llwyr]

                   

 

Er yr holl sôn am farwolaeth ‘ma, roedd yr Amaretti’n swnio’n ddelfrydol i mi. Tri chynhwysyn, dwy gam cymysgu, ‘swnio fel rysáit  digon syml i mi.

Dim ffiars!

Jino, Jamie a blogwyr o fri, i gyd efo syniad gwahanol am sut i gymysgu siwgwr a chnau efo gwynnwy. Roedd pethau’n gwella pan welais fod pawb yn tueddu defnyddio pwysau hafal o siwgwr ac almon, ond pan ddaeth hi i’r wyau, doedd genna i ddim clem. Un peth sydd yn amlwg.

MAE ANGEN PWYSO EICH WYAU!

Yn y diwedd, mi es i efo Jino, cymhareb syml yr olwg o 1:2:2, gwynnwy i siwgwr i almon.

Am lanast.

Past ydych chi angen yn ôl y sôn, nid toes, ond roedd rhai Jino yn morio mewn gwynnwy ac alcohol. Mwynhewch:

Canlyniad

Methiant arall llwyr. Ffordd ‘ma pethau’n mynd, waeth i mi werthu’r wefan ddim a phrynu biscuitfails.com yn lle!

Beth bynnag, fel y gwelwch, yr unig fudd oedd cael gweld y gwahaniaeth rhwng chwipio, a chymysgu siwgwr i mewn i wynnwy. Daeth y bisgedi meringue allan fel macraons (rhai gwael iawn cofiwch) efo cragen lyfn, ‘troed’ rownd yr ymyl, a gwead brau iawn. Ar y llaw arall, roedd batch efo’r siwgwr wedi ei gymysgu fewn ar ôl chwipio’r gwynnwy (a la Jino) yn fwy garw, a’n fwy hyblyg, yn plygu yn lle clecian wrth eu torri.

Wrth ysgrifennu hwn hyd yn oed, mi wnes i drio unwaith eto, efo’r un gyfrannedd ond tro yn ychwanegu pwysau hafal o flawd i bwysau’r wyau (am fod i’n dlawd a methu fforddio taflu cnau i ffwrdd) a doedd y canlyniad ddim llawer gwell. Roedd y bisgedi mwy fel cacen, ond eu bod nhw’n 90% crwst, syniad sy’n apelio at neb.

Gwerthusiad

Yn amlwg mae angen mwy o ddeunydd sych arnaf i ddofi’r toes afradlon ‘ma. Yn y dyfodol, mi af am gyfrannedd ychydig mwy egsotig, efallai 1:2:3 gwyn i siwgwr i almon, fel yr awgrymwyd gan wefan Ottolenghi.

O leiaf rŵan ‘dwi ‘di cadarnhau’r theori mae siwgwr anhydawdd sy’n arwain at edrychiad garw bisgedi. Yn symud ymlaen, mi fyddai felly angen defnyddio’r siwgwr mwyaf bras allai i gael yr edrychiad craggy ‘na. I mi o’r diwedd gael blasu, y fisged goffi perffaith.

Mwy i Ddarllen

Os ydych ddim wedi dal i fynnu ar yr ymchwiliad i mewn i’r fisged goffi perffaith, ewch wan i ddarllen. Mae fy hanes yn ceisio ail greu Speculoos a’r blas caramel sy’n hanfodol iddynt, i gyd ar gael i’w darllen a’u gwylio.