Crymbl Afal Ben Lawr (neu tarte aux pommes diogwyr)

‘Dwi wrth fy modd efo tart aux pommes.

Ond wedi dweud hynna, ma’ gennyf i wendid hen ddyn am grymbl afal, diolch Nain…a Dad!

Felly dyma’n ateb i: Crymbl afal wedi’ lythrennol droi ben lawr. Gwaelod o friwsion crymbl, canol o gwstard ‘di bobi, a haen o afalau tannau’n coroni’r holl beth.

Am y rysáit efo’r holl fesuriadau a thechnegau, cliciwch isod.


Mi roedd y mesuriadau yma’n ddigon i lenwi tin cacen gron 12cm/6″.

 

Paratoi’r sylfaen crymbl

 

Leiniwch din cacen fach, efo gwaelod gellir ei dynnu, efo papur pobi [0:25-0:50 yn y fideo ]

 

Cymysgwch blawd, siwgwr, menyn a ceirch i grey cymysgedd briwsionllyd ( ~ 2 funud)

Gallwch wneud hyn efo llwy, ond mi wneith llaw’r job i chi’n lot cyflymach.

  • 100g blawd plaen
  • 100g ceirch
  • 75g menyn
  • 100g siwgwr brown golau

 

Tywalltwch y gymysgedd i’r din cacen a’i weithio mewn i siâp tarten [1:08-1:24 yn y fideo ]

Eto, defnyddiwch wich bysedd ar gyfer hyn, gyntaf yn gwasgu’r crymbl yn erbyn ochor y din i adeiladu waliau’r darten. Wedyn cewch wasgu’r crymbl lawr i greu gwaelod i’r darten. Prociwch y gwaelod a’r ochrau efo fforc hefyd i adael i stêm gael dianc wedyn, mi wneith y tyllau gau, dwi’n addo.

 

Trosglwyddwch y tin crymbl i’r popdy a’i bobi ar 180°C (160°C fan). (30-40 munud)

Mi neith y darten chwythu fynnu rywfaint yn y ffwrn, peidiwch a panicio. Jest daliwch i brocio’r darten efo fforc, riw hanner ffordd drwy bobi, ac yna’n syth ar ôl pobi.

 

Tynnwch y tun o’r popty a gwasgwch unrhyw ochrau sydd wedi anesmwytho lawr efo gwydr neu unrhyw ochr esmwyth arall. [1:33-1:48 yn y fideo ]

 

Gadewch i’r darten oeri yn y din ( ~ 15 – 30 munud )

 


Efo’r darten yn oeri, rŵan yw’r amser i baratoi’r cwstard i’w lenwi.

 

Gwneud y cwstard

Efallai bydd hyn yn gwneud gormod o gwstard, ond well gwneud gormod na ddim digon. Does yna’m ffasiwn beth a gormod o gwstard beth bynnag nag oes…

OK iawn, os ‘da chi eisiau addasu faint o gwstard ‘da chi’n wneud, y cyfranned ‘dwi’n defnyddio ydi 1:2:6, siwgwr, melynwy a chynnyrch llaeth. Cofiwch fod hwn yn seiliedig ar bwysau, felly i bob melynwy tua 17-18g, mi fydd angen tua 8g o siwgwr a 54g o hylif i bob melynwy.

 

Rhannwch eich wyau, yn cadw’r melynwy

  • 5 ŵy

 

Wisgiwch siwgwr a’r fanila mewn i’r melynwy.

Does dim angen wisgio riw lawr, ond digon i ddosrannu’r siwgwr trwy’r melyn yn gyfartal.

  • melynwy
  • 42g siwgwr gwyn
  • 1 tbsp rhinflas fanila

 

Cynheswch eich hufen nes bron yn berwi ( 5 munud mewn sosban / 1 munud yn y ficrodon)

Os nag oes gennych chi hufen, gwnewch fel gwnes i a chymysgu menyn tawdd a llefrith poeth yn y gyfrannedd 9:7. Os cyfunwch chi’r ddau efo blendar llaw, mi geith fat y menyn ei ddosrannu drwy hylif y llefrith i greu emylsiwn braster menyn, hynny yw, hufen dwbl.

  • 270ml hufen dwbl

neu

  • 170ml llefrith
  • 100g menyn 

 

Wisgiwch yr hufen poeth yn araf i mewn i’r gymysgedd melynwy.

Fan hyn, mae o hyd angen ychwanegu’r hylif poeth i’r wyau, i atal ceulo. Cynhesu’r wyau efo’r llefrith ydym yn gwneud, nid oeri’r llefrith efo’n wyau bregus.

 

Tywalltwch y cwstard cynnes i mewn i’r darten crymbl, yn y din.

Rhowch din pobi ychwanegol o dan y din cacen cyn tollty. Mi fydd hwn yn helpu dal unrhyw gwstard sy’n llifo allan o’r gragen, a’n arbed gwaelod y darten rhag gor gwcio (y goleua yw’r din pobi, y gorau).

 

Trosglwyddwch y din yn ôl i’r popty a’i bobi, yn troi’r ffwrn lawr i 140°C (120°C fan). (30-40 munud)

Mi eith y cwstard fewn ar tua 60°C ac mae ond angen rhiw 15-20°C arall arno iddo galedu. Peidiwch â brysio drwy chwarae efo tymheredd y ffwrn. Mi wneith hyn arwain at gwstard anesmwyth efo gwead ŵy ‘di sgramblo.

Mi fydd y darten yn barod pan fydd y cwstard ar 75-80°C.

 


Gallwch baratoi’r afalau tra mae’r cwstard yn pobi

 

Paratoi’r afal

 

Paratowch gymysgedd dŵr a halen.

Mi fydd angen i’r cynhwysydd fod yn ddigon dwfn i allu trochi tafelli afal ynddo’n hollol.

  • 250ml o ddŵr
  • 1 tsp halen

 

Torrwch yr afalau yn dafelli cyfartal, yn eu cadw yn dŵr halen wrth i chi fynd  [3:28-3:34 yn y fideo] 

  • afal
  • dŵr halen

 

 

Gadewch y tafelli afal i socian (10 munud) 

Pwrpas hyn yw arafu actifedd ensymau sy’n troi’r afal yn frown ym mhresenoldeb ocsigen. Y syniad yw bod yr halen yn sychu celloedd arwynebol yr afal trwy osmosis, sy’n arbed yr ensymau ynddynt rhag gallu symud yn rhydd.

 

Ar ôl 10 munud, hidlwch yr afalau a’u rinsio dan ddŵr oer i olchi’r halen oddi arnynt.

Mi ddylech yna allu gadael yr afalau i ddraenio nes bod eu hangen. Ni ddylai unrhyw arwydd o frownio ymddangos am o leiaf 2 awr, sy’n hen ddigon o amser i chi.

 

Gosodwch y tafelli afal mewn sbiral ar ben y darten pan yn barod a’u lluwchio efo sinamon a nytmeg i orffen[3:50-4:02 yn y fideo ]

  • pinsiad o sinamon
  • pinsiad o nytmeg

 

Pobwch o dan y gril ar tua 150°C (15 munud)

Mae’r gril yn cynhesu o un cyfeiriad, felly mae o’n berffaith ar gyfer canolbwyntio’r gwres ar yr afalau wrth osgoi gor gwcio’r cwstard o’u tanynt (gallwch amddiffyn ymyl y crwstyn efo rhimyn o ffoil)

 

Oerwch y darten yn y fridge a mwynhewch!


 

Mwy o stwff

Hynny’n dipyn o waith, ond werth o! Am fwy o wybodaeth am y camau a drafodwyd, ewch i’r Lab i gael golwg ar ein erthyglau fel Meddwl Ddwywaith am Wyau, neu Dod a Halltu o’r Neilltu (i ddod).