Y bore wedi’r parti. Lle od i ddechrau rysáit. Mae’r llygaid yn drwm, a’r aer yn drymach. Ond glan yw’r gegin, arwydd bod OCD yn trechu alcohol bob tro. Peth da hefyd. Efo mynydd o fwyd parti heb ei gyffwrdd, roedd angen bob sgwaryn clir o’r gegin i ail-bwrpasu’r holl weddillion. Cigoedd i’w rhewi, bara i …
That is beautiful! – Massimo Bottura Geiriau gwag o weld y golwg o fy mlaen…a’r oriau ‘di gwastraffu tu ôl i mi. Ella ‘sa well esbonio be oedd y bwriad gwreiddiol. Fel rhan o’n hobsesiwn diweddaraf efo thepastrydepartment.com, roeddwn i’n bwriadu treialu rysáit pastri o’r wefan i greu tarten lemon. Rysáit oedd hwn yn defnyddio lard …