Gwllwn Tarten Lemon – Gwersi o Grwstyn Lard

Tarten lemon wedi malu ar y bwrdd

That is beautiful! – Massimo Bottura

Geiriau gwag o weld y golwg o fy mlaen…a’r oriau ‘di gwastraffu tu ôl i mi.

Ella ‘sa well esbonio be oedd y bwriad gwreiddiol.

Fel rhan o’n hobsesiwn diweddaraf efo thepastrydepartment.com, roeddwn i’n bwriadu treialu rysáit pastri o’r wefan i greu tarten lemon. Rysáit oedd hwn yn defnyddio lard i greu crwstyn tarten. Efo lard yn agos i 100% braster (lle bo’r menyn traddodiadol tua 80%), y syniad yw ei fod o’n creu pastry hollol dendar heb dŵr yno i ddatblygu glwten.

Dyma le ddechreuodd y problemau.

Y broblem efo bwytai a sêr Michelin

Yn amlwg dydi ryseitiau bwytai ddim yn lleihau’n gymesur i raddfa’r cartref. Mor obsessed ag ydw i efo darganfod gwefan efo holl ryseitiau adran pastri bwyty, ma’ rhaid i mi dderbyn bod siawns eu bod nhw ddim yn berffaith. Er enghraifft, y pastri lard ‘ma.

Wedi torri’r lard i mewn i’r blawd heb drafferth, mi ychwanegais ddŵr i’r cymysgydd. Aeth yr holl beth i chwâl. Nid ychydig yn hyblyg mor pastri, mi roedd o’n hollol ludiog, dim yn agos o fod yn ddefnyddiol. Dyma ddechreuodd fi’n ychwanegu mwy a mwy o flawd i mewn i’r prosesydd, y pechod marwol mewn creu pastri. Erbyn diwedd mi roedd y pastri’n defnyddiol, ond wedi cael ei weithio llawer gormod iddo fo’n bleserus.

Er hyn, mi oedd rhaid i’r sioe fynd yn ei flaen, felly i’r fridge i oeri aeth y pastri cyn ei rholio i din, ei oeri eto a’i bobi’n ddall (wedi’ bwyso efo siwgwr). Pan ddaeth o’r ffwrn…mi roedd o mewn un darn! Dim syniad sut wrth gwrs gan fof mesuriadau allan o’r ffenest erbyn hyn, ond mi roedd o wedi dal, un crwst tarten lwyddiannus.

Dyma oeddwn i’n feddwl beth bynnag.

Ail greu amherffaith

Ymlaen a fi’n hapus braf, yn paratoi curd lemon i’w lenwi i greu tarten lemon. Y crwstyn yn oeri’n braf yn ei din yr holl amser. Yna, pan ddaeth hi’n amser i’w lenwi, mi lwyddais i godi’r crwstyn o’r din efo ynghyd a sylfaen rhydd y din.

“Dyna fo! Done!”

Dim i wneud rŵan ond codi’r darten oddi ar y sylfaen a’i symud draw fan hyn i mi gael…oh.

Mi chwalodd yn ddarnau. Dros y bwrdd i gyd.

Yn amlwg, doedd dim celwydd yng ngeiriau’r awdures. Mi roedd y pastri’n dendar. Yn dendar iawn. Mor dendar ac i beidio gallu dal pwysau ei hun heb friwsioni’n dros y bwrdd i gyd. Mor eiddgar i feddalu ar y tafod ei fod wedi osgoi cyrraedd fy ngheg yn gyfan gwbl!

Blydi pastri.

Ond nid dyma’r diweddglo oeddwn i eisiau i’r darn (ac nid jest am fod y ‘tarten lemon’ yn dipiau). Na, roedd angen gwerthusiad mwy aeddfed ar y trychineb ‘ma na thaflu’r holl beth yn y bin a dileu unrhyw ronyn o dystiolaeth oddi ar y camerâu. Roedd stori yn fan hyn, a gwers i’w cymryd ohoni.

Efo’r pastri dal yn flasus a’r curd dal yn llifo, mi benderfynais gymryd dalen o lyfr Massimo Bottura, i ail greu Oops I Dropped the Lemon Tart. Dyma i chi tarten lemon, wedi ei ollwng:

Gwerthusiad

Dyma felly a ddaeth o’r adolygiad lardi ‘ma yn creu tarten lemon. Un o fy hoff fideos hyd yn hyn. Crwstyn o lard a pwy a ŵyr faint o ddŵr a blawd, yn deilchion ar y bwrdd, efo cyrd lemon dros bob man. Dyma’r mwyaf o hwyl ydw i wedi cael ers amser yn gwneud fideo. Efallai dylwn i ddilyn y fformat yn amlach, er gwaetha’r gwaith glanhau!

Be ddysgais i felly oedd hyn:

  1. Peidiwch â dilyn rysáit wedi ei addasu o fwyty’n rhy agos. Dyw cynhwysion byth yn scaleio’n berffaith.
  2. Mae lard mewn pastry yn flasus, ond mi fydd o hyd le am fenyn (er ella ‘sa Nain yn anghytuno)
  3. Mae methu wrth bobi’n gymaint mwy o hwyl dyddiau ‘ma. Peidiwch â hela perffeithrwydd.

A dyma pam, bod o hyd gwerth, mewn gallwn y darten lemon.

Mwy o Sdwff

I weld tarten sydd wedi gweithio, cymerwch olwg ar y Crymbl Afal Ben Lawr, neu ewch a trio’r rysáit cyrd lemon, oedd yn lwyddiant diolch byth (er mae stori i hwnw ‘fyd).

 

Adolygiad

Fel adolygiad i’r darn, mi ydw i wedi ceisio gwneud yr un pastri heb unrhyw ddŵr ynddo. Doedd y canlyniadau ddim llawer gwell. I fod yn onest, mo roeddem nhw’n waeth. Tartenni bach lemwn wnes i mewn tin myffins, yn defnyddio pastri oedd yn ddim ond blawd a lard efo siwgwr a halen i flasu. Mi gafwyd eu pobi’n ddall cyn llenwi efo’r un cyrd lemon.

Mi roeddem nhw’n afiach. Roedd y pastri’n briwsioni i ddim cyn gynted a oeddent yn cael eu cyffwrdd. Doedd yna’m ffordd o gael un darten o’r din heb iddo falu’n friwsion, efo’r cyrd lemon yn ceisio ei orau i lynu wrth y gweddillion. Hallt a graenus oedd y pastri wnes i lwyddo gael blas ohono, sy’n od i feddwl cryn leied o halen oedd yn y pastri. Yn amlwg mae terfyn i faint o fraster allwch roi i mewn i bastri cyn bod breuddwydion o ‘flakyness‘ yn troi’n hunllef o dywod seimllyd.