‘Chi ‘di nal i;
“Poblyddwr! Poblyddwr!”
Glywai chi’n canu. Anodd yw osgoi mabwysiadu dy gymdogion. I efelychu’ch cymdogion a’r byd ydych yn byw ynddi. I mi, bwyd yw’r byd ‘na. Yn fwy pennodol, bwyd ‘di bobi.
Genna i gariad at bobi. Bara brith i fara brown, cwcis i cracers, ‘dwi wrth fy modd â nhw i gyd. Gwell fyth, ‘dwi’n byw yn yr oes ddigidol,, sy’n gadael i mi dynnu ysbrydoliaeth o bob cwr o’r rhyngrwyd.
Ond monopoly yw’r rhyngrwyd yn te, a mae monopoly ysbrydoliaeth yn beth perryg iawn.
Pumpkin Spice Latte
Avocado Toast
Tapas!
Ar un pwynt neu gilydd, os yw rhywbeth, rhywle’n boblogaidd, yna mi fydd y byd yn cael gwybo bod o’n boblogaidd. Pŵer yr rhyngrwyd yn de. Fel y Farchnad, neu’r tywydd, mae’r rhyngrwyd yn system, o anhrefn. Mor amhosib i’w ragweld na ydi o i’w osgoi. Felly cawn yr trends, yr argoelion diweddara sy’n mynd mor boblogaidd, mor sydyn nes eu bo nhw’n yn hapus cad i’n sgrinau.
Oh na.
Mi dreiddith nw allain drwy’r Wi-Fi, yn syth i mewn i fywyd bob dydd. ‘Sa neb yn saff, o ysgolion llawn flossers (‘na, dim rheg odd hwnnw) i blentyn yn yodelo fel awgrymiad potify, ac wrth gwrs siopau coffee. Beth bynnag sy’n plastro Instagram a Pinterest, dyma gewch chi yn eich #CaffiTrendi lleol.
Dyma lle ddaw’r cruffins ma fewn i bethau.
I fod yn hollol deg, ddim dyma ydi’r tro cyntaf i mi arbrofi efo newid y crymbl afal glasurol. Ond mi ydw i wedi dwyn y syniad ym bron iawn yn uningyrchol o Starbucks. Neu o leia wedi dwyn o gan fy nghariad…oedd wedi cael un yn Starbucks. Beth bynnag ddywedwch chi am faint o wreiddiol yw’r syniad yma, mi oedda nhw’n anfarwol beth bynnag. Esgus da i arbrofi efo toffi bach mwy ar gyfer pethau gwell i ddod.
Dyma chi felly, muffins top crymbl; cruffins.
Mi benderfynais dreialu cwpwl o fersiynnau yma, yn eu rhannu nhw’n muffins efo, a heb dop crymbl am un peth. Peth arall oedd blas y cruffins. Tofi ac afal oedd hanner nhw, darnau afal a cinnamon yn y gymysgedd efo lwmp o dofi yn y cannol i greu cannol meddal iddo. I’r ail hanner, mi es i am lemon a llus, cymysgedd bach llai dramatig, ond dal yn cuddio cannol meddal, diolch i’r llus wedi’ sdwffio i gannol y batter ac i’w gannol yn unig.
Rysait
Paratoi’r cynhwysion
Tofi
Cynheswch siwgwr mewn sosban nes iddo feddalu a troi’n euraidd
Dyma sut mae creu caramel. Perffaith yw’r pwynt lle mae mwg jest a dechrau dod oddi ar y siwgwr
- 200g o siwgwr gwyn
Ychwanegwch hanner pwysau’r siwgwr mewn hufen, yn ofalus i beidio cael llos o’r stêm oddi arno
- 100g hufen dwbwl
Cynheswch y gymysgedd i fynnu eto i 118±2°C
Dyma’r tymheredd sydd angen ar gyfer creu tafi sy’n galed ond yn feddal ar dymheredd ystafell. Os heb thermometer, rhowch ychydig o’r gymysgedd mewn dŵr oer i weld os ydio’n oeri i’r gwead priodol.
Towalltwch y tofi poeth mewn i din bach pobi ‘di leinio a papur pobi a gadael iddo oeri’n hollol.
Afalau
Pliciwch a torrwch afalau’n giwbiau mân
Lluwchiwch efo cychydyg o cinnamon a’u rhoi’n y meicrodon wedi’u gorchuddio i bobi ( ~ 90 eiliad )
Rhowch yr afalu i un ochor i oeri
Byddwch yn siwr o dynny’r dŵr sy’n casglu oddi tannynt, o na, rhag rhag gwneud y gymysgedd muffins rhy wlyb wedyn
Topin Crymbl
Mi ‘ddai’n defnyddio pwysau hafal o siwgwr, blawd, ceirch a menyn i wneud topin crymbl bob tro. I’r rysáit yma, mae 100g o bopeth yn fwy na digon.
Meddalwch fenyn (stof neu feicrodon)
- 100g menyn
Ychwannegwch flawd, ceirch a siwgwr ato a’u cymysgu i grymbl brau
- 100g blawd
- 100g ceirch
- 100g siwgwr o’ch dewis
Rhowch y crymbl i un ochor a symudwch ymlaen i’r muffins
Paratoi y batter i’r muffins
Mae’r rysáit yma’n ddigon i lenwi un tin o 12 muffin. Croeso i chi ddwblu’r rysáit, jest i gael defnyddio 3 ŵy yn lle un a hanner. Hunllef llwyr o wast oedd creu’r muffins ma i chi!
Cymysgwch eich holl gynhwysion sych mewn powlen gymysgu
300g blawd
225g siwgwr caster
15g powdwr pobi
2.5g halen
Wisgiwch ŵy, olew a llefrith efo’u gilydd mewn jwg
150g llefrith
120g olew llysiau
75g o ŵy
Wisgiwch y cynhwysion gwlyb i mewn i’r rhai sych
Peidiwch a gor wneud hi. Wisgwich ddigon i dorri unrhyw lwmps sych i fynnu, ond dim mwy na sydd angen. Angen osgoi’r gluten ‘na yn toes ;D
Pobi eich Cruffins
Rŵan yw’r pwynt i flasu eich muffins, felly dyma wnes i ar gyfer y ddau flas:
I’r muffins afal a tofi, cymysgwch yr afal ‘di gwcio i mewn i’r batter. I’r rhai llus, sestiwch lemon i mewn iddo yn lle
- 200g afal wedi cwcio a’u torri
NEU
- sest 1 lemon
Llwywch batter y muffins i mewn i din muffins ‘di leinio efo casus.
Llenwch nhw i tua hanner ffordd os nad ydych eisiau iddyn lifo drost yr ymyl…ond pawb i’w ddant de. Croeso i chi lenwi nhw i’r top a mwynhau’r llanast a ddaw.
I’r muffins afal, rhowch un darn o doffi yn eu cannol. I’r muffins llus, rhowch riw 3 lusen ynghannol pob un yn lle.
- tofi wedi ei dorri’n giwbiau efo cyllell
NEU
- Llus, tua 50g wneith
Gorffennwch y muffins trwy lenwi gweddill y casus efo’r cymysgedd crymbl
Byddwch yn hael, mae’r batter yn tueddu i lowcio’r crymbl yn gyflymach ‘na fyddech chi wedyn.
Pobwch nhw ar 180°C (15 munud)
Mwynhewch, eich cruffins #basic.
Mwy i Ddarllen
Dyna i chi fy ymdrech i ar y gacen #basic yma. Am rywbeth ychydig bach mwy gwreiddiol, eto, edrychwch ar y crymbl afal ben lawr, neu am bach mwy o wyddoniaeth, ma erthygl am doffi a’r effaith mae braster a gwres yn cael arno, ar y ffordd. Nuggets go iawn yn fanno, ‘dwi’n addo.