Tro Cynta’n Ca’r Sac

I fod yn deg, nid ca’r sac oedd o, ond ataliad gwaith…gyda thâl diswyddo.

Ffedog Dylan's efo torth ar ei ben
Y tro olaf yn y glas

Dechra’r Ffarwèl

Deg yn bora, pum munud fewn i’r review meeting, a dyma’r geiriau mawr yn dod allan;

“Understand, this is not a refllection of your performance”

Sy’n ddigon teg, ond dal ddim yn ddigon i ddistewi’r floedd yn fy mhen;

“DEWIS RWYN ARALL TA!!”

Ond yn ffodus dim ond gwywo wna’r grwgnach, a dod allan fel dim mwy na;

“No, no, no, don’t worry! I understand, honestly”

Be, felly, sydd i’w wneud, pan ddaw’r swydd ddefrydol i ben?

Y Swydd

Pobydd, dyna o’n i.

Ar ôl pedai mlynedd ym myd gwyddoniaeth, efo’r olaf ‘di dreulio’n sdydio brics am dymor, ‘odd academia a fi mewn priodas anhapus iawn. Gorffenaf yr 22ain, fy niwrnod graddio, ysgarom ni, er lles y ddau ohonom. Wythnos yn ddiweddarach, wrth i rywogaeth newydd o forfil gael ei ddarganfod yng ngogledd y Môr Tawel, ‘odd ginaf i job.

Efo dau alwad a reference bach slei (oni’n arfar llnau llestri i’r executive chef) ac oni’n bobydd Artisan i bwytai mwya’r Gogoledd; Dylan’s. ‘Doni ‘rioed ‘di chael hi more dda. O boules mawr surdoes i batards gwyn a brown, focaccias dwy droedfedd a rols brioche Ffrenig, ‘oni’n gneud nhw gyd, efo llaw, bob dydd.

 

Y Misoedd Melys

Am flwyddyn gyfa geshi fyw bywyd y pobydd. Ffwrn Rationalebannetones pren, micsars Hobbart 12kg a wrth gwrs, Halen Môn, gogonaiant yn y nefoedd odd ca gweithio’n y fath le. Bob dwrnod sa gina fi riw fath o arbrawf yn mynd ymlaen, ma dal ginaf i’r llyfryn, yn flawd o un pen i llall, llawn reseitiau a arsylwadau traed brain (mond beiro bwr gwyn oedd ginaf i). Symudishi allan o un labrody, suth fewn i un arall, efo bara, nid brics, ar flaen y gad.

O ofynion amser y toes, eu priodweddau ffisegol a’u ffor o ymateb dan law, dysgish i bopeth, i gyd o dan fentoraeth Becar gora Pesda. ‘Dan orychwiliad y meistr, roeddem ni’n hwylio am lannau anhysbell, a minau wrth fy modd:

Torth Mafon a Siocled Gwyn, Triog a Cnau Ffrengig, New Tork Deli Rye

pethau swni’m ‘di meiddio trio’n ty heb wythnosau o gynllunio, i gyd yn ran o fywyd bob dydd yn y becws.

Odd y master plan in motion. On’i am fod y pobydd gorau yng Nghymru.

 

Dim chdi dio, ond fi…

“Understand we hate this as much as anyone…”

“OND TI’N DISGWL TAN WAN I DDEUTHA FI!?!”

“Noooh…exactly. You know, it’s a crap situation for everyone isn’t it…”

Allan ar ‘nhin, ffedog dan fy nghesail, done.

Dim, rhesymeg, dim drwgdeimlad, mond canlyniad amcanu ariannol, oedd lot rhy obeithiol i’m cadw.

Mond cydymdeimlo alla i wneud. Gall neb ragweld y dyfodol, a rydym ni gyd yn rhedeg yr un meddalwedd meddyliol gwael. O dan y straeon ni’n weu, o dan y gobeithion a’r breuddwydion, dim ond goroesi di’n pwrpas. Mewn byd weddol saff, mae pwrpas i’n bywyd felly yn anoddach ac yn anoddach i’w ddiffinio, sy’n golygu mwy a mwy o boen meddwl i ni gyd. Confirmation bias, extrapolation bias, Illusion of Validity, galwch o bebynag ‘da chisho’, y gwir ydi, dan i dal yn ddiawledig yn prosesu colled. ‘Ma ‘di brofi bo ni’n ymateb yn emisiynol i golled riw ddwywaith mor gryf a ‘da ni i enill.

Rho £10 am y £5 na a ddain hapus.

Dyma, yn y bn, yw probem y swydd delfrydol, ma’n lythrenol rhy dda i goll. Yn union fel y rhagolygydd or-awyddus, ‘ona sglein i ddarlun fi o nyfodol, ‘di selio ar lwc da’r gorffenol, a er bo’r darlun run peth ag erioed, mai’n anodd rhoi’r gora i’r sglein na:

Sa cadw £5 ar ôl derbyn £10 yn union fel enill ddim byd.

 

Cadwa mewn cyswllt, ia…

“We’ll do everything we can for now, you can do some shifts in the restaurant…”

“HANDI BO FI’N GWITHIO I UN ARALL YN BAROD DE!”

“Ye…that could work…”

Er bod yr athroniaeth yma’n grêt, be amdan y pres, angan byw dal i fod does? 

Lwcus i mi, odd ginaf i swydd arall yn barod, a dyna odd y peth gora neshi yn y bon. Amrywiaethu i ffwr o’r swydd delfrydol.

Cyn hyd yn oed dechra’n Dylan’s, y syniad oedd bofi’n ca gymaint o brofiad ym myd coginio a ‘swni’n medru. Fellu, 6 mis yn gynt, geshi joban arall yn neu pizzas yn y Pizza & Peint Llanberris. Er bod hyn mond yn gadal fi efo riw bedwar awr o gwsg y noson, mi oni’n gwnued riw 70 awr yr wythnos yn y gegin, oedd yn drochiad digon trylwyr ym myd coginol Cymru.

Os unrhyw beth, ca’r sac odd y peth gora ‘sa ‘di medru digwydd. Ma gen i’n egni’n ôl, fy amsar yn ôl, a’n bwysicaf oll, fy mhen yn ôl ar fy ‘sgwyddau. Heb y pwsh, ‘swni’m yn ‘sgwennu hwn, ‘sa Artisaniaeth.com ddim yn bodoli, swni’n gwneud dim ond gweithio, cysgu, buta…a gweithio. Dio’n sicir ddim yn hadd ca dy neilltuo, ond ma’n bwysicach atgoffa dy hyn ta ddim chdi oedd y swydd na.

Dal i ddysgu, dal i symud a câd dy ben tua’r gorwel dduda i, a felma, ei di byth ar goll yn helunt y tonnau.

 

Mwy o DDarllan

Os da chi di mwynhau hwna, rhannwch yr erthygl a wrth gwrs, croeso i chi ddarllan mwy fama am be’n union ydi bywyd bob dydd becar a’r effaith ma’n gal ar dy gwsg, dy feddwl, a mwya pwysig, dy freichiau!