Pesto

Sgin ti basta?

Gwna besto.

Os oes pum munud efo chdi, hen morter a pheslt angen bach o wash, a basil su’n araf bach bach bwyta’ch sil ffenest, yna pesto ydi’r rysáit i chi!

Does yna’m pryd gwell, na mwy handi, na phasta ffres di drochi mewn pesto cartref. Peidiwch ag oedi felly, ma’ fideo ar gyfer te heno’n disgwyl amdanoch chi isod: Pasta Pesto Gwyrdd.

Cymerwch olwg isod am y rysáit llawn a’r cynhwysion.


Wneith hwn ddigon i 1 person (llwglyd) neu fel pryd mwy ffansi i 2, felly croeso i chi gynyddu’r niferoedd i siwtio’ch blas.

 

I Wneud y Pesto

 

Malwch garlleg a’r halen efo’i gilydd yn morter a phestl i greu past 

  • 1-2 darn garlleg
  • 1/2 tsp halen

 

Ychwanegwch ddail basil i’r morter, yn eu gwasgu’n erbyn y morter nes eu bod nhw’n ddarnau mân, wedi rhyddhau hylif gwyrdd.

  • 15g (bwns) o ddail Basil

 

Malwch y cnau pinwydd fewn i’r past basil, yn eu curo efo’r pestle i’w torri’n ddigon

mân i weithio.

  • 15g o Gnau Pinwydd

 

Cymysgwch gaws wedi’ gratio fewn i’r past nes ei fod yn dew ond heb lympiau.

  • 15g o Grana Padano
  • 15g o Parmigiano Reggiano

 

Tywalltwch yr olew olewydd i mewn, yn ei droi nes bod y pesto o dewdra derbyniol.

Gair i gall; mi fydd hi’n haws defnyddio llwy yn hytrach na peslt ar gyfer hyn.

  • 75ml Olew Olewydd

 

I’w Sdorio

 

Cadwch pesto yn y fridge efo mymryn o olew ar ei ben, i’w amddiffyn rhag yr aer.

Y ffordd gorau i’w gadw yn y tymor hi, hyd at bythefnos, yw i’w gad mewn jar glan, ond os mae ond noson mae angen ei gadw, neith unrhyw botyn neu fowlen efo gyrchydd y tro.

 

A dyna chi! Gadech y pesto eistedd am awr neu ddwy i’r blas ga aeddfedu a pan ddaw amser te, fydd o’n barod i’w daflu ar eich past…neu bebynag da chi ffansi! Toasty pesto henno ia?

 

Mwy o Sdwff

 

Os ydych chi’n mwynhau’r naws Eidaleg ac angen mwy o ysbrydoliaeth, croeso i chi gael golwg ar ein Pasta Cartref i weld sut mae gwneud pasta eich hun. Neu, os da chi ar ôl mwy o syniadau te, ewch am ein Carbonara (go iawn) i chi gael blas o’r Eidaleg mewn llai na pum munud.