Pitsa syml, ond hawdd i’w orwneud.
Efo dim ond pesto fel topin’, mae angen bod yn ofalus efo pitsa pesto. Fel saws, mae pesto’n cario blas pwerus. Gall hyn arwain at bitsa sy’n cael ei ddomineiddio gan nodau hallt a sawrys y pesto. Gall y braster o’r olew a’r caws yn y pesto hefyd arwain at bitsa sy’n cael ei ffrio wrth bobi sy’n arwain at grwstyn caled a brau.
I ddatrys y problemau hyn, mi ychwanegais ambell domato San Marzano i’r pitsa cyn pobi. Wrth i’r pitsa bobi, mi wneith y tomatos ryddhau jest digon o ddŵr i gadw’r crwstyn oddi tanno’n feddal. Mi fydd melyster chwerw’r tomatos hefyd yn dod a balans i’r pitsa, yn torri ar flas y pesto.
Yn olaf, ac i ehangu ar flas y tomatos, mi allwch orffen y pitsa ar ôl pobi efo ychydig o finegr balsamig. Gorau oll yw’r finegr, gorau oll fydd y pitsa. Os ‘da chi digwydd bod wedi ymweld â deli Ultracomida yn Aberyswyth yn ddiweddar, mi fydd diferyn neu ddau o’u finegr balsamic Moscatel yn ideal. Ar y llaw arall, mi allwch chi ferwi finegr balsamig arferol lawr i greu glaze Balsamig a’i orffen efo hwnna.
Beth bynnag wnewch chi, dyma sut mae gwneud pitsa pesto, â’r balans perffaith.
Rysáit
Paratowch fowlen o besto (efo’r rysáit yma)
Agorwch eich pitsa a’i orchuddio efo’r pesto, fel y buasech efo saws tomato
- 1 porsiwn o besto gwyrdd
Gosodwch haneri tomato ar ben y pitsa
- 8-10 tomato San Marzano, wedi’u haneru
Pobwch y pitsa ar garreg pobi ar dymheredd uchaf eich ffwrn ( ~8-12 munud )
Gorffennwch y pitsa efo finegr balsamig
- 1-2 tbsp o finegr balsamig
Mwy o Sdwff
Am fwy o bitsa, cymerwch olwg arall ar ein tudalen Pitsa’r Wythnos, lle fyddai’n postio pitsa newydd o’r bwyty bob wythnos.