Dyma fi, laptop o’m mlaen, yn barod i ‘sgwenu, ond pam?
Fel rheol, ma bywyd yn dda. Addusg uwch radd, swydd dw i’n fwynhau, cartref rhy glyd a cariad dwi’n, wel, ei charu!
Gwyn yw fy myd yn de. Er, tybiaf bo rhan helaeth ong nghynilleidfa hefyd yn mwynhau daioni’r gwynfudwch yma. Swni hefyd fellu’m yn anghywir yn tybio bod wasdad lle i bach mwy o wyn, yn ein gwynfyd. Dim bod hyn yn beth drwg o bell ffor, mond edrych ar ein economy cyfalafol sydd raid gwneud, i nod dynsylwu’i bod hi’n nd dynol i fod wisiau mwy.
Awch newid sydd arnom ni gyd.
Wan os da chi’n disgwl rant yn cefnogi gadael y wraig a deutha’ch bos i fynd i grafu, fu raid i mi’ch siomi. Cefnogi tyfu fel person ydwi, nid cyfiawni bo’n bric. I fi, dyma ydi Artisaniaeth.com, esgys i mi ymchwilio maesydd bwyd sy’n bell o’r llwybyr bob ddai’n ddilyn fel chef pizzas. Ond, wrth i mi greu mwy a mwy o gynnwys digidol trwy gyfrwng y Gymraeg, efo dim math o awdurdod llenyddol, mae problem ar y gweill:
Oes lle, neu alw, am y Gymraeg ar y wê?
os oes, yw’r newid i ddwyieuthogrwydd digidol yn sialens rhy fawr i grewr ben i hyn
Snapchat, Twitter, Vines a Vlogs, lle i ddechrau? Ma pawb a’i gi, o hen ffrindiau ysgol (hint hint) i gwmniau rhyngwladol yn ceisio neidio ar y cyfrwng cymdeithasol diweddaraf i gyfleu’ neges i gynilleidfa ifanc newydd. Mond tair ar ddeg mlynedd yn hwyr i’r parti, mae S4C hyd yn oed yn ymdrechu i fachu gwilwyr o dan hanner can mlwydd oed efo’i sianel Hansh.
Efo bron i 12,000 like i’w tudalen Fecebook, mae Hansh i’w weld yn lwyddiant heb ei , gyda Gareth, DJ Bry a Sgrameer i gyd yn ymddangos yn reolaidd trwy’n feed Facebook yn ddiweddar. Yn amlwg mae’r galwad ynno am y Gymraeg yn y cyfryngau cymdeithasola, a dyma’r union alwad ydw i eisiau ateb efo’r wefan yma. Er hynnu, mai’n anodd iawn gweld sud all un person greu cynnwys safonol Cymraeg, all pawb fwynhau, ac yntai heb roid gair o Gymraeg i bapur yn y 7 mlynedd diwethaf.
Dim yn y Dafarn Mae Enill y Gadair
Ia, mi ddarllenoch chi’n gywir. Mor anrhydeddus oedd yr A* geshi yn y Gymraeg nol yn 2010, doedd o ddim yn IOU ar gyfar enill y gadair prybynag dwi fansi y dyfodol pell neu agos. Peidiwch a cam ddeall, ma fi a’r Gymraeg di bod yn ffrindia da ers i mi adael ysgol, mwy cyfarwydd rwan na ydwi efo llawer o’n ffrindiau o’r pryd. Ond llafar yw mherthynas efo’r Gymraeg hyd heddiw, a ma’r A*, fel hen gar di barcio, braidd yn rydlud erbyn hyn. Sdrach llwyr, fysa creu gwefan dwyieuthog. Ymdrechu’n ofer i blesio fractiwn llei’r rhyngrwyd, a hwythau’n barod di’ arfer a’u browsio yn Saesneg.
Pam trafferthu i blesio’r lleiafrif, a hwythau arfer a’u browsio yn Saesneg?
Onid dyma yw’r hen ddadl ers canrifoedd bellach? Bo’r iaith yn di bwrpas, yn anymarferol, heb angen bodolaeth yn sgil yr iaith gyffredinol o Saesneg. Er hynnu, dal i fodoli wna’r Gymraeg, a dal i esblygu a wneir. Pam felly?
Efallai, os edrychwn yn iawn,mae esblygiad yw’r ateb yn y diwedd.
Niwrowyddoniaeth yr Iaith Gymraeg
Life finds a way
fel y ma’r dywediad yn mynd. Yn y mannau mwyaf anhysbell, o dan yr amgylcheddau gwaethaf, tra bod organeb byw yn bod, mi wneith addasu, a mi wneith oroesi. Nid cyd-ddigwyddiad felly yw’r tebygrwydd rhwng iaith, a bywyd biolegol. Iaith, yn y bon, yw rhwydwaith o niwronau’n ein pen, yn gadael i ni dderbyn, prosesu, cysylltu ac allbunnu syniadau ar lafar.
I fynd cam ymhellach, meddyliwch wan am hunaniaeth. Be’n union su’n gwneud chdi yn chdi? Lle wyt ti? Rhywle tu nol i’m llygadau? Ond be os a i’n ddall, lle dwi wedyn? Dal yn fy mhen shwr o fod, diolch i weddill fy synhwrau. Ond beth os di heina’n myn hefyd? Di colli brauch yn gwneud fi’n llai fi? Be am goes, neu ail frauch, neu popeth ond y galon a’r ymenydd…a wedyn tafla’r galon hefyd.
Ma modd mynd yn bellach byth a dechrau tynnu’r ymenydd yn dipiau a fan hyn mae pethau’n mynd yn ddiddorol. Wan, darnau o’n hyn fyswni’n dechrau colli, ond mi fuaswni dal yn fi, just dipyn bach llai sydyn efo ngeirfa efallai…os yw hynnu’n bosib. Heb yrru scwp hufen ia trwy fy mhen, ma hi’n edrych yn debygol mae’r newid strwythur yr ymenydd yw’r ateb felly, i newi hunaniaeth. Trwy ail-weirio’r ymenydd, ma modd newid ei ‘bersonoliaeth’, wrth gysylltu syniadau ac atgofion mewn ffyrdd hollol wahanol su’n newid y ffor caiff gwybodaeth ei brosessu.
Beth felly ddigwyddir pan newidiwn ein hiaith. Dani’n gwybod bod iaith yn cael ei prosessu mewn mannau penodol o’r ymmenydd a mae tystiolaeth ar gael i awgrymu bod pobol dwyieuthog yn prosessu’r ieuthoedd mewn manau hollol ar wahan o fewn y mannau hyn. Gyda gwahaniaeth mewn safle daw gwahanol rwydweithiau, a felly gallwn ddisgwl i rwydwaith nirwonau un iaith gael cysylltiadau hollol wahanol i’r iaith arall.
Yw gwahaniaeth strwythur yr ymenydd felly’n awgrymu’n ein bod yn bobol gwahanol yn y Gymraeg, na yn y Saesneg?
Nid cwestiwn i mi ateb yw hwn, mae gwyddonwyr llawer gwell ar gyfer hynnu. Efallai nad ydym yn bobol holl newydd, wrth newid o un iaith i’r llall, ond does dim gwadu bod newid iaith am newid cyd-destyn trafodaeth. Mae’r iaith ei hyn, wrth gyfleu syniad, am gyflwyno tuedd i’r hyn caiff ei drafod, yn sgil arwyddocâd yr iaith yng ngho, ac ym mywyd y siaradwr. Ffol felly fysa meddwl fy mod i mor berffaith a gweld byd un lliw, boed hi’n Gymraeg, neu’n Saeasneg oll.
Gweld y Byd Mewn Lliw
Dyma fi felly, laptop dal o mlaen, a dipyn llai parod i sgwenu.
Dwi’n deud hyn o’r ffaith bo fi’n gwybod faint o waith sydd o mlaen i. Gwaith hollol di-angen dwi dal newydd fanijo dwblu. Ond ta waeth, efallai bo’r lôn yn hirach a lot mwy anhysbell, ond bedi’r och pan mae nunllef ma’n arwain.
Ffor wela i hi, fedrai boeni’n ofer am le dwi’n mynd, neu bo’r car yn ry hen, neu drai fwynhau’r olygfa o mlaen, o dirwedd cyfryngol Cymraeg lled agored i mi ga anturo drwyddi. A er ma slo fydd pethau’n ddechrau, fydd o’m yn hir nes i’r hen gar ffeindio’i lais unwaith eto.