‘Dwi ‘di gwneud cheesecake, o’r diwedd.
Ond nid cheesecake arferol ‘mo hon. Oh na. Mai’n ddyletswyth arnaf i erbyn hyn i or-gymhlethu’r ryseitiau ‘ma, felly ewch wan, Paratowch y bath, ma’ hi’n amser pobi.
Am y rysáit efo’r holl fesuriadau a thechnegau, cliciwch isod.
Mi roedd y mesuriadau yma’n ddigon i lenwi tin cacen gron 12cm/6″.
Paratoi’r sylfaen bisged
Leiniwch din cacen fach, efo gwaelod gellir ei dynnu, efo papur pobi [0:27-0:35 yn y fideo]
Am ddisgrifiad gwell, cymerwch olwg ar y fideo Crymbl Afal Ben Lawr.
Cymysgwch y menyn efo’r bisgedi wedi malu i greu cymysgedd briwsionllyd ( ~ 2 funud)
- 90g bisgedi digestif (6 bisged)
- 40g menyn tawdd
Tywalltwch y gymysgedd i’r din a’i bwyso i mewn i’w waelod [0:50-1:00]
Defnyddiwch eich bysedd ar gyfer hyn, neu arwyneb fflat arall fel gwydr…neu fflasg Starbucks.
Trosglwyddwch y din i’r fridge i gael caledu. (30-40 munud)
Efo’r sylfaen bisged yn oeri, rŵan yw’r amser i baratoi’r cymysgedd sydd i’w lenwi.
Paratoi’r gymysgedd cacen gaws
Rhannwch rhan o’ch wyau, yn cadw’r melynwy
- 2 ŵy
Wisgiwch y hufen sur a’r caws meddal efo’r cynhwysion sych.
Wisgiwch nes bo’r gymysgedd yn dechrau tewychu, ond dim pellach,, fel arall mi fydd y gymysgedd wedi’ chwipio, sydd ddim yn ideal.
- 250g caws meddal
- 150g hufen sur
- 1 tbs / 15g blawd hunan lefeinio
- 30g siwgwr gwyn
- 1 tsp rhinflas fanila
- 1/2tsp halen
Wisgiwch yr ŵy a’r melynwy i mewn i’r gymysgedd caws, un ar ôl llall.
Pwrpas ychwanegu’r wyau’n araf yw gwneud siŵr bod y gymysgedd yn emyslu’n gywir, yn aros yn gyflawn, heb rannu.
- 1 ŵy
- 2 melynwy
Unwaith mae’r sylfaen bisged wedi oeri a chaledu, ewch ymlaen efo’r camau nesaf.
Paratowch fath dŵr a gosodwch y din cheesecake ynddo [1:54-2:02]
Rŵan yw’r pwynt i ferwi’r tegell, efo digon o ddŵr ynddo hefyd.
- 1 litr o ddŵr
Ychwanegwch smotiau o puree mefys i’r gymysgedd cheesecake a’i chwyrlïo drwyddo [2:05-2:13]
Byddwch yn gynnil efo’ch chwyrlïo, fel arall mi ddiflannith y mefys yn y gymysgedd a waeth i chi fod wedi’ wisgio fo i mewn wedyn ddim!
- puree mefys
Tywalltwch ddŵr berwedig i mewn i’r din rhostio.
Dylai lefel y dŵr ddod tua hanner ffordd fynnu ochor y din cacen yn ei ganol.
- 1 litr dŵr berw
Trosglwyddwch yr holl beth i’r ffwrn i’w bobi ar 140°C (120°C fan). (30-40 munud)
Mi fydd y cheesecake yn barod pan fydd y canol yn cyrraedd 65-70°C.
Unrhyw uwch ac mi fydd yr wyau mewn perygl o geulo, yn creu gwead brau, a’n arwain at gracio.
Ewch ymlaen efo’r camau nesaf unwaith mae’r cheesecake wedi cyrraedd y tymheredd mewnol cywir (wedi gorffen pobi).
Oeri’r cheesecake
Diffoddwch y ffwrn ac agorwch y drws. Gadewch y cheesecake oeri ynddo nes bo’r dŵr o’i amgylch tua thymheredd bys. ( ~ 40 munud )
Mae hyn yn gwneud siŵr bod y cheesecake yn oeri drwyddo ar gyfradd gyson hefyd. Y peth diwethaf ydych eisiau yw cheesecake sydd wedi’ bobi’n llwyddiannus ond sydd yna’n cracio am ei fod wedi oeri’n rhy gyflym.
Trosglwyddwch y cheesecake o’r bath dŵr, yn syth i’r fridge, iddo gael oeri’n hollol (o leiaf 3 awr)
Mae hyn fel bod y braster yn ymsolido eto. Fel arall, caiff gwead melfedaidd y caws meddal ei golli, ac mi fydd y cheesecake yn blasu mwy fel quiche neu darten gwstard.
Mwy o stwff
Dyna chi felly! Yr unig rysáit sydd angen arnoch chi i feistroli un o sialensiau mwyaf y gegin. Am y rysáit puree mefys, cliciwch yma. Neu, os ydych eisiau dysgu mwy am bwysigrwydd bath dŵr a rheoli tymheredd wyau, mae erthygl i ddod ar hynna hefyd.