Criw reit gyfrinachol yw’r gwneuthurwyr bwyd ‘ma chi. Anaml iawn cewch chi bopeth ar blât ganddyn nhw, yr 11 Original Herbs and Spices Criw a’u union grynodebau ‘di printio’n ddel yn y rhestr cynhwysion.
Allwch chi ddychmygu felly bod ail greu teacake am fod yn dasg reit anodd. Yn enwedig pan mae hyn yw’r unig beth sydd gennai ddilyn:
Na, slei iawn yw’r gwneuthurwyr ‘ma, ond nid digon slei! Fel ma’ hi’n digwydd, mae cyfrifiadur efo fi, ac efo’r twlsyn iawn, mae’n medru gwneud gwyrthiau.
Cracio’r Côd
Lle i ddechrau dywed? Y rhestr cynhwysion efallai? Syniad da.
Daeth y cliw cyntaf o’r rhestr cynhwysion. Mae’r canran o’r pwysau mae bob rhan o’r teacake yn ei gymryd wedi ei brintio, efo’r canran bisged, mallow a siocled yn 28%, 38% a 34% yn eu tro. Mae hefyd, wedi’ brintio, rhestr o’r cynhwysion o fewn y rhannau yma. Y broblem oedd bod dim sôn am ganrannau’r cynhwysion yma, sy’n broblem.
Un peth daeth o’r rhestr oedd bod dim gelatin yn y llenwad mallow. Roedd hyn yn awgrymu i mi mae nid gwir marshmallow mo’r llenwad mallow, ond Meringue Eidaleg! Cadarnhawyd y theori gan fod surop glwcos fel ychwanegyn yn y mallow, siwgwr gwrthdro a ddefnyddir yn aml i sefydlu meringue (ma ei fod mor hygroscopic).
Efo cynhwysion y llenwad mallow a’r gragen siocled llefrith wedi’u sortio, roedd hi’n amser taclo’r fisged..
Gwir werth gwybodaeth faethol
Heb glem am faint o bob cynhwysyn oedd angen arnaf i greu’r fisged, roeddwn i angen help.
Roedd angen taenlen arnaf.
Y daenlen yw fy mabi bach i. Taflen yn Google Docs ydi o efo archif o bob cynhwysyn ‘dwi ‘di defnyddio yn y gorffennol. Gyda’u dwysedd, canran dŵr, ratio brasterau dirlawn i annirlawn, popeth (http://convert-to.com/ yn grêt am wybodaeth fela). Mae hyn yn galluogi i mi gopïo rysáit o’r we, a’i drosglwyddo i rysáit canrannol. Mae hyn wedyn efo’r mantais o gael gwared ar y trafferth o drosglwyddo rhwng gwahanol undeau pwyau (blydi cups!).
Sut mae hyn am helpu gwneud teacakes?
Wel, fel hacker o’r 90s, mi roedd hi’n amser croes gyfeirio!
Efo’r daenlen, mi roeddwn i’n medru edrych ar werth maeth bob un cynhwysyn yn y teacakes yn eu tro. Mi roedd felly modd cael gwerth maethol cymharol bob cynhwysyn yn defnyddio’r wybodaeth am eu pwysau cymharol fel rhan o gyfanrwydd y teacake. O gymryd swm y gwerthoedd maethol yma wedyn, mi roedd gwerth maeth efo fi ar gyfer fy rysáit teacakes i fel cyfanrwydd. Yr unig beth oedd ar ôl i wneud wedyn oedd chware efo’r cyfrannedd cynhwysion nes bo’r gwerthoedd maethol ar gyfer teacakes fi’n cytuno â’r gwir werthoedd oddi ar y wefan Tunnock’s.
Yn defnyddio’r wybodaeth am bwysau canrannol bob rhan o’r teacake, roedd modd cymharu’r ddau i gael syniad o faint o bob cynhwysyn oedd yn be.
Y gwir yn y ffibr
Fel unrhyw heliwr gwerth ei halen, mi welais y cliw gyntaf yn y ffibr. Gan mae’r unig ffynhonnell ffibr yn y teacakes yw’r blawd, roedd modd defnyddio’r gwybodaeth ffibr i gydbwyso’r ddau flawd.
Nesa, symudais ymlaen i’r braster. Efo’r mallow mond yn siwgwr a gwynnwy, daw braster y teacakes o ddau le, yr olew yn y fisged a’r siocled yn y gragen. Yn ffodus, roedd canran pwysau’r gragen i’r teacake yn dweud popeth oedd angen arnaf am faint o fraster dirlawn ac annirlawn mae siocled yn ei gyfrannu i’r teacake. Yr unig beth oedd angen gwneud wedyn oedd cydbwyso pwysau’r olewau yn y cynhwysion i gael i lefelau braster priodol.
Mi wna i dderbyn fy mod wedi newid y rysáit rywfaint yn fan hyn, yn defnyddio menyn yn lle olew palmwydd. Er hyn, mi arhosais yn ffyddlon, yn cydbwyso’r menyn ac olew had rêp i gael cyfrannedd brasterau dirlawn i annirlawn mor agos i’r gwreiddiol a oedd posib (o fewn 0.3%)
Er mwyn gwneud y mallow, mi gymerais fod mwyafrif o’r siwgwr yn y mallow, efo ond tua 10g o siwgwr i bob cant yn y fisged, oedd yn gadael fi efo mallow oedd yn hanner a hanner, siwgwr i wynnwy pan oeddwn yn cymharu’r siwgwr a’r protein oedd ar ôl i’w cyfrifo (mond 10% protein yw gwynnwy, efo’r gweddill yn ddŵr).
Yn y diwedd, mi greais i hwn, y rysáit meistr:
Felly dynna hi, dyma’r rysáit ddefnyddiais i ar gyfer ail greu Tunnock’s Teacakes. Os oeddwn i’n iawn ai beidio, pwy a ŵyr, mi gawn weld os glywai unrhyw beth gin y cyfreithwyr!
Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am y sut ddyfeisiais y rysáit, neu pa daenlen ddefnyddiais i, gadewch gomment. Nai drio fy ngorau i glirio fynnu unrhyw gwestiynau.
.