Sut ma’ dy fanana?
Os, yw eich bananas yn fwy brychni na brecwast, peidiwch a phoeni a dilynwch fi. Heddiw, na am wthio’r ffrwythau anffodus ‘na i’r brig o be allwn ddiffinio fel solid. Dyma bara banans, efo microdon!
Cliciwch am y rysáit llawn efo mesuriadau a technegau.
Nodyn: Mae’r rysáit isod yn ddigon ar gyfer un dorth tin mawr…neu faint fynoch chi o gaceni o unrhyw faint, bara bananas yw hwn, dim neuroscience.
Paratoi’r bananas
Aeddfedwch eich bananas mewn bag wedi ei selio (2-3 niwrnod)
Nwy ethylene sy’n gyfrifol am aeddfedu ffrwythau. Fel hormon naturiol, mae ffrwythau’n cynhyrchu’r mwy a mwy o ethylene wrth heneiddio. Wrth selio’r bananas gyda’i gilydd, rydym yn dal yr ethelen maent yn cynhyrchu sy’n cyflymu eu proses o aeddfedu
- 5 banana
Unwaith mae’r bananas yn aeddfed
Gorchuddiwch bowlen o’r bananas aeddfed efo cling film a’u coginio mewn microdon ( 5 munud)
Mi wneith hyn ryddhau dŵr o’r bananas. Dyma sut rydym ni am facsimeiddio’r blas banana, heb orfod cyflwyno gormod o ddŵr i’r gymysgedd sy’n tueddu i greu cacen ddwys, stwnshlyd.
- 5 banana aeddfed iawn
Sefwch y bananas mewn gogr dros fowlen a gadewch i’r hylif ddraenio ohonynt. ( ~ 15 munud)
Dylech chi gael rhwng 120-180ml o ddŵr allan o’r bananas.
- 5 banana o’r microdon
Berwch yr hylif banans mewn sosban i’w dwchu. ( ~ 5 munud)
Mi fydd angen ei leihau lawr i tua 60 ml o hylif.
- sudd y bananas
Ychwanegwch yr hylif bananas yn ôl i’r bananas meddal a’u stwnsio nes bron yn esmwyth
- Sudd bananas wedi’ dwchu
- bananas meddal
Mae’r bananas rŵan yn barod i’w defnyddio yn y rysáit
Paratoi’r gacen
Whisgiwch y siwgwr, wyau a fanila i mewn i’r gymysgedd banana. ( ~ 5 munud)
- stwnsh banana
- 150g siwgwr brown golau
- 2 ŵy mawr
- 1 tsp rhinflas fanila
Ychwanegwch y cynhwysion sych i’r gymysgedd a’u cymysgu’n ysgafn gyda llwy/sbatwla. ( < 1 munud )
Dylid bod dal golwg blawd yn y gymysgedd, mi wneith hyn arbed y gacen rhag bod yn rhy solid.
- 8 3/4 oz / 250g blawd plaen
- 1 tsp / 5g sodiwm bicarbonad
- 1 tsp / 2.5g Halen môr (neu 1/2 tsp halen bwrdd)
Cynheswch y ffwrn i 180°C (160°C fan).
Leiniwch din pobi o’ch dewis efo papur pobi.
Gall hwn fod yn din torth, tin myffins, tin rhostio. Beth bynnag ydych chi eisiau fel siâp i’ch bara bananas.
Rhowch y gacen yn y ffwrn a phobwch (55 – 75 munud i dorth, 35 – 45 i din pobi )
Mi fydd y gacen yn barod pan fydd ei chanol tua 95°C / 205°F, y pwynt lle ddaw cyllell / thermomedr yn ei chanol allan yn lân.
Tynnwch y tun o’r popty a gadewch iddo oeri. ( 1 awr)
Trosglwyddwch y i rac weiren unwaith mae’r gacen yn oeri digon i afael ynddi
Os ydych yn bwriadu eisio’r gacen, torrwch y gacen a’i throsglwyddo i’r rhewgell unwaith mae’r holl beth wedi oeri’n gyfan gwbl.
Efo’r gacen yn oeri / yn y rhewgell wedi’ thorri, rŵan yw’r amser i baratoi’r eisin.
Eisio’r gacen
Curwch y caws, siwgwr a fanila nes yn esmwyth. ( ~ 5 munud)
Araf bach mae gwneud hyn cofiwch, oni bai eich bo’n mwynhau llnau siwgwr oddi ar y bwr, y llawr a’r to o bosib
- 75g caws hufennog
- 150g siwgwr eisin
- 1 tbsp rhinflas fanila
Ychwanegwch yr olew a’i whisgio’n esmwyth. ( < 1 munud )
Dyma’r peth olew a roddodd y cysondeb (consistency) gorau i mi. Yn feddal ond yn dal pwysau ei hun ar dymheredd ystafell, ond yn llifo’n rhydd wrth wi gynhesu i dymheredd corff yn y meicrodon.
- 25-30g olew had rêp (neu olew arall â blas niwtral)
Tynnwch y bara bananas o’r rhewgell.
Cynheswch yr eisin mewn microdon nes ei fo’n llifo’n rhydd ( ~ 10 – 20 eiliad )
Cofiwch gymysgu’r eisin wrth gynhesu I sicrhau ei fod yn gynnes drwyddo. Mae hyn yn hanfodol i gadw llifo yr eisin yn gyson, a gorffeniad eich cacenni’n esmwyth.
Llwywch / peipiwch yr eisin ar y gacen, yn gweithio o’r ochrau fewn.
Gwnewch hyn efo’r caceni ar rac weiren, wedi’ osod drost din pobi, i ddal yr eisin. Y gobaith yn fan hyn yw bod yr eisin cynnes yn taro’r gacen oer a’n caledu’n syth wrth iddo lifo dros yr arwyneb oer. Fel hyn mi fydd gan y gacen haen eisin solid ar dymheredd ystafell sy’n edrych yn hollol esmwyth.
Storiwch y cacenni yn yr oergell i galedu ac i’r bara bananas gael dadmer cyn gweini.
Mwy o stwff
Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r arbrawf bara bananas yma fewn i eisin ac ethylene. Am fwy o kitchen hacks croeso i chi fynd i edrych ar ein Toes Cookies sy’n defnyddio Menyn ‘di Brownio fel y cynhwysyn hud (a dwi’n addo fydd o’m yn drewi’r microdon allan fel y bananas).