Ar Droed Olympus Mons

Y Golwg o’r Gwaelod

Llun agos o arwyneb torth
Diffeithdir…neu difethiad?

So, be ‘dio?

‘5 Game of Thrones References You’ve Missed in these NASA Images’ ? Llun lloeren o begynau Mawrth (y blaned, ddim y mis) neu o gopa Olympus Mons, ella. Digon hawdd dychmygu dyn bach gwyrdd, bag North Face ar ‘i gefn, yn syllu i fyny ar losgfynydd mwyaf cysawd yr haul, yn ystyried y siwrna sydd i ddod.

Gyda thasg amhosib o’i flaen a dim syniad sut i’w gwneud hi, ‘drai’m peidio ag uniaethu hefo’n ffrind bach gwyrdd. Fedri di gynllunio’r ffordd i fyny, chwilio am y gêr gora, mwydro dy ffrindia’ am dy gynllunia’, ond yn y diwadd, un peth, a ‘mond un peth, ‘drith fynd â chdi o droed y mynydd i’r copa: y cam cyntaf.

Nid Peilot Perffaith Ydyw

Cyn imi fod yn gogydd neu’n bobydd, gwyddonwr o’n i. Un gwael, israddedig efallai, ond gwyddonwr er hynny, ac os ddysgishi rwbath o fod ym myd gwyddoniaeth, dysgu methu oedd hynny. Dyma sut ddysgis i: nid trwy ennill a cholli miliynau, nid trwy ryw ofn meddygol, ond trwy lusgo’n hun i adeilad ffiseg Prifysgol Manceinion, a methu, dro ar ôl tro. Bob bora, ‘swn i allan o’r tŷ, ar y beic, yn dawnsio trwy’r traffic boreuol ar Oxford Road, yn paratoi’n hun i wynebu dwrnod newydd o arbrofion diffygiol, maths aneglur, rhaglenni di-synnwyr a chanlyniadau dibwys. I chi gael blas o’m bywyd ar y pryd, dyma lun o’m prosiect blwyddyn olaf.

Arbrawf yn mesur ymateb bricsen i newid mewn tymheredd allanol a mewnol
Cyfarpar arbrofi cutting edge labordy modern

 

Hwn cofiwch, nath ennill Gradd Feistr i fi – go iawn. Chwilio am ffyrdd arloesol newydd o oeri waliau adeiladau trefol oedden ni… hefo lamp, bricsan ac unrhywbeth arall oedd ar gael ar lawr y stordy neu’r ‘swyddfa raddedig’. Os na’ ‘dach chi ‘di cnesu bricsan efo lamp o’r blaen, drai arbed cryn dipyn o amser i chi a deud ‘i bod hi’n cymryd 2 awr i gnesu 1 bric, 10 gradd…a dwywaith hynny wedyn i’w oeri! 6 awr o ddisgwl a dim syniad os ydy’r canlyniad am fod yn dderbyniol neu beidio.

‘Dachi’n gweld felly, ‘mod i’n hen law ar fethu. Y peth ydy, ‘dwi dal yma, a dwi’m gwaeth amdano fo – mae o fwy na thebyg ‘di helpu! Diweddglo’r arbrawf oedd cyflwyno, i’n goruchwyliwr, ganlyniadau terfynol oedd yn awgrymu y byddai’r syniad o oeri trefi trwy droi gwastraff gwres yn drydan defnyddiol, mor aneffeithiol y byddai’n cymryd 32,510 o flynyddoedd i ddechra talu am ei hun. Am hyn, cawson ni radd dosbarth cynta’ a’r marc ucha gawson ni erioed yn ystod ein hamser fel myfyrwyr.

Dod â’r Labordy i’r Gegin

Y wers felly ydy bod methu wastad yn opsiwn, ac nad oes ‘na’r fath beth yn y byd â pherffeithrwydd. Gall ‘perffaith’ i fi fod yn ‘warthus’ i rywyn arall felly ‘sna’m pwynt poeni am y peth. Buasai Google sydyn yn rhoi tudalenni o ‘berffeithrwydd’ i mi, ond pa ‘ots s’gin i am yr engreifftiau yma heb hanas na ystyr i’r canlyniadau?

Does gen i ddim bwriad i greu’r wefan ‘ma ar gyfar y ‘Facebook fame’, i fynd yn viral a byw y freuddwyd sydd ynnon ni i gyd. Buddsoddiad ydy hwn. Buddsoddiad mewn man lle ‘drai ddogfennu pob proseict a syniad sy’n dod i mhen i, yn enwedig rhai ym myd bwyd. Lle i gofnodi’r ymchwil a’r darganfyddiadau dwi’n dod ar eu traws er mwyn i chi fel darllenwyr, gael dysgu ohonynt.

Y broblam ‘di, dwi just angan dechra, a dyma ni ‘n ôl at droed y mynydd.

Y Cam Trwm Cyntaf

Mewn gwirionedd gwir mond darn bach o lun llawer mwy yw’r llun a weloch chi ar y dechra. Methiant o ganfyddiad i’r gynilleidfa, methiant cogyddol, i mi. Trwy zoomio allan, drani weld ma’r tirlyn yn diflannu (efo’n hunan werth), a drani weld gwir natur y ddarlun.

Pain Poilâne/ Miche heb weithio
Adfeilion torth 2kg mwya adnabyddus Paris, y miche, pain Poilâne.

 

Methiant llwyr. Dinistr mewn du. Torth cam, di llosgi’n golsan.

Ia, nachi, torth oedd o’n diwadd, a un reit warthus ar hynny. Pwnc anffodus iawn i agor gwefan bwyd arnafo. Ond ma angen gwynebu ein methiannau does, a sna’m methiant mwy amlwg na hyn.

Toman o gachu di’r unig air sa’n disgrifio edrychiad y dorth ma. Ma di’ losgi, ma’n gam, ma darna ohonafo di fflatio’n llwyr, ond ma stori yna does. Ma’r llun yn dweud yr hanas, o sud ma torth dwy gilogram, ar baddle pizza deuddeg modfadd yn llithro, neu’n gwrthod llithro, fewn i ffwrn. Ma’n cyfleu hanas, synhwyr o barch tuag at y pobyddion yn Bièvre, sy’n gyfrifol am lwytho miloedd o’r bwystfilod ma i’w ffwrnes pren nhw bob dydd! Pwysicaf oll, ma’n cynrychioli cam, y cam gynta tua’r copa, a ma’r stori yna wir yn exciteio fi.

Cofiwch felly, i dderbyn eich methiannau. Yr unig wahaniaeth rhwng arbrawf a embaras ydi faint o bobol sy’n wachad. Felly ymunwch a mi, cofleidiwch methiant, a pan eith popeth o chwaeth, cofiwch eiria’r Bardd:

“Ma’n iaaaaawn!…” – Rodney

darllen pellach

Son am fethiant, os da chi eisiau clwad am sud gefais i’r sac fel pobydd i Dylan’s darllenwch ymlaen.