Yr hen freuddwyd o:
‘Tybed ‘swni’n medru ail greu hwn adre?’
Yr ateb yw reverse engineering.
Heddiw, ‘dwi am ail greu y clasur hanner biscuit hanner sweet na, y Tunnok Teacake, neu munchmallows, fel sa cyfreithiwr hawlfraint yn dweud wrthoch.
Am yr holl stori am sut canfuwyd y rysáit yma, ewch i’r Lab am y stori llawn.
Ond, am y rysáit efo’r holl fesuriadau a thechnegau, cliciwch isod.
Mi gefais i riw 12 munchmallow allan o’r rysáit yma ond mi fydd hyn yn dibynnu ar faint eich bisgedi a faint o hael ydych chi efo’ch siocled
Paratoi’r bisgedi
Cymysgwch y powdwr pobi, blawd, siwgwr, menyn ac olew i ffurfio toes brau. ( ~ 2 funud)
- 110g blawd plaen
- 90g blawd gwenith cyflawn
- 60g menyn tawdd
- 30g olew had rêp
- 30g siwgwr gwyn
- 1 tsp powdwr pobi
Rholiwch y toes allan a’i dorri’n gylchoedd o faint a thrwch eich dewis. ( 10 munud ) [ yn y fideo ]
Mi fydd y toes yn rhydd iawn felly rholiwch yn esmwyth a’n araf, efo digon o flawd ar y bwrdd. Os yw’r toes yn rhwygo, gwasgwch o fewn ar ei hun o’i ochrau i gau’r tyllau, cylchdrowch y toes, a rholiwch o allan eto ar ongl wahanol.
Trosglwyddwch y cylchoedd toes i din bobi ochor isel wedi’ leinio â phapur pobi.
Gallwch ail rholio’r darnau toes sy’n weddill nes bo’r toes i gyd wedi’ ddefnyddio.
Pobwch y bisgedi ar 180°C (160°C fan). (10-12 munud)
Ni ddylai’r bisgedi newid eu siâp ond mi fyddem wedi brownio rywfaint.
Tynnwch y tun o’r popty a gadewch i’r bisged oeri. ( 10 munud )
Trosglwyddwch y bisgedi i rac weiren unwaith maent wedi oeri digon i afael ynddynt.
Efo’r bisgedi’n oeri, rŵan yw’r amser i baratoi’r filling mashamalo.
Paratoi’r marshmallow filling
Yn ôl y sôn, meringue syml yw’r marshmallow mewn Tunnocks (does dim gelatin yn y cynhwysion). Am y rheswm yma, mond angen dilyn ein rysáit Meringue Eidaleg hyd at ‘Defnyddio y meringue’ sydd angen gwneud.
Mae’r gymhareb 3:2 siwgwr i wynwy am fod mwy addas na’r un 1:1 ddefnyddais i, felly bydd angen
- 198g siwgwr
- 4 gwynwy
Gallwch un ai mowldio’r meringue, neu eu llwyo ar ben y bisgedi fel llenwad i’r munchmallows [ yn y fideo]
Dyma lle geisiais y dempro’r siocled, mae hyn yn opsiynol…a’n annhebygol o weithio…mwynhewch.
Paratoi’r siocled
Torrwch y siocled yn ddarnau, yn cadw rhan ohono i’w gratio.
- 300g siocled tywyll
Meddalwch y siocled nes iddo gyrraedd 45°C ( ~ 2 funud yn y microdon / 5 munud mewn bain marie )
Bwriad y cam yma yw meddalu’r crisialau braster yn y siocled, yn creu llechen lan o fath.
- 250g siocled wedi’ dorri
Oerwch y siocled lawr i dymheredd ychydig uwch na 32°C
Ar 32°C mae braster y menyn coco yn dechrau ymsolido i grsialau phase VI, y strwythur sy’n creu siocled sgleiniog, efo brathiad iddo.
Meddalwch gweddill y siocled wedi’ gratio i mewn i’r siocled tawdd, yn ei droi’n ddi-baid.
Hwn yw’r cam hadu. Trwy ychwanegu siocled wedi’ dempro’n barod, mae crisialau o’r siâp cywir yn cael eu dosrannu trwy’r siocled tawdd. Gall y siocled tawdd yna grisialu o gwmpas yr ‘hadau’ ac felly mi fydd y siocled i gyd wedi’ dempro.
Daliwch y sioced tawdd rhwng 31 a 32°C, yn dal i droi bob yn ail munud ( ~10 munud )
Trwy ddal y siocled ar y tymheredd penodol yma, mae’r crisialau phase VI yn cael amser i dyfu a datblygu. Hwn yw’r pwynt lle eith popeth o chwâl. Uwch na 32°C, mi fydd y crisialau’n meddalu eto a fydd rhaid dechrau eto, is na 31°C ac mi rydych mewn perygl o gael cystadleuaeth rhwng crisialau, efo siapiau eraill yn tyfu i amharu ar strwythur y siocled, wneith ddifetha eich tempro.
Rheswm bod y cyfeiriadau ‘ma mor fras yw fy mod i i’n hollol ddwl i sut mae gwneud hyn yn gywir. Felly nes bod gennyf i beiriant Sous Vide, arbrofwr, nid awdurdod fyddai, sori 😛
Os ydych dal yn sefyll a bod popeth wedi gweithi, dylech chi rŵan gael munchmallows perffaith…haha!
Mwy o stwff
Gobeithio eich bod wedi mwynhau’r ymdrechion yma beth bynnag. Plis, commentiwch os oes gennych ffyrdd gwell i neud munchmallows na hyn, ‘sa feedback yn anhygoel. Hen bryd adeiladu’r gymuned fwdies Cymraeg ‘ma!