Cyrd Lemon – Yr Ateb i Ormod o Lemons

Lemon Curd

Y bore wedi’r parti.

Lle od i ddechrau rysáit.

Mae’r llygaid yn drwm, a’r aer yn drymach. Ond glan yw’r gegin, arwydd bod OCD yn trechu alcohol bob tro. Peth da hefyd. Efo mynydd o fwyd parti heb ei gyffwrdd, roedd angen bob sgwaryn clir o’r gegin i ail-bwrpasu’r holl weddillion.

Cigoedd i’w rhewi, bara i friwsioni, ac wrth gwrs, lemons. ‘Ma parti heb lemons fel panad heb fisged, yn troi yfed, yn brofiad. Wrth gwrs, i ran helaeth o’n gwestai, yfed, nid profiadu, oedd nod y noson, ac felly mi roedd canran da o’n lemons dal yn eistedd yn y firdge y bore wedyn.

Gan fy mod i’m yn nabod neb call all fynd drwy ddau baced o bump lemon mewn llai nag wythnos, blaenoriaeth rhif un oedd cael gwared ar y lemons ‘ma. Ond sut?

Pobi’r Pum Mil

Fel arfer, os oes gormod o unrhyw beth yn y tŷ, pobi yw’r ateb. Gormod o ffrwythau? Crumble. Gormod o wyau? Meringue. Ond wedi dweud hyn, mae’n debyg y bydd deg lemon mewn un gacen yn creu batri cyn batter. Mi roeddwn i felly angen rysáit all ddelio efo’r holl asid ‘ma, yn manteisio ar y blas chwerw yn lle ceisio ei guddio.

Yn ffodus i mi, heb ddiodydd i’r lemons addurno, doedd neb i ni fwydo yn y bora, oedd yn golygu bod wyau, hefyd, mewn gormodedd. Doedd dim byd arall amdani felly, cyrd lemon amdani.

Mi ymchwiliais i’r rysáit yma efo dau bwrpas mewn meddwl. Yn amlwg, pwrpas cyrd lemon yw cadw, i greu cymysgedd sy’n cadw’n hirach na’r cynhwysion sy’n ei gyfansoddi. Ond yn ychwanegol i hyn, roeddwn i eisiau rhywbeth oedd yn gynhwysyn ar sail ei hun, rhywbeth all ddyblu fel eisin i gacen, neu lenwad i darten, pry bynnag oedd angen peth arnaf.

Dyma i chi felly, rysáit cyrd lemon;

Rysáit

 

Sestiwch a gwasgwch y sudd allan o’ch lemons

I gael y mwyaf allan o’ch lemons, rholiwch nhw o dan eich cledrau, cyn rhoi hanner munud iddynt yn y ficrodon. Mi wneith y ddau gam yma dorri’r bilen tu fewn i’r lemons, sy’n gwneud hi’n haws cael sudd ohonynt.

  • 5 lemon

 

Rwbiwch y siwgwr i mewn i’r sest

Mi wneith y rwbio ‘ma ryddhau limonene o’r sest, yr olew (fflamadwy) sy’n rhoid blas unigryw i sest lemon.

  • 300g siwgwr

 

Gwahanwch ran o’ch wyau, yn cadw’r melynwy.

  • 2 ŵy

 

Cymysgwch y cynhwysion i gyd (heb law am y menyn) mewn powlen (metel os yn bosib)

Y fowlen yma fyddwch chi’n osod dros sosban o ddŵr berwedig i gynhesu’r gymysgedd (techneg bain marie). Mae angen iddo felly fod y ddigon llydan i’w osod dros agoriad y sosban heb gyffwrdd y dŵr yn ei waelod.

  • 2 melynwy
  • ŵy
  • cymysgedd siwgwr sest
  • sudd o 5 lemon

 

Cynheswch y gymysgedd dros sosban o ddŵr berwedig nes iddo gyrraedd 80°C, lle fydd o’n dechrau tewychu (10-20mun…neu fwy os ydych yn defnyddio gwydr fel gwnes i)

Mi fydd y cyrd yn barod pan na fydd han o’r gymysgedd ar gefn llwy yn llifo i lenwi’r bwlch wedi’ adael gan fys ‘di dynnu drwyddo (neu gwiliwch y fideo, lot haws)

 

Unwaith mae’r gymysgedd yn barod, blendiwch y menyn i mewn efo blendar.

Mi wneith y braster yma gadw’r cyrd yn esmwyth, fel gwneud dresin salad. Er nodi, mi wnes i ychwanegu’r menyn cyn cynhesu yn y fideo. Er bod hyn ddim yn ddiwedd y byd, mi wneith o gynyddu’r amser a gymerith hi i gynhesu’r cyrd.

 

Tywalltwch y cyrd lemon i jariau wedi eu sterileiddio cyn eu selio a’u hoeri yn yr oergell

Cofiwch ei bod hi’n bosib sterileiddio jar yn sydyn trwy ei olchi â dŵr sebon, ei redeg dan dŵr poeth nes bo’r sebon wedi mynd, cyn sychu yn y ffwr am riw 10 munud ar 80°C.

 

Gwerthusiad

Er mae ond pedwar cynhwysyn oedd angen arnom i wneud hwn, dydi hwn ddim yn esgus i fychanu’r rysáit. Roedd hi’n anodd cyfleu’n union faint o hir gymerodd hwn heb greu fideo hollol anwyliadwy. Mi roedd o’n waith hir a thechnegol, yn gofyn am fwy o amser ac amynedd ‘na unrhyw feringue.

Ond efallai na mai i oedd hynna.

I ddechrau, mi ychwanegais i’r menyn cyn cynhesu’r wyau, yn lle ar ôl. Mi roeddwn i hefyd yn cynhesu’r wyau dros sosban fach iawn efo powlen hollol wydr, sy’n ynysydd thermol effeithiol iawn. Llawer mwy effeithiol, ‘na’r sosban fach metel oddi tanno oedd yn ceisio ei gynhesu.

Gwyddoniaeth dargludiant mewn bain marie
Esboniad mathemategol cywir o sut mae gwneud gwastraff pur o’ch amser.

Felly, yn gryno, y wers mewn gwneud cyrd lemon yw:

  1. Defnyddiwch offer priodol. Ceisiwch ddefnyddio sosban digon llydan a phowlen digon dargludol (metel sy’n ddelfrydol, sori Pyrex) i arbed amser wrth gynhesu’r gymysgedd.
  2. Ychwanegwch fenyn ar ôl i’r wyau geulo, mi wneith hyn help i gadw’r gymysgedd yn llyfn a chyflymu’r broses cynhesu.

 

Mwy o Sdwff

Os ydi hwn wedi’ch diddori, ewch i weld fy nharten lemon i gael bach o hwyl ar ‘mhen i a’n ymdrechion…aeth pethau ddim hanner mor esmwyth, a doedd hwn ddim yn ddiddigwyddiad!