Brynish i Sgidia Newydd Heddiw

Hang up your boots, Converse

Hooked dydach!

Wedi deud hynnu, swn i’m yn roid bai arna chi am fod chwaith de. Ma na gymaint o ddrama a thor calon, mewn fi’n prynnu sgidia, swni’n medru ail sgwennu’r Illiad efo’r hannes i gyd. Ond eto, ma be sy’n peri poen i mi yn obsessiwn i rai, felly’n amlwg ma na fwy i brynnu sgidiau na’r amlwg. Os di o’n bwnc digon cymhellol bod GIFs ar gael amdanafo, yna ma raid bod rhywbeth i hyn yn does!

Image result for new shoes gif

Felly be yn union ydio am y datganiad di-nod:

“Brynish i sgidia newydd heddiw”

su’n apelio mor gryf i’n secioleg? Dwi’n sicir yn dal i gael flashbacks prynnu sgidiau, felly i ymchwilio hyn yn iawn, fel sesiwn therapi da, ma angen mynd nol im mhlentyndod.

 

Y Broblem “Back to School”

Ma’r atgof dal yna, mor glir ag erioed. Cerdded stryd Bangor efo Mam, wythnosau’r gwyliau haf yn sydyn dod i ben. Rownd a rownd y siopau, hel beiros, siwmperi, dyn sinsir bach slei, ond Clarks oedd pen y siwrnau bob tro. Yr unig dro swn i di bo’n hapus goro siopa trwy dydd. Fel Frodo i Mt Doom, sa Mam yn halio fi fewn i Clarks , sodri fi lawr ar un o’r meinciau bach na, a fanno fysem ni wedyn. Dim symud nes bod par newydd o sgidiau ar fy nhraed

Dychmygwch o; Plant ym mhobman, rhieni stresd, dieithriaid  yn cyffwrdd fy nhraed! I fachgen bach sensitif, mond saith mlwydd oed, doedd yna nunllef yn waeth na Clarks Bangor ar bnawn Sadwrn. Ond y peth gwaethaf am hyn i gyd, yn waeth na popeth arall?

dewis!

Criau neu felcor, trainers neu sgidiau, seis 6 ta seis 7 (Fine! Deuddeg oeddwn i OK!), golau neu ddim golau! Odd y dewis yn ddigon i yrru fi’n full on Rain Man. Drai mond dychmygu sud odd Mam yn teimlo:

Image result for Rain Man gifs

Onid y dewis aruthrol yma sy’n gwneud sgidiau mor apelgar?

 

Os ta’r dillad su’n gwneud y dyn, be amdan y sgidau…

Sgidiau! Sgidiau rhedeg, sgidiau cerdded, sgidiau gweithio, sgidiau downsio, sgidiau uchel, sgidiau isel, ma esgid i’w weld ar gyfer pob pwrpas dan haul. Am rimyn o ledar a fabric a’i bwrpas i dreulio oes rhwng dy droed a’r tarmac, ma’n sgidiau ni i weld yn hynod bersonol. Meddyliwch am y teimlad na, o eogrwydd, o weld par o sgidiau’n y cwpwr, yn spotles, heb owns o ddefnydd:

Plimsols clubio heb sodla sticky, Bŵts cerdded Berghaus â sglein ar y bodiau, Wellingtons heb gronyn o gachu mewn golwg.

Efallai mae buyer’s remorse ydio, teimlad bod y dewis a wnaethom yn anghywir. Ond pabynag ffor ma edrych arni, symbol o benderfynnu, heb weithredu, yw esgid o’r fath yma i mi. Llythrennol gamau heb eu cymeryd.

A’i dyma, felly, wir arwyddocâd yr esgid. Hysbyseb i’r byd sy’n cyhoeddi ffor o fyw, a’n addewid personol i barchu’r modd yma o fyw. Beth felly, yw arwyddocâd rhoi’r gorau i bar o sgidiau? Ydym ni, mewn gwirionedd, trwy daflu’n sgidiau, yn rhoi ffor o fyw i’r neilltu? Esboniad dilys i’r gofid deimlwn innau ar y pnawniau tyngadfenol yna, ar stryd fawr Bangor, pan fyaddai croesi trothwy Clarks yn golygu ffarwelio a’r cyfarwydd, a derbyn helbul blwyddyn newydd o ysgol.

 

Parch newydd i’r hen idiom

Un peth ma’r dadansoddi drost ben llestri ma wedi gneud, ydi dod a dealltwriaeth newydd i mi o felysdod chwerw y dywediad:

“hang up one’s boots”

(neu “crogi ei thelyn ar yr helyg” fel ma dweud yn ôl y son…ella safia i hwna ar gyfer exposé coed Dolig am wan).

Y gwir ydi, rheswm bodolaeth Artisaniaeth.com yw i mi golli fy swydd fel pobydd yn ddiweddar, a’r rheswm i mi brynnu sgidiau ydi bod angen rhai newydd ar gyfer fy swydd fel pizza chef. Ma’r hannes a helynt yn Clarks felly’n atseinio’n gryf yn ddiweddar wrth i mi glicio trwy’r tabs di ddiwedd yn y browser yn tio dod o hyd i’r par perffaith o sgidiau. Y peth ydi, basic iawn yw sgidiau chef, efo dewis bach, a ddim llawer all fynd o’i le mewn dewis par.

Pam felly, mod i dal methu dewis par o sgidiau, a hwythau am dreulio’u hoes dan domen o flawd beth bynag, yn hollol anweladwy.

Gofid, wrth gwrs. Diffyg derbyn bod bywyd, a mod i, yn gorfod symud ymlaen. Trwy brynnu sgidiau newydd, i’r swydd newydd, ma’n golygu rhoi’r gorau i fy nghyswllt olaf i’r becws a i fy mywyd fel pobydd professiynol. Felly ysgrif galaru yw hwn, yn coffau fy hen Gonverse becws, y sgidiau cyntaf, y gorau, a’r mwyaf amhriodol, i’m hebrwng i’m swydd cyntaf ym myd pobi professiynol.

Hang up your boots, Converse

Epilogue

Er diddordeb, mi wnes i brynnu sgidiau yn y diwedd. Dyma i chi felly, canlyniad tair wythnos o ymchwilio di-angen.

Ollie II, diolch i Shoes for Crews (dim cyswllt arianol…eto)

Fyddwch chi’n falch o glywed eu bod nhw (wrth gwrs) yn well na’r hen Gonverse. Sna’m tyllau am un peth,  a dydi llawr gwlyb ddim yn berygl farwol rhagor.

Er, dw i bellach yn fwy…

 

Jacques Cousteau

 

na

 

Anthony Mangieri

 

…ond dwi’n hapus.

 

Efallai bod yr Ollies braidd yn hyll, heb gymeriad yr hen Gonverse, rhy lan sa chi’n deud. Ond dibwys yw cwynion o’r fath tra bo’r un traed dal ynddom nhw, dal i gerdded yr un ffordd.

A oleia di Mam ddim yn goro prynnu’r sgidiau i mi rhagor (er bod hi dal i drio).

Darllen Pellach

Gobeithio eich bod yn gweld dewis sgidiau mewn golau newydd wan, neu o leia wedi mwynhau’r erthygl. Os oes angen mwy o ddewis yn eich bywydOs oes dal awch dewis arnoch, croeso i chi ymweld a’r Gegin, sy’n llawn dewis reseitiau a fideos i chi ga browsio.