Fy ngwers i ar sut i greu’r toes cwcies gorau erioed. Wedi ei brofi, efo gwyddoniaeth, i fod yn 100% blydi lyfli.
Addasiad yw’r rysáit yma o The Best Chocolate Chip Cookies gan J. Kenji López-Alt.
Cliciwch am y rysáit llawn efo mesuriadau a technegau.
Nodyn: Mae’r rysáit isod yn wahanol i’r un a ddefnyddir yn y fideo gan ein bod ni’n cyflwyno aer i mewn i’r toes drwy chwipio’r menyn a’r siwgwr at ei gilydd yn lle’r wyau a’r siwgwr.
Gwyddoniaeth yw hwn cofiwch, sy’n golygu bod yr hyn rydym yn adnabod fel ffaith, wastad yn agored i’w adolygu, os ddaw tystiolaeth newydd i’r amlwg…er gwaethaf ein credoau personol.
Paratoi’r Toes
Hufennwch y Siwgwr a’r Menyn efo wisg drydanol nes bod yn olau a’n ysgafn (~ 7 munud)
- 8oz / 225g Menyn di Brownio (tiwtorial yma)
- 5oz / 140g siwgwr (caster neu ronynnog)
Curwch yr ŵyau a’r fanila i mewn new i’r gymysgedd droi’n llyfn. ( ~ 5 munud)
- 2 ŵy mawr
- 2 tsp rhinflas fanila
Curwch gweddil y siwgwr i mewn yn sydyn. ( < 1 munud)
- 5oz / 140g siwgwr brown (tywyll neu Muscovado)
Cymysgwch y blawd, sodiwm bicarbonad a’r halen i mewn i’r gymysgedd gyda llwy/sbatiwla nes bod y blawd bron a diflannu. ( < 1 munud).
- 10oz / 220g blawd plaen
- 1 tsp / 5g sodiwm bicarbonad
- 2 tsp / 10g Halen môr (neu 1tsp halen bwrdd)
Cymysgwch eich blasau (15-30 eiliad)
- 8oz / 225g o topin eich dewis (Siocled tywyll, mafon wedi’u sychu, siocled gwyn, ayyb)
- 1tsp / 10g o rinflasau (sest lemon, powdwr coco, rhinflas almon etc)
Gorchuddiwch y toes cwcis mewn cling film a’i adael yn y fridge (o leiaf 12 awr, 2 ddiwrnod yn ddelfrydol, 5 diwrnod ar y mwyaf)
Pan yn Barod i’w Pobi.
Cynheswch y ffwrn i 180°C (160°C fan).
Leiniwch dun pobi (ochrau isel) efo papur pobi.
Rholiwch y toes cwcis mewn i beli o ryw fath (mor fawr a ‘chi isio) cyn eu gosod ar y tun pobi.
Rhowch y tun yn y ffwrn a pobwch nes bod eu hymylon yn euraidd (ma’n iawn i’r canol fod reit feddal). (8-10 munud)
Tynnwch y tun o’r popty a gadewch i’r cwcis oeri. (2 funud)
Unwaith oerith y cwcis ddigon i chi allu’ symud (mi galedent nhw wrth i’r siwgwr tawdd ynddyn nhw’n oeri ac ail grisialu), rhowch y cwcis ar rac wifren i oeri’n gyfan gwbl…ond mae hefyd croeso i chi fwyta nhw’n boeth a phobi mwy ar gyfer wedyn!
Beth bynnag wnewch chi, gobeithio eich bod wedi mwynhau hwn, a’r cwcis (wrth gwrs).
Am drafodaeth fwy dwys o sut allwch chi addasu’r toes yma i’ch dant penodol chi, cymerwch olwg ar ein Dadansoddiad Toes Cwcis draw yn y Y Lab. Fan hyn, ddai’n dadansoddi’r effaith pob cynhwysyn yn ei dro, efo’r gobaith o allu deall yn union sut i reoli rhinweddau toes cwcis. Fel hyn, efallai fedrai helpu chi bersonoli’r toes cwcis yma a chreu rysáit fydd yn drysor teuluol am flynyddoedd i ddod.